Carcharu dyn am achosi marwolaeth ei gariad yn Gellilydan

  • Cyhoeddwyd
Sion Francis DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr y byddai Sion Francis Davies yn byw gyda'r canlyniadau am weddill ei oes

Mae dyn o Wynedd wedi ei garcharu am wyth mis am achosi marwolaeth ei gariad drwy yrru'n ddiofal.

Roedd Sion Francis Davies o Flaenau Ffestiniog yn gyrru ar yr A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog ar 11 Gorffennaf y llynedd gyda Fflur Green.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ei fod wedi colli rheolaeth ar ei car Renault Scenic glas ar droad yn y ffordd am 21:50 a taro yn erbyn car oedd yn dod o'r cyfeiriad arall.

Yn ôl swyddogion oedd yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad roedd yn gyrru ar 40 mya ar y pryd, sydd o fewn y ffiniau cyflymder cyfreithiol ar y ffordd, ond fod tri chwarter ei gerbyd wedi gwyro i ochr anghywir y ffordd.

Cafodd Ms Green driniaeth gan griwiau ambiwlans yn lleoliad y gwrthdrawiad ond roedd hi wedi marw cyn cyrraedd yr ysbyty.

'Anodd gweithredu fel bod dynol'

Clywodd y llys ddatganiad gan rieni Ms Green. Ynddo fe ddywedodd ei mam, Judith Vaughan Jones: "Gallaf ddweud yn onest fod fy mywyd wedi ei rwygo. Mae'n anodd gweithredu fel bod dynol.

"Hi oedd fy mhlentyn cyntaf, roedd hi'n berffaith ymhob ffordd. Bu farw rhan ohona'i y diwrnod y bu hi farw."

Clywodd y llys hefyd am ddawn celfyddydol Ms Green, a'i gobaith o ddefnyddio'r ddawn honno i helpu eraill trwy weithio fel therapydd celf.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fflur Green mewn gwrthdrawiad ar y ffordd ym mis Gorffennaf y llynedd

Dywedodd ei thad, Christopher Green mewn datganiad: "Rwyf yn ofni ateb y ffôn gan fy mod yn ei gysylltu gyda newyddion drwg a niwed i fy nheulu.

"Mae diffyg tosturi wedi bod gan y diffynnydd. Nid yw wedi ystyried teimladau'r teulu ac mae'n ymddangos fel ei fod wedi cario ymlaen gyda'i fywyd heb ystyried yr hyn ddigwyddodd y noson honno."

Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd, Jonathan Austin nad oedd ei gleient wedi bod yn ddidrugaredd wedi'r ddamwain a'i fod yn derbyn mai ei fai o oedd yr hyn ddigwyddodd.

'Rhaid i chi fyw gyda'r canlyniadau'

Wrth ddedfrydu Davies, dywedodd y Barnwr Timothy Petts: "Ni wnaethoch chi fwriadu lladd neb y noson honno, yn enwedig eich cariad. Ond fe wnaeth eich gyrru ei lladd.

"Bydd yn raid i chi fyw gyda'r canlyniadau am weddill eich oes."

Gan droi at deulu Fflur Green, dywedodd ei bod hi'n "ferch ifanc dalentog, ac mae'r dyfodol y dylai hi fod wedi ei gael, a'i rannu gyda chi, wedi mynd.

"Ni fydd yr un dedfryd y gallaf ei roi yn dadwneud canlyniadau gyrru'r diffynnydd."

Cafodd Davies ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a phedwar mis.