Chwe mis o alaru - a phoeni ynghylch niferoedd ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dwi 'di colli nhad oherwydd hyn, a 'dach chi'm yn gwrando'

Mae dynes a gollodd ei thad i Covid ar ddechrau'r pandemig yn dweud ei bod yn cael pyliau o banig erbyn hyn wrth fynd i Abersoch a gweld yr holl ymwelwyr yno.

Bu farw John Griffiths, oedd yn byw yn y pentre' glan mor, ddechrau mis Ebrill.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw ar y pryd, fe alwodd Linda Jones ar i bobl beidio teithio'n ddiangen er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledu.

Chwe mis yn ddiweddarach, mae Ms Jones - sy'n byw yn Rhosfawr ger Pwllheli - yn gwneud yr un alwad eto ac yn credu bod angen rheolau mwy cyson i osgoi dryswch.

'Mygu'

"Dydy o ddim yn teimlo bod neb 'di gwrando," meddai.

"Maen nhw yma rŵan yn un fflyd. Oedd o'n mygu chi - o'n i'n mynd dros y bont ac o'n i'n cael rhyw fath o anxiety attack, yn mygu, yn gweld yr holl bobl yma.

"Meddwl bod Dad 'di gorfod mynd a mae'r rhain yn dal i ddod yma, ac mae agwedd rhai ohonyn nhw - ddim yn gwisgo mygydau, ddim yn cadw pellter - dwi isho sgrechian 'mod i 'di colli'n nhad oherwydd hyn a dy'n nhw'n dal ddim yn gwrando."

Disgrifiad o’r llun,

Ymwelwyr yn Abersoch ddechrau Awst wedi i'r cyfyngiadau teithio gael eu llacio

Er nad ydy ardaloedd gwyliau fel Abersoch wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion o coronafeirws, mae Linda Jones yn dal yn ofnus.

"Dwi'n dal i deimlo bod 'na beryg, yn enwedig gweld cymaint o bobl sy' wedi bod yn Abersoch pan oeddan nhw'n cael dod. Y wers ydy y gall o ddigwydd i rywun os nad ydyn nhw'n dilyn y canllawiau.

"Dwi'n deall bod o'n bwysig i'r economi ond dwi'n siŵr fasa lot o siopwyr Abersoch yn d'eud bod hi'n braf pan oedd hi'n ddistaw."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tad Linda Jones, John Eifion Griffiths ym mis Ebrill ar ôl cael Covid-19

Gyda thipyn o sôn wedi bod am y gwahaniaeth mewn rheolau rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, mae Linda Jones yn galw am fwy o gysondeb i osgoi dryswch.

"Mae gynnoch chi'r Alban, Cymru a Lloegr ac ma' petha'n cael eu d'eud yn wahanol. Dwi'n meddwl 'sa fo'n well 'sa fo i gyd yn genedlaethol de, all for one a one for all.

"Ddylia pawb aros yn ei le ei hun i gadw'n saff a peidio rhoi bywyd pobl mewn peryg - ella mai nhw'u hunain fydd yn ei gael o."

'Cadw'n brysur a chadw i'r canllawiau'

Fe gollodd Linda Jones ei thad naw wythnos ar ôl marwolaeth ei mab, Rhun, mewn damwain ffordd.

Er mwyn ceisio delio â'r galar, mae hi wedi creu llyfrau coffa i'r ddau ac yn credu bod cofio a siarad amdanyn nhw yn gymorth mawr.

Ond wrth edrych tua'r gaeaf a'r dyfodol, mae'n bryderus iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda Jones wedi creu llyfra coffa i'w thad a'i mab ar ôl i'r ddau farw o fewn misoedd o'i gilydd

"Dwi ddim yn teimlo'n dda iawn am y peth ar y funud," meddai. "Ma' penblwyddi'n dod fyny, a 'Dolig. Dwi ddim yn edrych ymlaen at 'Dolig o gwbl oherwydd aelwydydd y plant 'ma, aelwyd Mam. 'Da ni ddim yn gw'bod be' i 'neud.

"Mi fydd rhaid trio er mwyn yr wyrion a'r wyresau bach, a'r plant wrth gwrs. Ond mi fydd hi'n anodd tu hwnt.

"Ma' colli tad a mab, y ddau linyn s'gynnoch chi agosa', mae o'n erchyll."

Fyddai Linda Jones ddim yn dymuno i unrhyw un fynd drwy'r un profiad â hi, ond roedd ganddi'r cyngor yma i unrhyw un sydd yn galaru hefyd:

"Jyst cadw'n hunain yn brysur 'da ni 'di 'neud, cadw at y canllawiau, gwrando ar be' sy'n cael ei dd'eud. Trio cario 'mlaen a meddwl am y teulu sydd ar ôl, a trio'u cynnal nhw ym mhob ffordd bosib.

"Llenwi bob munud o'r dydd gorau medrwch chi, gan drio cofio'r amserodd hapus."