Rhybudd bod gogledd Cymru'n or-ddibynnol ar dwristiaid
- Cyhoeddwyd
Wrth i densiynau godi mewn ardaloedd sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr, mae 'na rybuddion bod y diwydiant mewn perygl os nad yw ymwelwyr yn cael croeso.
Hyd yn oed ar ddiwrnod glawog ym mis Awst, mae 'na ddegau o deuluoedd yn cerdded ac yn chwarae ar draeth Morfa Nefyn.
"We've been coming here for 20 years," meddai un mam a merch.
"The locals are so welcoming and the Covid regulations are not too intrusive. It's ace," meddai un tad o Macclesfield.
"We're meant to be on a cruise but it was cancelled so we're here enjoying the great British Weather," meddai ei wraig, oedd yn gwisgo côt gynnes ac ymbarél yng nghanol mis Awst.
Yn ôl trigolion lleol, dyma'r tymor prysuraf erioed - ac mae'n achosi tensiwn.
Mae Lois Llywelyn Williams yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Rhydychen.
Mae hi adra am yr haf ac mae hi'n dweud bod "tensiynau yn sicr wedi codi ymysg pobl yr ardal".
"Mae bron pob sgwrs rydw i wedi'i gael yn yr wythnosau diwethaf wedi bod ynghylch y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, y traffig difrifol, y diffyg ymbellhau cymdeithasol," meddai.
Mae hi'n pryderu bod y pandemig yn golygu bod mwy o bobl yn ystyried prynu tai haf gan eu bod nhw'n gallu gweithio o adra.
"Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy trefol yn brysio i brynu ail gartrefi heb feddwl ddwywaith," meddai.
"Tydi pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, ddim yn medru cystadlu.
"Erbyn hyn dwi'n teimlo mwy o ddadrith na dim, yn bennaf oherwydd ei bod hi'n amhosib gwneud llawer i reoli'r sefyllfa."
Lawr y lôn yn Nefyn, mae Iwan ap Llyfnwy yn rheoli Cwrw Llŷn - cwmni sydd wedi mynd o nerth i nerth gyda phwyslais ar greu swyddi yn lleol a'r Gymraeg yn ganolog i'r brand.
"Mae twristiaeth yn wych," meddai Iwan.
"'Da ni'n ddibynnol arnyn nhw fel cwmni, ond dwi'n poeni am ail gartrefi.
"Mae gen i blant fy hun a dwi'n poeni am sut mae'r genhedlaeth nesaf am allu fforddio prynu eu tŷ cyntaf."
Tu allan i safle newydd y bragdy mae 'na unedau busnes yn cael eu hadeiladu gan Elfed Roberts.
Mae o'n dipyn o entrepreneur yn lleol, gan ei fod o'n cadw'r siop Spar yn Abersoch, Nefyn ac Aberdaron.
Mae'n cyflogi 45 o bobl ac mae o'n falch o weld yr ymwelwyr yn ôl er mwyn cadw swyddi ei staff, ond mae'n gweld bod nifer yn lleol yn poeni am nifer yr ymwelwyr.
"Mae nghalon i'n d'eud un peth a mhen i'n d'eud peth arall," meddai.
"Mae nghalon i'n dweud y byswn i'n licio gweld pawb yn aros adra, ond mae mhen i'n d'eud ein bod ni angen nhw.
"Mae angen i bobl ddod yma i wario'u pres i gynnal swyddi y bobl dwi'n cyflogi. Mae hi'n anodd."
Yn mynd am dro yn y glaw ar ôl bod yn gweld ei fam oedd John Rice, ddywedodd ei bod hi'n dorcalonnus gweld ei gymuned yn newid.
"Dwi ddim yn hapus, mae pethau wedi mynd yn warthus - mae siopau yn brin ac mae'r lonydd yn brysur," meddai.
"'Di'r infrastructure ddim yn gallu ei ddal o a fedrwn ni ddim cario 'mlaen fel 'ma - mae hi'n orlawn.
"Dwi'n poeni am y Covid ac am bobl yn prynu tai haf - mae pawb yn d'eud r'un fath.
"Fydd 'na ddim Cymraeg ar ôl, ac mae pobl yn poeni yn uffernol am hynny."
Mae Gwyneth Hughes wedi cadw siop ddillad ym Morfa Nefyn ers 35 mlynedd.
Mae 'na arwyddion yn y drws yn gofyn i gwsmeriaid wisgo mwgwd ac i ofyn i un person ddod mewn ar y tro.
Wrth siarad â ni o'r stepen drws mae hi'n deud ei bod hi'n ceisio bod mor ddiogel â phosib - tydi hi ddim yn gadael y tŷ os nad oes rhaid ac mae hi'n mynd i siopa am fwyd yn gynnar yn y bore.
Mae hi'n cydnabod bod angen bod 'na densiwn rhwng croesawu ymwelwyr a bod ofn i'r feirws ymledu.
"Mae o'n delicate achos 'da ni'n dibynnu arnyn nhw 'da chi'n gweld," meddai.
"Dwi'n croesawu nhw ond 'da ni ddim isio iddi fod rhy brysur. 'Da ni isio bod yn saff."
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts yn byw yn y pentre', ac mae'n glir pan dwi'n siarad gyda hi bod hyn yn bwnc sy'n gyfarwydd iddi.
Mae'n rhywbeth mae hi'n meddwl yn ddwys amdano ac mae hi'n gallu gweld yr effaith mae'r diwydiant yn ei gael ar ei hardal.
Er bod pob swydd yn bwysig, meddai, mae hi'n pryderu bod yr ardal wedi dod yn rhy ddibynnol ar un diwydiant.
'Gor-ddibynnol'
"Dwi'n ymwybodol bod fy nghigydd yn Edern a'r siopau ym Morfa Nefyn yn gallu parhau drwy'r flwyddyn oherwydd eu bod nhw'n gwneud eu harian yn yr haf," meddai.
"Mae cyflogaeth o bob math yn beth da ond mae twristiaeth yn golygu swyddi dros dro sy'n cynnig cyflogau isel.
"Rydym mewn sefyllfa lle 'da ni'n or-ddibynnol ar ryw fath o 'mono-industry' a 'mono-economy', ac er bod y swyddi yna'n werthfawr i ni, mae'n rhaid i ni gael cymysgedd o gyflogaeth.
"Mae'n rhaid i ni yn yr hir dymor feddwl am sut i greu swyddi sy'n galluogi pobl i brynu tai, neu fel arall tydi'r economi ddim yn gynaliadwy."
Ar ddiwrnod clir mi allwch chi weld Sir Fôn o'r traeth ym Morfa Nefyn, ond doedd fawr o gyfle i wneud hynny'r diwrnod roeddwn i'n ymweld â Phen Llŷn.
Ond mae hynny'n fy atgoffa bod y problemau yma yn gyffredin i sawl ardal o Gymru, gan gynnwys fy ynys enedigol i.
'Dibyniaeth ar dwristiaeth'
Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol newydd yno, Virginia Crosbie yn dweud ei bod hi wrth ei bodd yn clywed bod y gwestai â'r meysydd carafanau, a'r busnesau lleol yn croesawu nifer o ymwelwyr eleni, ond mae hi'n dweud ei bod hi'n derbyn nad ydy'r diwydiant yn creu'r swyddi da y mae Môn eu hangen.
"Mae 'na ddibyniaeth ar dwristiaeth yma," meddai Ms Crosbie wrtha'i.
"Mae hynny'n golygu bod yr economi yn brysur yn yr haf ac mae'r gaeaf yn gallu bod yn andros o anodd.
"Dwi eisiau sicrhau bod pobl ifanc uchelgeisiol yn gallu aros ar yr ynys, a dyna pam dwi yn ceisio denu swyddi da."
Ond mae'r Athro Michael Woods, cyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhybuddio "os ydy pobl yn cael y neges bod dim croeso iddynt yng Nghymru wledig, wnawn nhw ddim dod yn ôl".
"Oes mae'n rhaid i ni feddwl yn galed am greu amrywiaeth yn yr economi ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus ein bod ni'n rheoli pethau mewn ffordd nad ydyn ni'n tanseilio'r economi sydd gennym ni eisoes," meddai.
Mae'r feirws wedi taflu golau ar wendidau hanesyddol yn economi gogledd Cymru yn ôl yr Athro Woods.
'Atebion dros dro'
"Mae rhannau o gefn gwlad Cymru - yn enwedig ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru - wedi eu hymyleiddio'n economaidd erioed.
"Nid ydym wedi mynd i'r afael yn llawn â dirywiad ffermio, y diwydiant llechi a physgota.
"Dim ond atebion dros dro a gawsom ac mae twristiaeth wedi bod yn rhan o'r ateb dros dro hwnnw.
"Mae twristiaeth wedi cael ei ystyried yn ormod fel panacea."
Ychwanegodd: "Ond yn fwy diweddar rydyn ni wedi gweld effaith negyddol hynny ac mewn rhai meysydd mae wedi bod yn rhy llwyddiannus.
"Rydym wedi gweld yr effaith gymdeithasol a diwylliannol negyddol y mae'n ei chael a'i ansicrwydd.
"Os mai twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ac yn sydyn mae popeth yn cael ei gau i lawr, yna mae'r economi gyfan yn hynod fregus.
"Mae angen cynllun integredig arnom i adfywio Cymru wledig nad yw'n dibynnu'n llwyr ar un neu ddau o ddiwydiannau allweddol.
"Mae twristiaeth yn dal i fod yn rhan o hynny ond mae angen i ni feddwl sut rydyn ni'n mynd i arallgyfeirio."
Lansiwyd Croeso i Gymru - Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25 gan y Prif Weinidog ym mis Ionawr a'i nod yw mynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru - tymhorol, gwariant a lledaeniad.
Y flaenoriaeth yw tyfu twristiaeth trwy wrando ar drigolion, ymwelwyr a busnesau i sicrhau twf cynaliadwy i'r economi ymwelwyr.
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn nodi sut rydym yn gweithio i adeiladu economi fywiog, amrywiol, gwyrdd a glân i Gymru, ac fel rhan allweddol o'r economi sylfaen, mae twristiaeth yn hanfodol i hyn," meddai llefarydd o Lywodraeth Cymru.
"Rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid cymdeithasol, gan gynnwys busnesau i ddatblygu cryfderau ein heconomïau a'n cymunedau rhanbarthol, ac rydym yn cefnogi cwmnïau ac unigolion ledled Cymru i ddatblygu a thyfu'n gynaliadwy.
"Mae Cymru wedi dangos cyfuniad o undod, dyfeisgarwch, gofal a dyfeisgarwch yn ystod y pandemig coronafeirws a fydd yn ein helpu i gryfhau sylfeini ein heconomi fel y gallwn addasu a ffynnu beth bynnag sydd gan y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2020
- Cyhoeddwyd8 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020