Mapio Cymru - o leoliadau tafarndai i lefydd gwag

  • Cyhoeddwyd
Tri map o GymruFfynhonnell y llun, Dafydd Elfryn

Pa brifddinas sydd agosaf atoch chi - Dulyn neu Gaerdydd? Ble yng Nghymru sydd heb dai yno o gwbl? A pha artistiaid sy'n cael eu ffrydio fwyaf yn eu hardal enedigol?

Ar gyfer rhain - a chwestiynau eraill - mae 'na fap ar gael.

Dafydd Elfryn, o Gaernarfon, sy'n eu creu nhw yn ei amser hamdden a'u rhannu ar wefannau cymdeithasol.

Afonydd Cymru

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfyn

"Dwi'n meddwl bod hwn yn edrych fel rhan o'r nervous system, neu fatha veins.

"'Nes i fynd i Photoshop a gwneud iddo edrych yn 3D. Wnaeth rhywun ddweud "dwi'm yn gwybod sut 'da ni wedi cael lle i adeiladu tai", ond be' 'nes i oedd lle bynnag roedd yna afon, ro'n i'n ei roi o ar y map.

"Dim ots os oedd o'n Afon Hafren neu'n ffrwd bychan - roedd o'n cael lein.

"Os fyddai o'n dechnegol gywir fyddai o'n edrych yn wahanol. Mae lot o'r mapiau dwi'n 'neud yn rhai mwy stylised. Fyddai lot ohonyn nhw yn dda i ddim mewn adroddiadau swyddogol."

Cymru, Lloegr ac Iwerddon

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Yn y map ar y chwith, mae'r ardaloedd mewn gwyrdd yn agosach at Iwerddon na Lloegr. Mae'r map ar y dde yn dangos pa brifddinas yw'r agosaf - Dulyn neu Gaerdydd.

"Pan dwi'n gwneud map does gen i ddim syniad sut mae'n mynd i edrych ac mae'n gallu bod yn hollol disappointing pan ti'n gweld o.

"Efo'r un prifddinasoedd, ella mai dim ond Ynys Enlli fydda wedi bod yn lliw gwahanol."

Hanner gwag neu hanner llawn?

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Holl dafarndai Cymru sydd ar y map ar y chwith. Does yr un tafarn - na eiddo arall - o fewn y sgwariau bach gwyrdd yn y map ar y dde.

"Efo'r un sy'n dangos llefydd gwag, mae'r sgwariau gwyrdd i gyd yn un cilomedr sgwâr lle does 'na'm eiddo o gwbl. Mae lot o wybodaeth ar gael rŵan efo open data yr OS. Mae gan bob eiddo ym Mhrydain rif, a ti'n downloadio ffeil efo grid co-ordinates yr eiddo. Mae'n cymryd oriau i'w rhedeg nhw.

"Mae mapiau yn ffordd dda o gyfleu data ac mae pawb yn deall nhw.

"Mae pawb yn gwybod bod dŵr yn las a thir yn wyrdd. Fasa rhywun yn gallu cyfleu'r un wybodaeth efo graffiau neu dabl, ond mi fyddai angen siart yn egluro be' ydi bob dim.

"Ond efo map ti'n gweld siâp Cymru a ti'n gwybod be' sy'n mynd ymlaen. Mae wedi bod yn handi efo Covid-19. Ti'n gwybod yn syth lle mae'r hotspots efo lliw coch ar fap heb orfod darllen dim byd arall."

'Mapiau yn cŵl'

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Ardaloedd fyddai wedi eu heffeithio petai damwain pwerdy niwclear Chernobyl wedi digwydd yn Nhrawsfynydd.

"Ers dwi'n blentyn dwi'n meddwl bod mapiau yn cŵl. Dwi'n cofio'r cof gynta' gen i efo maps ydi cael copi o Lord of the Rings 'mrawd i - a ro'n i'n hoffi'r maps sy'n y llyfr.

"Dwi'n hoffi'r hen fapiau ac wedi copïo'r hen steil efo rhai o'r mapiau dwi wedi gwneud. Dwi ddim eisiau iddyn nhw edrych yn clinical, mae o fel bod rhywun wedi ffeindio map mewn hen ffolder.

"Dwi jest yn potshan a thrio eu gwneud nhw i edrych yn fwy diddorol yn lle jest map."

Tai gwyliau

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn

"Roedd rhywun wedi gweld map yn dangos tai gwag Cernyw ond doedd y data ddim ar gael i Gymru ond roedd yna ddata am dai gwyliau.

"Mae'r map yn cadarnhau be' ti'n gwybod yn barod am lefydd fel Abersoch ac ati - ond mae'n dangos yr arfordir i gyd yn goch. Ac wedyn pan ti'n meddwl amdano, wrth gwrs fan'na mae'r tai gwyliau.

"Tydi o ddim yn golygu mai dieithriaid sydd piau nhw - fyddai'n nhw'n gallu bod yn bobl leol. Dwi'n trio peidio rhoi fy marn ar y materion. Dim ond y data ydi o, ond efo rhywbeth fel yna mae'n jest neidio allan."

Mapiau 3D siaradwyr Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn

"Mae lot o feddalwedd lat-long[llinellau lledred a hydred ar fap] ond mae 'na rai hefyd o ran uchder - a ti'n gallu chwarae o gwmpas efo 3D.

"Weithiau mae'n cymryd oriau i redeg, a dwi mond yn gallu gadael y cyfrifiadur ymlaen a mynd i wneud panad, dod 'nôl a gweld be' sy'n digwydd."

Gwlad y gân

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y map yma ei greu fis Awst 2018

"Nes i ddechrau gwneud mapiau efo gwaith, ac wedyn gan mod i wedi dysgu'r sgiliau nes i feddwl wna i ddangos ar fapiau rhywbeth dwi eisiau gweld.

"Ar ôl gorffen ella dwi'n meddwl - 'mae hwnna'n edrych yn cŵl', wedyn ei roi fyny ar y we a ti'n cael ymateb pobl sy'n hoffi eu gweld nhw."

Hefyd o ddiddordeb: