Cei Connah wedi 'cau eu llygaid' i salwch cyn gêm Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Dywed rheolwr Clwb Pêl-droed Cei Connah eu bod wedi gorfod "cau eu llygaid" i'r ffaith fod tri o chwaraewyr y clwb wedi cychwyn y gêm yn erbyn Dinamo Tbilisi nos Iau a hwythau ddim yn teimlo'n dda.
Fe aeth y gêm yng Nghynghrair Europa yn ei blaen er i bedwar o chwaraewyr y tîm o Gymru brofi'n bositif am Covid-19.
Mae'r clwb wedi rhyddhau datganiad ddydd Gwener yn gwadu eu bod wedi anwybyddu anhwylderau chwaraewyr cyn y gêm.
Cyn herio Dinamo Tbilisi, roedd y tri - yn ogystal ag un arall oedd yn dangos symptomau - wedi hunan ynysu.
Cafodd y penderfyniad ei wneud i chwarae'r gêm yn dilyn ymgynghoriad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod yr asesiad risg "yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd... gan Glwb Cei Connah".
Dywedodd rheolwr Cei Connah, Andy Morrison: "Mae tri o fechgyn wedi dod yma heno a dydyn nhw ddim yn dda.
"Ac mae fel - 'hogia, dydw i ddim am ei glywed. Allai ddim clywed heno eich bod chi'n sâl... beth am i ni fwrw ati'.
"Fe glywes i hynny cyn y gêm a mi fu'n rhaid i ni gau ein llygaid i hynny ac ni fydde' chi wedi sylweddoli byth fod rhai yma heno nad oedden nhw'n teimlo'n wych."
Fe gafodd y gêm yn ail rownd rhagbrofol y gystadleuaeth ei chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam am nad yw stadiwm Cei Connah yn cydymffurfio gyda rheolau Covid-19.
Roedd tri chwaraewr wedi derbyn cadarnhad pendant eu bod wedi eu heintio gyda Covid-19 cyn y chwiban gyntaf.
Colli oedd hanes Cei Connah yn y diwedd yn dilyn cic o'r smotyn hwyr gan Giorgi Gabedava.
Mae UEFA, corff llywodraethu'r gêm yn Ewrop wedi cael cais am sylw a dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd angen iddyn nhw gasglu'r holl ffeithiau cyn gwneud unrhyw sylw eu hunain.
Datganiad y clwb
Mewn datganiad fore dydd Gwener dywedodd y clwb: "Cyn y gic gyntaf roedd y wybodaeth yn gyhoeddus ein bod wedi derbyn tri chanlyniad prawf Covid positif gydag un chwaraewr ychwanegol yn dangos symptomau a'r pedwar yn hunan-ynysu yn syth.
"Ddydd Iau fe weithiodd ein staff cynorthwyol yn ddiflino gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA i sicrhau y byddai'r gêm yn mynd yn ei blaen gyda'r tri chorff llywodraethu yn cydnabod fod y clwb wedi dilyn y rheolau oedd eu hangen eu dilyn."
Dywedodd y clwb bod yr holl garfan wedi cwblhau holiadur Covid-19 cydnabyddedig - gyda phob un yn negyddol - a bod tymheredd pawb wedi ei fesur yn y stadiwm.
Ychwanegodd y datganiad: "Mewn cyfweliad ar ôl y gêm gyda nifer o'r cyfryngau, defnyddiodd y rheolwr Andy Morrison y term 'cau eu llygaid' sydd yn anffodus wedi cael ei gamddehongli gan lawer i olygu ein bod fel clwb wedi anwybyddu rheolau Covid.
"Hoffem fynd ar y record a dweud fod hyn yn gwbl anghywir a'r hyn yr oedd y rheolwr yn gyfeirio ato oedd nifer o chwaraewyr na fyddai efallai wedi chwarae petai ganddo ni garfan lawn a ffit.
"Fe wnaeth Morrison gynnig eglurhad a ei gyfrif Twitter ei hun, gan esbonio fod nifer o chwaraewyr wedi dioddef poen yn eu bol a chur pen cyn y gêm oedd fwy na thebyg o achos nerfau wedi iddynt gael eu gosod yn y garfan fyddai'n chwarae."
'Fedrwch chi ddim anwybyddu'r symptomau'
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ar 16 Medi gofynnodd clwb Cei Connah am gyngor yn dilyn hysbysiad o dri achos positif cyn eu gêm yn erbyn Dinamo Tbilisi.
"Roedd ein cyngor yn gyson â'r canllawiau cenedlaethol, sef, cyhyd â bod chwaraewyr Covid-positif a'u cysylltiadau yn hunan-ynysu, a bod pellter cymdeithasol wedi'i gadw, yr awdurdodau pêl-droed oedd yn penderfynu a ddylai'r gêm bêl-droed fynd yn ei blaen.
"Roedd ein hasesiad o risg a chyngor dilynol yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Gei Connah ynghyd â sicrwydd y byddai ein cyngor yn cael ei weithredu.
"Rydym yn annog pawb sydd â symptomau Covid-19 i hunan-ynysu, i beidio â mynychu gweithleoedd, a cheisio cael prawf."
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n gwneud sylw ar yr achos unigol yma, ond y cyngor i unrhyw un sy'n dangos symptomau Covid-19, dolen allanol ydy i hunan-ynysu am o leiaf 10 diwrnod.
Mewn ymateb, wth siarad ar BBC Radio Wales fore dydd Gwener, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Os yw sylwadau'r rheolwr yn gywir yna mae'n gadael rhywun yn fud a bod yn gwbl onest gyda chi.
"Lle'r oedd y symptomau yna'n amlwg, a gêm wedi mynd yn ei blaen pan roedd cyswllt agos - o achos natur pêl-droed - os yw sylwadau'r rheolwr yn gywir yna rhaid cymryd camau drastig er mwyn sicrhau fod mesurau diogelwch mewn lle.
"Fedrwch chi ddim anwybyddu'r symptomau amlwg a chwarae gêm allai o bosib ymledu effaith yr haint i'r gymuned."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020