Rhybudd i archfarchnadoedd yn Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
archfarchnadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pump o archfarchnadoedd yn ardal Rhondda Cynon Taf wedi cael rhybudd i wella eu trefniadau er mwyn atal lledaenu Covid-19.

Cafodd archwiliadau eu cynnal mewn dros 40 o archfarchnadoedd yn ardal yr awdurdod yn dilyn pryderon am ddiffyg camau priodol o fewn sawl siop er mwyn atal lledaenu'r feirws

Yn ddiweddar roedd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, wedi dweud nad oedd wedi cael profiad da yn ystod y pandemig mewn archfarchnadoedd a bod aelodau o'r cyhoedd hefyd wedi codi'r mater.

Dywedodd ar y pryd y byddai swyddogion iechyd amgylcheddol yn cael eu anfon i bob archfarchnad o fewn ardal yr awdurdod er mwyn gweld pa drefniadau sydd yn eu lle.

Mewn dwy neges ar wefan Twitter dywedodd Mr Morgan fod y swyddogion bellach yn gweithredu yn dilyn yr hyn a gafodd ei ddarganfod ganddyn nhw.

"Mae swyddogion y cyngor wedi archwilio dros 40 o archfarchnadoedd ar draws Rhondda Cynon Taf," meddai yn ei neges.

"Mae pob un o'r rhai a arolygwyd wedi cael cyngor ar ffyrdd o wella sut maent yn gweithredu, ond bydd wyth archfarchnad yn derbyn ymweliadau dilynol ac mae pump yn cael hysbysiadau gwella."

Aeth yn ei flaen i ddweud: "Tra gofynnir i archfarchnadoedd wella sut maent yn gweithredu o fewn rheolau Covid mae'n rhaid i bawb ohonom sy'n defnyddio'r siopau hyn ddilyn y rheolau, cymryd mwy o ofal a chofio i bellter cymdeithasol a defnyddio glanweithydd dwylo ac ati."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud eu bod nhw'n pryderu am gynnydd yn nifer yr achosion yn rhannau o Rhondda isaf, fel yma yn Nhonypandy

Dros y saith diwrnod diwethaf mae 96 yn rhagor o bobl wedi profi'n bositif i'r haint yn yr ardal, gan fynd a'r cyfanswm i 2,012 o achosion positif ers dechrau'r pandemig.

Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i bobl yn ardal y Rhondda isaf yn enwedig i ddilyn y rheolau, yn enwedig yn Nhonypandy, Porth a Phenygraig, yn dilyn y cynnydd mewn achosion.