Dros 300,000 yng Nghymru'n rhan o gynllun saib o'r gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae dros 300,000 o weithwyr Cymru wedi bod yn rhan o'r cynllun saib o'r gwaith ers dechrau'r pandemig coronafeirws - ychydig dros chwarter y gweithlu.
Mae'r ffigyrau newydd gan y Trysorlys yn dangos bod 316,500 o weithwyr wedi cael 80% o'u cyflog fel rhan o'r cynllun gan Lywodraeth y DU.
O dan y cynllun gall gweithwyr hawlio hyd at £2,500 o gyflog y mis.
Mae'r ystadegau'n dangos hefyd bod dros 100,000 o weithwyr hunangyflogedig wedi derbyn cymorth ariannol gwerth cyfanswm o £273m.
Mae hynny'n bron i hanner y gweithlu hunangyflogedig.
Mae'r gweithwyr yma yn rhan o gynllun gwahanol i'r un ffyrlo, ac mae'r grant yn cael ei roi mewn un taliad ar gyfer tri mis ac yn gyfanswm o 80% o elw cyfartalog.
Ffigyrau fesul ardal
Yng Nghaerdydd mae'r nifer fwyaf o weithwyr ar y cynllun saib o'r gwaith, sef 36,000;
Ardal cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n ail - 23,400;
Mae 18,000 yn Sir Gaerfyrddin;
13,300 yw'r ffigwr yng Ngwynedd;
Yr ardaloedd sydd â niferoedd isaf ydy Ceredigion - 6,500 - Ynys Môn - 6,400 - a Merthyr Tudful - 6,000.
Ar draws y DU y diwydiannau manwerthu ac adeiladu sydd â'r ffigyrau uchaf o weithwyr yn rhan o'r cynllun.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies: "Mae'r feirws hwn wedi ymosod arnom i'r byw. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd ydyn ni yn dod trwyddi.
"Trwy gefnogi busnesau, mawr a bach, a'r plymwyr annibynnol, y trydanwyr, yr adeiladwyr a llawer o bobl eraill hunangyflogedig y gallwn wneud yn siŵr bod ein heconomi yn barod i danio pan fydd y cyfyngiadau wedi'u llacio."
Yn ôl y Canghellor, Rishi Sunak: "Mae'r cynlluniau cefnogi digynsail coronafeirws yn amddiffyn miliynau o swyddi allweddol a busnesau ar draws y Deyrnas Unedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020