Tair cenhedlaeth o'r un teulu wedi rhoddi mêr eu hesgyrn
- Cyhoeddwyd
Mae tair cenhedlaeth o'r un teulu wedi rhoddi mêr eu hesgyrn ar ôl cael eu hadnabod fel yr unig roddwyr cymwys i dri o ddieithriaid ar draws y byd.
Mae Allan Taylor, 65, ei fab Chris, 33, a'i ŵyr Corey, 25, o Bont-y-pŵl wedi achub bywydau cleifion o Affrica, yr Unol Daleithiau ac Ewrop.
Dywedodd Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru bod rhoddion y teulu yn "anhygoel".
I nodi Diwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd mae'r teulu Taylor yn annog pawb rhwng 17 a 30 oed i ymuno â'r gofrestr.
30% byth yn canfod rhoddwr cymwys
"Rydw i mor falch o fu hun a'n nheulu," meddai Allan.
"Roedd hi'n deimlad grêt gwybod bod fy mab a'n ŵyr yn gwneud yr un peth."
Mae clefydau fel rhai mathau o lewcemia yn atal mêr esgyrn rhag gweithredu'n gywir.
I'r cleifion yn y sefyllfa yma, y gobaith gorau am adferiad yw derbyn trawsblaniad mêr esgyrn.
Y llynedd fe wnaeth 50,000 o gleifion ar draws y byd dderbyn triniaeth o'r fath, ond dydy tua 30% o gleifion byth yn canfod rhoddwr cymwys.
'Achubwyr bywydau'
Dywedodd pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, Chris Harvey: "Mae'r tebygolrwydd bod unrhyw aelod o deulu yn gymwys i roi mêr eu hesgyrn yn brin.
"Mae cael dau aelod o un teulu sy'n gymwys yn rhywbeth hollol newydd, ac mae cael tri o'r un teulu wedi'u dewis i fod yn gymwys i roi i gleifion ar dri chyfandir gwahanol yn anhygoel.
"Mae'r teulu Taylor wir yn deulu o achubwyr bywydau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd19 Awst 2018