Cyfyngiadau lleol yn Llanelli, Abertawe a Chaerdydd

  • Cyhoeddwyd
llanelli
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gweld pa mor sydyn mae nifer yr achosion positif yn ardal Llanelli wedi codi yn peri pryder," medd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym mewn tair ardal newydd dros y penwythnos i atal lledaeniad coronafeirws.

Bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn Llanelli am 18:00 nos Sadwrn ac yng Nghaerdydd ac Abertawe am 18:00 nos Sul.

Mae trigolion Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd eisoes yn gorfod aros yn lleol oni bai bod rheswm da dros adael.

Mae'r newidiadau'n golygu y bydd tua 1.5m o bobl - bron i hanner poblogaeth Cymru - yn gorfod cydymffurfio â mesurau pellach i reoli achosion Covid-19.

Dywedodd Mr Gething fod rhaid cymryd y mesurau hyn "i warchod iechyd ac atal coronafeirws rhag lledu ymhellach".

Ond fe rybuddiodd na ddylai pobl yng Nghaerdydd ac Abertawe "drin y penwythnos yma fel cyfle olaf i gymdeithasu".

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Gwener

Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd y mesurau yn Llanelli ond yn berthnasol i godau post penodol, yn hytrach nag awdurdod lleol.

Bydd modd i drigolion ddarganfod ar-lein, dolen allanol os yw eu cod post yn un o'r rhai ble mae'r cyfyngiadau mewn grym.

Yn ôl Mr Gething, mae wyth o bob 10 achos o'r feirws yn Sir Gaerfyrddin wedi'u cofnodi yn Llanelli.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd profion yn cael eu cynnal ar safle Tŷ Nant yn Llanelli

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Emlyn Dole: "Mae gweld pa mor sydyn mae nifer yr achosion positif yn ardal Llanelli wedi codi yn peri pryder."

Ychwanegodd bod angen cymryd camau "i dorri'r gadwyn o heintiau sydd wedi crynhoi yn yr ardal hon, fel y gallwn osgoi sefyllfa lle mae'n rhaid cyflwyno cyfyngiadau fel hyn ar draws y sir gyfan."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Canol Caerdydd ym mis Gorffennaf wedi i'r cyfyngiadau gael eu llacio

Pwysleisiodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod angen cyflwyno "mesurau rhagofal yn y cyfnod cynnar yma" i atal lledaeniad Covid-19 "a lleihau hyd y cyfyngiadau, gobeithio".

Mae'r awdurdodau meddai, "wedi gorfod pwyso a mesur y niwed economaidd, y gost gymdeithasol, yr effaith ar iechyd meddwl, ond rydym wedi gweld yn y gorffennol be all ddigwydd os oes yna oedi cyn gosod mesurau. Gall aros hyd yn oed ychydig ddyddiau olygu colli mwy o fywydau".

Ychwanegodd fod y gwasanaeth olrhain yn dangos fod "mwyafrif yr achosion wedi eu canfod o fewn rhwydweithiau teuluol sydd wedi torri'r rheolau aelwydydd estynedig, ac sydd wedi bod yn cwrdd â mwy o bobl dan do."

"Mae hefyd wedi dod yn amlwg yn y dyddiau diwethaf fod clystyrau'n codi yn y ddinas sy'n gysylltiedig â thrigolion Caerdydd sy'n dal y feirws wrth ymweld ag ardaloedd cyfagos sydd â chyfraddau uchel o'r haint."

Ffynhonnell y llun, leighcol/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd Cyngor Abertawe'n apelio ar drigolion i beidio ceisio cael un parti olaf cyn y cyfyngiadau lleol

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart bod newidiadau i fywydau trigolion y sir yn anorfod wedi cynnydd sydyn yn nifer yr achosion coronafeirws yn yr wythnosau diwethaf.

Mae'n erfyn ar bawb i ddilyn y rheolau newydd wedi 18:00 nos Sul, ac i beidio ceisio cael un parti olaf yn y cyfamser.

"Rhaid i ni weithredu nawr a bod yn synhwyrol, nid bod yn anghyfrifol a hunanol," meddai

"Dydy'r cyfyngiadau lleol ddim yn effeithio ar archfarchnadoedd a chyflenwyr bwyd eraill, felly does dim rhaid pryderu fod stoc yn isel neu brynu mewn panig."

'Carreg filltir ddigalon'

Dywedodd Vaughan Gething y bydd gweinidogion a swyddogion yn edrych ar y data dros y penwythnos cyn penderfynu os oes angen cyfyngiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen.

Bydd yna drafodaethau hefyd wythnos nesaf gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn y gogledd, ble mae'r darlun "yn fwy cymysg".

"Mae cyflwyno cyfyngiadau yn unrhyw ran o Gymru wastad yn benderfyniad anodd i ni wneud," meddai. "Mae gorfod cyflwyno'r cyfyngiadau hyn yn ein dinasoedd mwyaf, gan gynnwys ein prifddinas, yn garreg filltir ddigalon mewn blwyddyn anodd."

Galw am fwy o gyfyngu ar raddfa leol

Mae llefarwyr iechyd y prif wrthbleidiau yn Senedd Cymru wedi galw am ddefnydd ehangach o gyfyngiadau lleol iawn, fel y rhai sy'n cael eu cyflwyno yn Llanelli.

Dywedodd y Ceidwadwr, Andrew RT Davies, ei fod "yn gresynu nad yw'n bosib, mae'n ymddangos, yn ein prifddinas", a'i fod "wedi drysu ynghylch pam fod pam fod cyfyngiadau lleol yn cael eu gosod ar ddiwrnodau gwahanol".

Ychwanegodd Mr Davies nad yw'n fodlon gydag eglurhad Mr Gething bod yna "fwy o bobl yng Nghaerdydd ac Abertawe" a bod angen rhoi amser iddyn nhw newid eu trefniadau a pharatoi i symud allan dros y penwythnos.

"Yr hyn sy'n allweddol yw eglurder a chysondeb, a dydyn ni ddim yn gweld hynny nawr gan Lywodraeth Lafur Cymru," meddai.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod cyfyngu mesurau mwy caeth i rannau o Lanelli "yn gwneud synnwyr" ond bod angen i'r ymateb fod yn gyson.

Mae'n gofyn a fyddai wedi bod yn bosib "hepgor ardal Llantrisant, gyda'i niferoedd cymharol isel o achosion, o'r cyfyngiadau llym ar draws Rhondda Cynon Taf, er enghraifft?".

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru "ystyried o ddifrif cau tafarndai a bariau'n gynt fel mesur dros dro mewn ardaloedd eraill, i helpu osgoi cyfyngiadau pellach ar draws siroedd cyfan".