Cyhoeddi enw dyn fu farw ger Llaneurgain

  • Cyhoeddwyd
Michael BarnicleFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn oriau man fore Sadwrn.

Roedd Michael Barnicle yn 44 oed ac yn byw yn ardal Bae Penrhyn.

Mae'r heddlu'n dal i apelio am dystion i'r digwyddiad ger Llaneurgain.

Mae teulu Mr Barnicle wedi cyhoeddi teyrnged iddo, gan ddweud: "Roedd Michael yn dad, partner, mab, brawd ac ewythr anhygoel.

"Fel teulu, allwn ni ddim mynegi cymaint yr ydym yn ei garu na faint y byddwn yn ei golli.

"Dwy flynedd olaf ei fywyd yma yng Nghymru oedd yr hapusaf iddo. Roedd yn ddyn teulu oedd wedi mopio gyda'i ddwy ferch.

"Roedd Michael yn ddoniol, cariadus a chynnes, sy'n bethau prin y dyddiau yma. Roedd yn goleuo'n bywydau ni i gyd."

Lluniau dashcam

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn awyddus i glywed gan dystion i'r digwyddiad ar 19 Medi ar lon orllewinol yr A55.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Astra a cherbyd Vauxhall Grandland X oedd wedi torri lawr ac yn y broses o gael ei atafael.

Dylai unrhyw un all fod o gymorth, yn enwedig os oes ganddyn nhw luniau dashcam o'r digwyddiad, ffonio Uned Blismona Ffyrdd y gogledd ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 20000567417.