Y cyfeillgarwch a dyfodd drwy Guro’r Corona’n Coginio

  • Cyhoeddwyd
Helen Evans ac Eileen JenkinsFfynhonnell y llun, Helen Evans / Eileen Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Helen Evans ac Eileen Jenkins

"Mae'n anhygoel y ffordd mae wedi digwydd - s'gyno ni dal ddim esboniad pam bod ni wedi clicio fel hyn. Mae o'r peth gorau sy' wedi dod o'r Corona i ni'n dwy."

Sefydlwyd y grŵp Facebook Curo Corona'n Coginio, dolen allanol er mwyn annog pobl i rannu eu ryseitiau a'u cynghorion coginio yn ystod y cyfnod clo. Ymhen rhai wythnosau roedd 15,000 wedi ymaelodi â'r grŵp, gan greu cymuned gyfeillgar sy'n ymestyn ar draws Cymru a thu hwnt.

Ac mae'r fforwm wedi arwain at un cyfeillgarwch sy' wedi newid byd i ddwy o'r aelodau.

Ymunodd Helen Evans o Bethesda gyda'r grŵp am fod ganddi ddiddordeb erioed mewn coginio. Ar ôl cael diagnosis a thriniaeth am ganser y thyroid dechreuodd Helen gadw rhandir (allotment) er mwyn codi ei chalon ar ôl cyfnod anodd.

Wedi iddi sôn am y rhandira'i phrofiad o frwydro canser ar y dudalen Facebook, cafodd Helen neges gan Eileen Jenkins, sy'n weinyddes feithrin o Beniel, Caerfyrddin.

Dywedodd Helen, sy' wedi ymddeol o'i gwaith gyda'r bwrdd iechyd lleol: "Ges i neges gan Eileen yn dweud bod hi'n medru uniaethu efo fi a fod hi'n torri ei chalon yn gweld beth ysgrifennais i.

"'Oedd hi 'di cael canser y fron a fi wedi cael thyroid cancer. Felly 'nath o gychwyn o fan 'na.

"Mae'r peth yn anhygoel - mae'n stori mor fendigedig. Mae'n werth ei dweud."

Dyma gychwyn cyfeillgarwch newydd ac arbennig i'r ddwy, sy' wedi eu helpu nhw drwy'r cyfnod clo. Mae'r ddwy wedi bod yn gefn i'w gilydd drwy'r cyfnod ac wedi rhannu eu profiadau o guro canser.

Dywedodd Helen: "'Nes i ymddeol ar 1 Ebrill a chael diagnosis ar 2 Ebrill. Mi oedd o'n horibl o amser ond dw i wedi bod trwyddo ac wedi cael triniaeth echrydus mewn chamber yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Hwnna 'nath gychwyn y peth - bod y ddwy ohonon ni wedi bod trwy amser caled. 'Da ni'n all-clear erbyn hyn ond fyddwn ni'n cael ein monitro am byth."

Ffynhonnell y llun, Helen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Tarten lemwn a pistachio gyda hufen: un o nifer o ryseitiau mae Helen wedi ei rannu ar y fforwm

Doedd y ddwy erioed wedi cyfarfod ond erbyn hyn maen nhw mewn cysylltiad dyddiol, yn ôl Helen: "'Da ni ar Facetime o leia' unwaith yr wythnos a 'da ni'n anfon negeseuon ar Facebook wyth gwaith y diwrnod! Bydda'r ddwy ohono ni'n gwneud rhywbeth i gael cyfarfod ein gilydd.

"A dw i medru trafod pethau efo Eileen dw i erioed wedi trafod yn fy mywyd ac mae hi yr un fath.

"Mae hi'n gwybod mwy amdanaf i na mae'n nheulu i'n gwybod a dw i yr un peth amdani hi!

"'Sen ni'n gwneud rhywbeth i gael cyfarfod ond mae'r amgylchiadau yn anodd gyda hi yn y de a dw i yn y gogledd, a'r busnes Covid - ond cyfarfod ydy'r aim."

Cwmni yn y cyfnod clo

Mae'r ddwy yn gyfranwyr cyson i'r grŵp Curo Corona'n Coginio ac hefyd wedi cyfrannu sawl rysáit i'r llyfr coginio newydd o'r un enw. Mae'r gyfrol, wedi ei chyhoeddi gan Merched y Wawr, yn cyflwyno cyfran fechan o gynnwys y dudalen Facebook, gan ddathlu'r creadigrwydd mewn ceginau yn y cyfnod clo.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Ochr wrth ochr: ryseitiau gan Helen ac Eileen yn y llyfr newydd

Mae'r grŵp wedi bod yn gysur i'r ddwy yn ystod y pandemig, yn ôl Helen: "Dw i'n hunan-ynysu o hyd oherwydd does gen i ddim imiwnedd. Dw i ddim wedi bod mewn un siop ers mis Mawrth.

"Mae pawb (ar y grŵp) wrthi'n trin a trafod a rhoi lluniau o be' maen nhw wedi bod yn coginio. Mae o 'di bod yn fendith mewn ffordd i gadw ni fynd yn ystod y cyfnod. Ac mae dal i fynd.

"Mae'r coginio wedi bod o fudd ond mae'r gwŷr yn cwyno bod nhw wedi mynd yn dew - 'dy nhw 'rioed wedi gweld cymaint o gacennau a biscuits!"

Ffynhonnell y llun, Eileen Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cacen mefus a hufen: un o gynigion Eileen Jenkins ar y dudalen Facebook

"Mae wedi codi calon - rhwng bod fi wedi gwneud y ffrind eithriadol yma ac hefyd y coginio. Dw i wedi cyfrannu rhyw 80 o rysáets ers y cychwyn. Mae Eileen wedi gwneud yr un fath.

"Mae 'na rywbeth mwy na'r llyfr 'di dod allan o hwn i ni."

Hefyd o ddiddordeb