Anfon disgyblion adref wedi profion positif Covid-19

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob disgybl ym Mlwyddyn 7 yn yr ysgol wedi eu hanfon adref i hunan ynysu

Mae nifer o ysgolion yn y de ddwyrain wedi gorfod anfon disgyblion adref i hunan-ynysu yn dilyn profion positif am coronafeirws.

Bydd blwyddyn ysgol gyfan yn gorfod hunan-ynysu am y pythefnos nesaf yng Nghasnewydd wedi i ddisgybl dderbyn canlyniad prawf positif am Covid-19.

Mae'r datblygiad yn effeithio ar bob un o'r 185 o ddisgyblion blwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Llysweri, a gafodd eu hanfon adref ddydd Mawrth.

Mae holl ddisgyblion ym mlwyddyn saith yn Ysgol Uwchradd Gatholig St. Joseph yng Nghasnewydd hefyd wedi eu anfon adref i hunan-ynysu gan fod achos positif yn yr ysgol honno.

Yn ardal Cyngor Sir Caerffili mae disgyblion chwe ysgol bellach yn hunan-ynysu yn dilyn canlyniadau positif ymysg yr ysgolion yno medd yr awdurdod lleol.

Yng Nghaerdydd mae cynghorydd sir yn dweud bod 25 o ddisgyblion yn hunan-ynysu hefyd, yn dilyn prawf positif.

Yn y cyfamser mae gwleidyddion yn y de ddwyrain wedi lleisio eu pryderon am y cynnydd yn y niferoedd o achosion o coronafeirws.

Mewn llythyr at rieni a gwarchodwyr, dywedodd pennaeth Ysgol Uwchradd Llysweri, Neil Davies: "Yn anffodus rydym wedi cael canlyniad o Covid-19 wedi ei gadarnhau ymysg un o ddysgwyr Blwyddyn 7.

"Mae hyn yn golygu, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd ni all holl ddisgyblion yn y grŵp blwyddyn yma fod yn yr ysgol a rhaid iddynt hunan-ynysu am 14 diwrnod."

Dywed swyddogion fod gwaith glanhau trylwyr yn cael ei gynnal yn yr ysgol, sydd yn darparu addysg i 800 o ddisgyblion.

Ychwanegodd y pennaeth nad oedd angen i unrhyw un nad oed wedi bod mewn cysylltiad gyda'r grŵp i hunan-ynysu na phryderu'n ormodol, ac y byddai gwaith cartref yn cael ei ddarparu i'r rhai gartref.

'Parhau i fod yn wyliadwrus'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Casnewydd fod "athrawon yn parhau i fod yn wyliadwrus o blant sydd yn dangos symptomau."

"Gall rhieni, gofalwyr a gwarchodwyr gefnogi hyn drwy barhau i fod yn wyliadwrus a sicrhau nad yw plant yn mynychu'r ysgol os ydynt yn arddangos symptomau."

Disgrifiad o’r llun,

Canolfan brofi newydd sydd wedi agor yn Y Porth yn y Rhondda

Mae tri achos o Covid-19 wedi bod yn ardal Casnewydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf, sydd yn gyfradd o 21.3 o bob 100,000 o bobl.

Daw'r newyddion am y disgyblion wrth i bobl yn sir gyfagos Caerffili wynebu ail ddiwrnod o gyfyngiadau symud, yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yno.

Mae 151 achos wedi bod yn y sir dros yr wythnos ddiwethaf, sydd yn gyfradd o 83.4 o bob 100,000 - y nifer uchaf yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae chwe ysgol yn y sir wedi gofyn i ddisgyblion hunan-ynysu o achos canlyniadau positif.

Mae'r rhain yn cynnwys un dosbarth yr un yn Ysgol Babanod Bedwas, Ysgol Gynradd ac Ysgol Gyfun Bedwas, a dosbarth yn Ysgol Babanod Llanfabon ger Nelson.

Hefyd mae un dosbarth yn Ysgol Gynradd St Gwladys ym Margoed a un dosbarth yn y chweched yn Ysgol Gyfun St Martin Caerffili yn gorfod hunan-ynysu medd y cyngor lleol.

Yn y cyfamser mae cynghorydd sir yng Nghaerdydd wedi dweud bod 25 o ddisgyblion yn gorfod hunan-ynysu yn y ddinas.

Dywedodd Jayne Cowan, dolen allanol bod y disgyblion yn Ysgol Gynradd Ninian Park yn cadw draw yn dilyn achos positif.

'Galwad i ddeffro'

Mae pryder hefyd am y cyfraddau achosion yn siroedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Wrth siarad ar Radio Wales fore dydd Iau, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol dros Blaid Cymru, Leanne Wood, fod pryderon am gyfnod clo arall yn Rhondda Cynon Taf yn "alwad i ddeffro".

"Does dim yn anorfod. Mae pawb ohonom wedi ymlacio ychydig ers pegwn yr argyfwng Covid," meddai.

"Dydw i ddim yn credu fod y negeseuon cymysg gan y llywodraeth wedi helpu - 'ewch allan am fwyd, peidiwch mynd allan, ewch ar wyliau, peidiwch a mynd ar wyliau' - mae pobl wedi teimlo'n fwy diogel ac wedi ymlacio eu hymddygiad o ganlyniad felly rhad i ni gyd ailfeddwl hyn nawr.

"Dyma alwad i ddeffro. Dyma rybudd... rydym mewn sefyllfa anodd yn y Rhondda.

"Mae na batrwm pryderus yma. Rwyf yn mawr obeithio nad yw hyn yn golygu fod ail don ar y ffordd."

Ychwanegodd ei bod yn credu y bydd y llywodraeth yn gorfod ailedrych ar y rheolau eto, ond ei bod yn gobeithio bod modd mynd i'r afael â'r broblem cyn gorfod cael cyfnod cloi arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gwleidydd arall sydd wedi lleisio ei phryderon ydy Dawn Bowden AS - yr aelod Llafur dros Ferthyr a Rhymni. Dywedodd wrth raglen Clare Summers ar BBC Radio Wales ddydd Iau fod y sefyllfa yn lleol yn achos pryder.

"Rydym wedi llwyddo i adnabod y rhesymau dros y cynnydd mewn achosion ym Merthyr ac nid dyma'r achos yng Nghaerffili.

"Rwyf am osgoi sefyllfa cyfnod clo o achos yr effaith ar yr economi'n lleol. Efallai bydd rhaid i ni fynd i gyfnod clo arall, er un lleol, ac fe fyddai hyn yn ergyd drom i'r rai hynny sydd wedi ceisio cydymffurfio gyda' rheolau a'r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi."

Ychwanegodd: "O'r hyn a welais yng nghanol tref Merthyr, mae tafarndai wedi bod yn gyfrifol iawn o ran yr hyn maen nhw'n ceisio ei wneud yn y dafarn a'r ardaloedd eistedd tu allan.

"Yn anochel rydym wedi gweld bod pellter cymdeithasol yn tueddu i chwalu yn hwyrach yn y nos, felly rydym yn gweld rhai cynnydd mewn achosion."

Ychwanegodd: "Mae'r rheolau a'r canllawiau wedi bod yn eglur iawn. Os ydym i gyd yn cydymffurfio mae gennym siawns dda o gadw'r haint dan reolaeth ac osgoi cyfnod clo yn lleol.

"Os na fydd hynny'n digwydd, yna rwy'n poeni am yr hyn y gallai cyfnod clo lleol ei olygu i Ferthyr Tudful."