Darn o goluddyn dyn mewn drwm olew ar eiddo diffynnydd
- Cyhoeddwyd
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod darn o goluddyn dynol mewn drwm olew ar eiddo diffynnydd yng Nghaerfyrddin yn perthyn i'r dyn y mae'n gwadu ei lofruddio.
Mae Andrew Jones, 53, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio cariad ei wraig, Michael O'Leary fis Ionawr y llynedd.
Mae'r erlyniad yn honni fod Mr Jones wedi saethu'r dyn 55 oed o Nantgaredig a llosgi ei gorff ar ôl defnyddio ffôn cyfrinachol ei wraig i'w hudo i fferm ddiarffordd.
Dyw Heddlu Dyfed-Powys heb ddarganfod corff Mr O'Leary er iddyn nhw archwilio sawl safle.
Cysylltiad â gwres
Dywedodd y patholegydd Dr Stephen Leadbeatter wrth y llys bod yr heddlu wedi gofyn iddo archwilio meinwe a ddaeth i'r fei yn eiddo'r diffynnydd, 122 Ffordd Bronwydd.
Roedd y meinwe'n pwyso 10 gram ac yn 16x14cm o ran maint. Roedd rhan ohoni "â ffurfiannau tiwbaidd" ac roedd yna hefyd ddau nam.
Hefyd roedd yna "fannau o gamliwio" all awgrymu bod y meinwe wedi dod i gysylltiad â gwres.
Roedd Dr Leadbetter o'r farn mai darn o'r coluddyn bach a pherfeddlen oedd y meinwe, a fu'n destun dadansoddiad DNA.
Gofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad, William Hughes QC a oedd Dr Leadbeatter yn ymwybodol fod profion wedi datgelu "bod y meinwe wedi deillio o Michael O'Leary".
Atebodd: "Oeddwn." Ychwanegodd fod y namau yn y meinwe heb ddigwydd cyn y farwolaeth oherwydd doedd dim arwyddion o unrhyw adwaith llidiol.
Dywedodd y gallai'r newidiadau i gelloedd y meinwe "fod yn gyson" â'r posibilrwydd ei fod wedi dod i gysylltiad â gwres.
Mae Andrew Jones yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020