Cynghrair Europa: Cei Connah 0-1 Dinamo Tbilisi

  • Cyhoeddwyd
Cei Connah v Dinamo TbilisiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhwydodd Giorgi Gabedava o'r smotyn gyda chyffyrddiad ola'r gêm ar y Cae Ras

Roedd hi'n noson dorcalonnus i Gei Connah ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Iau wrth i'w hymgyrch Ewropeaidd ddod i ben yn dilyn gôl yn eiliadau ola'r gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Aeth y gêm yn erbyn Dinamo Tbilisi yn ei blaen er i dri o chwaraewyr y tîm o Gymru brofi'n bositif am Covid-19, gyda'r tri - yn ogystal ag un arall sy'n dangos symptomau - yn hunan-ynysu.

Er eu bod heb nifer o chwaraewyr blaenllaw, roedd Cei Connah yn dal eu tir yn erbyn pencampwyr Georgia, ac roedd hi'n edrych fel pe bai'r gêm yn mynd i amser ychwanegol a hithau'n ddi-sgôr yn mynd i'r munudau olaf.

Ond fe wnaeth Callum Roberts faglu Pernambuco yn y cwrt cosbi yn yr eiliadau olaf, a llwyddodd Giorgi Gabedava i rwydo o'r smotyn gyda chyffyrddiad ola'r gêm.

Roedd y Nomadiaid wedi dechrau eu hymgyrch Ewropeaidd yng Nghynghrair y Pencampwyr, cyn cael ail gyfle yng Nghynghrair Europa ar ôl cael eu trechu gan Sarajevo o Bosnia.