'Dim achos' am gyfyngiadau lleol mewn siroedd eraill

  • Cyhoeddwyd
Pobl ym Mhen y BontFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Does "dim achos" i gyflwyno cyfyngiadau mwy caeth mewn ardaloedd newydd yng Nghymru ar hyn o bryd medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Y sefyllfa bresennol yw bod chwe ardal yn ne Cymru o dan gyfyngiadau lleol. Mae angen amser i weld os yw'r mesurau yma yn gweithio er mwyn atal lledaenu Covid 19 meddai Mr Drakeford.

Ond ychwanegodd y gallai siroedd eraill wynebu'r un dynged pe byddai rhaid gwneud hynny.

"Does dim achos eto i ehangu'r mesurau yma i awdurdodau lleol eraill ond fe fyddwn ni yn cadw llygaid barcud arnynt ac yn eu hadolygu yn ddyddiol," meddai wrth BBC Breakfast.

Dywedodd mai'r trothwy ar gyfer gweithredu mewn ardaloedd eraill fyddai cynnydd yn y niferoedd a chyfradd y rhai sy'n profi'n positif i'r feirws. Nid dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd meddai.

Ffigyrau diweddaraf

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 389 o achosion newydd wedi eu cofnodi yng Nghymru, o'i gymharu â 281 ddydd Mawrth.

Dyma'r nifer uchaf mewn diwrnod ers mis Ebrill.

Cafodd dau yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi.

O'r ardaloedd sydd eisoes dan fesurau ychwanegol, roedd yna 93 achos newydd yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd yna 47 ym Mlaenau Gwent, 29 ym Mhen-y-bont, 24 ym Merthyr a 16 yng Nghaerffili.

Yng Nghaerdydd ac Abertawe, dinasoedd mwyaf Cymru, y ffigyrau oedd 35 a 37.

Yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen y Bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd a Blaenau Gwent dyw trigolion ddim yn cael gadael y siroedd oni bai eu bod yn gorfod teithio i'w gwaith, i gael eu haddysg neu nifer cyfyngedig o resymau hanfodol eraill.

Mae nifer o achosion hefyd wedi eu cadarnhau yn ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Mae tystiolaeth yn dangos bod y sefyllfa yn gwella yng Nghaerffili

Yn ôl Mr Drakeford mae tystiolaeth yn dechrau dod i'r amlwg yng Nghaerffili, yr ardal gyntaf lle y cafwyd cyfyngiadau lleol, bod y mesurau i reoli'r feirws yn gweithio.

"Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn galonogol. Mae'r niferoedd yng Nghaerffili wedi bod yn dod i lawr yn reit gyson yn ystod y tri neu bedwar diwrnod diwethaf.

"Rydyn ni angen ychydig o ddyddiau ychwanegol i wneud yn siŵr bod hynny yn duedd sy'n parhau."

Dywedodd mai ei obaith yw cael gwared ar rai o'r cyfyngiadau yn y sir os yw'r sefyllfa o safbwynt y coronafeirws yn parhau i wella yno.

Teithio dim ond 'pan mae angen'

Ddydd Mawrth cafodd rhai cyfyngiadau eu cyflwyno ar draws Cymru gyfan gan y llywodraeth gan gynnwys cau bwytai, caffis a thafarndai yn gynt. Yn ogystal, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £500 yn cael ei rhoi i gefnogi pobl ar incwm isel sydd yn gorfod hunan ynysu.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y dylai pobl ond teithio "pan mae angen i chi wneud hynny".

Gofynnwyd iddo ar BBC Radio 4 os oedd ei gyngor yn golygu dim gwyliau, ond dywedodd bod hi'n "bosib iawn" cael gwyliau yng Nghymru "heb deithio yn bell iawn o gwbl".

"Felly mae'n rhaid i bobl wneud y penderfyniadau hynny yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Felly dydyn ni ddim yn dweud, 'Dim gwyliau' i bobl. Ond y dylai pobl feddwl yn ofalus, osgoi teithio diangen."

Ar ddechrau'r haf doedd dim hawl gan bobl Cymru deithio mwy na phum milltir o'u cartrefi ac yn ôl Mr Drakeford roedd hynny wedi helpu i "amddiffyn de-orllewin a gogledd Cymru" rhag lledaeniad y feirws.

Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau na fydd y llywodraeth yn plismona'r cais i'r cyhoedd aros yn lleol.