Caerffili: Cyfrifoldeb ar dafarnwyr a'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Huw Fairclough

Dylai tafarndai a thai bwyta yng Nghaerffili ofalu bod eu cwsmeriaid yn dod o un aelwyd, medd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Am 18:00 nos Fawrth daeth cyfyngiadau clo newydd i rym yn dilyn cynnydd mawr yn yr achosion o coronafeirws yng Nghaerffili.

Bellach mae cyfyngiadau teithio ar drigolion y fwrdeistref, a bydd pobl ond yn cael gadael neu fynd yno gydag esgus rhesymol.

Er hynny mae'r diwydiant lletygarwch wedi cael aros ar agor.

Yn ystod sesiwn holi ac ateb ar Facebook nos Fawrth, dywedodd Mr Gething mai'r rheswm pennaf am y cynnydd yn yr achosion oedd pobl yn cymysgu yn nhai ei gilydd, ac nad oedd lledaenu'r feirws mewn tafarndai wedi cael ei weld.

Ond ychwanegodd: "Dylai pob tafarn neu dŷ bwyta edrych ar eu cwsmeriaid a gofyn a ydyn nhw mewn gwirionedd o un aelwyd unigol.

"Os ydyn nhw'n derbyn archeb gan ddwsin o bobl ar un bwrdd, yna rwy'n credu y dylai pobl ofyn iddyn nhw'u hunain os yw'r bobl yna yn dilyn y rheolau."

'Gorfodaeth yn opsiwn'

Bydd Cyngor Caerffili'n ceisio sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn, a doedd Mr Gething ddim yn diystyru cau'r sector os fydd angen.

Pwysleisiodd hefyd na fydd pobl o Gaerffili nawr yn cael mynd ar wyliau. Dywedodd y dylai pobl sydd eisoes wedi trefnu gwyliau gysylltu gyda'r cwmni teithio, egluro y byddai'n torri'r gyfraith iddyn nhw fynd a gofyn am eu harian nôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydd Mercher yw diwrnod llawn cyntaf y cyfnod clo lleol sy'n effeithio ar yr 181,000 o bobl sy'n byw yn y sir

Yn y cyfamser, mae'r dyn sy'n gyfrifol am yr ymateb i Covid-19 ar ran Heddlu Gwent yn dweud nad yw'n fwriad cyflwyno rhwystrau ffordd yn y sir.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Hobrough y bydd swyddogion cymunedol yn siarad gyda phobl mewn ceir ac yn ymweld â siopau a busnesau i sicrhau fod pawb yn ymwybodol o'r rheolau.

Dywedodd: "Mae'n ddealladwy pan mae cyfyngiadau sifil yn dod i rym fod pobl yn credu y bydd pethau'n cael eu cyflwyno i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio.

"Ond ry'n ni am i'r gymuned weithio gyda ni ar hyn fel ein bod yn gallu brwydro'r haint yma cyn gynted â phosib.

"Fel Heddlu Gwent, ry'n ni'n gobeithio cael cydweithrediad a chydsyniad y cyhoedd. Mae hwn yn rhywbeth i bawb.

"Mae gorfodaeth yn opsiwn i ni, ond fe ddaw hynny ar ôl siarad, addysgu ac egluro i bobl."

Cyfyngiadau mewn ardaloedd eraill?

Ar raglen Post Cyntaf ddydd Mercher dywedodd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod hi'n bosib y bydd yn rhaid cyflwyno cyfyngiadau mewn ardaloedd eraill o Gymru hefyd os y bydd na cynnydd mewn achosion.

"Mae Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn gweld ffigyre yn cynyddu ar hyn o bryd, a ffigyre yng Nghaerdydd hefyd yn cael eu edrych arno," meddai.

"Ond patrwm yw e - edrych ai yw pethau'n cynyddu o ddydd i ddydd a phatrwm dros wythnos a wedyn tystiolaeth o'r system profi ac olrhain."