Cyflwyno cyfyngiadau Covid-19 newydd i Sir Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno yn Sir Caerffili i geisio atal ymlediad Covid-19.
Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn na gadael y sir heb reswm "rhesymol" pan fydd y rheolau'n dod i rym am 18:00 ddydd Mawrth.
Hefyd bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo mygydau mewn siopau, a bydd pobl ond yn cael cyfarfod eraill o du allan i'w teuluoedd yn yr awyr agored.
Mae'r mesurau newydd yn effeithio ar bawb sy'n byw o fewn ardal Cyngor Sir Caerffili.
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos bod 133 o achosion newydd o Covid-19, ac mae'r BBC wedi cael gwybod am o leiaf 20 o ysgolion sydd wedi gweld profion positif ymysg disgyblion a staff.
Mewn ymateb i'r cynnydd, mae'r bwrdd iechyd lleol hefyd yn agor canolfan profi gyrru drwodd ym mhencadlys y cyngor sir yn Ystrad Mynach o ddydd Mawrth ymlaen.
'Cynnydd sylweddol' mewn achosion
Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, bod y cyfyngiadau newydd yn sgil y cynnydd mewn achosion yn yr ardal.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion yn Sir Caerffili dros gyfnod byr iawn o amser, sy'n gysylltiedig â theithio ar wyliau a phobl yn cymdeithasu dan do heb ddilyn rheolau pellter cymdeithasol," meddai.
Ychwanegodd bod y rhan fwyaf o'r achosion ymysg pobl ifanc a ddim yn rhai difrifol, ond bod y feirws nawr yn y gymuned a'i fod yn "fater o amser cyn i ni weld achosion mwy difrifol fydd angen gofal ysbyty".
Dywedodd bod angen "cymorth pawb yn Sir Caerffili" i leihau'r lledaeniad, a'i bod yn bosib y bydd angen "camau pellach" os nad yw'n dod dan reolaeth.
Yn ôl Cyngor Sir Caerffili, mae tua 180,000 o bobl yn byw o fewn ei ffiniau.
Dywedodd Mr Gething wrth BBC Cymru mai methiant pobl i gadw pellter cymdeithasol wrth gymdeithasu yn eu cartrefi yw'r prif reswm dros y cynnydd mewn achosion, ac mai "dyna pam aelwydydd estynedig yn dod i ben".
Ychwanegodd ei fod yn deall y bydd pobl yn siomedig ond bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu.
Dywedodd hefyd fod dim cynnydd hyd yma yn niferoedd y ceisiadau am ofal meddygol ond "byddai'n cymryd dwy neu dair wythnos i weld y math yna o impact".
'Hanfodol i reoli'r feirws'
Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros y de-ddwyrain, Delyth Jewell mai'r ffordd orau o ofalu am y bobl fwyaf bregus yw "dilyn canllawiau'r llywodraeth a chadw pellter cymdeithasol".
"Wrth i achosion ar draws Cymru godi, fe ddylai Llywodraeth Cymru nawr wneud gwisgo mygydau mewn siopau yn orfodol ledled y wlad," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies AS ei fod "yn siomedig" fod angen cyflwyno cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili.
Ond dywed ei bod hi'n "gwbl hanfodol i reoli'r feirws" wrth i fwy o bobl a myfyrwyr ddychwelyd i'r gwaith, ysgolion a cholegau, yn sgil cynnydd yn nifer achosion.
Ychwanegodd y "dylai cyfyngiadau clo lleol o'r fath fod mewn grym am gyfnod cyn lleied â phosib" a bod angen "cadw golwg ar sut mae Caerffili'n delio gyda'r achosion lleol yma... i osgoi sefyllfa debyg mewn rhannau eraill o Gymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020