'Angen rhoi mwy o eglurder i ysgolion ar hunan-ynysu'

  • Cyhoeddwyd
olchfa
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i gannoedd o ddisgyblion Ysgol Gyfun yr Olchfa hunan-ynysu am 14 diwrnod

Mae angen mwy o eglurder "ar frys" wrth roi cyngor i ysgolion pan fydd achos o coronafeirws, yn ôl y Comisiynydd Plant.

Daw hyn wrth i 455 o ddisgyblion ysgol uwchradd yn Abertawe gael gorchymyn i hunan-ynysu ar ôl i un disgybl gael prawf Covid-19 positif.

Bydd yn rhaid i'r disgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Olchfa aros adref am bythefnos.

Mewn llythyr at rieni, dywedodd y pennaeth Hugh Davies y dylai disgyblion eraill yr ysgol barhau i fynychu'r ysgol.

Dywedodd y comisiynydd Sally Holland bod "angen i'r llywodraeth, ochr yn ochr â Iechyd Cyhoeddus Cymru, egluro'r cyngor i ysgolion ar frys".

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog ysgolion i ddefnyddio "grwpiau bychan, cyson" er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sally Holland wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y mater

"Mae angen iddyn nhw ei egluro mewn tair ffordd," meddai.

"Yn gyntaf oll, i fod yn hollol glir beth sy'n cyfrif fel cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif, os gallwn gadw at grwpiau mor fawr yn cael eu hanfon adref, byddai hynny'n well i bawb.

"Yr ail yw bod yn wirioneddol glir beth sy'n cyfrif fel symptomau coronafeirws.

"Rwy'n clywed adroddiadau gan rieni bod gan eu plentyn symptomau yr annwyd cyffredin ond eto mae gofyn iddyn nhw gael prawf cyn y gallan nhw ddychwelyd eu plentyn i'r ysgol.

"Y trydydd mater yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i ddal ati â'u haddysg os ydyn nhw'n treulio pythefnos neu fwy gartref."

Y gred ydy bod mwy na 50 o ysgolion ledled Cymru wedi cofnodi achosion o Covid-19 hyd yma.

'Grwpiau bychan, cyson'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein canllawiau ar gyfer ysgolion yn ei gwneud yn eglur bod grwpiau bychan, cyson yn helpu lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint gan gyfyngu ar nifer y dysgwyr a staff sydd mewn cyswllt â'i gilydd.

"Mae cadw grwpiau cyswllt ar wahân sydd ddim yn cymysgu yn ei gwneud yn haws, pe bai achos positif, i adnabod y rheiny allai fod angen hunan-ynysu a chadw'r nifer hynny mor isel â phosib.

"Ry'n ni wedi darparu canllawiau i helpu ysgolion i ddatblygu cynlluniau cadarn er mwyn sicrhau bod dysgu ac addysgu yn gallu parhau ym mhob sefyllfa."