Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ailagor ar gost o £2.2m
- Cyhoeddwyd

Y difrod a wnaed i reilffordd Dyffryn Conwy yn ystod stormydd
Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Llun ar reilffordd Dyffryn Conwy.
Does dim trenau wedi bod yn rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno ers mis Chwefror pan achoswyd difrod i'r cledrau gan stormydd y gaeaf.
Ers hynny bysiau sydd wedi bod yn cludo teithwyr i fyny ac i lawr y dyffryn.
Dyma'r chweched gwaith i dywydd gwael beri i'r rheilffordd gau yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Mae Network Rail wedi gwario £2.2m ar y gwaith atgyweirio gan osod 16,000 o dunelli o gerrig bob ochr i'r trac i geisio atal llifogydd rhag achosi difrod yn y dyfodol.
Mae'n ymddangos fod y cynllun hwnnw wedi gweithio oherwydd pan darodd storm Francis ym mis Awst, doedd dim modd i'r gweithwyr gyrraedd y cledrau oherwydd llifogydd ond roedd y cledrau eu hunain wedi cael eu hamddiffyn.

Y gobaith yw y bydd y meini yn amddiffyn y rheilffordd rhag y stormydd
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne sy'n cynrychioli Llanrwst ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn bwysig iawn i Lanrwst ac yn bwysig iawn i gymunedau gwledig Dyffryn Conwy wrth iddi eu cysylltu efo gweddill y sir, nid yn unig ar gyfer swyddi ond ar gyfer hamdden hefyd.
"Mae Cyngor Conwy a Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac felly mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel y rheilffordd."

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn ymestyn o Flaenau Ffestiniog i Landudno - 21 milltir o hyd
Mae gorsaf Dolgarrog, i'r gogledd o Lanrwst wedi ei hadnewyddu'n llwyr.
Roedd Rhydian Owen yn arfer defnyddio'r orsaf er mwyn dal y trên i lawr i'r arfordir er mwyn beicio.
Mae o'n hapus iawn fod y gwasanaeth yn ail-ddechrau.
"Roeddwn i," meddai, "yn defnyddio'r trên yn fwy ar gyfer hamdden yn hytrach nag ar gyfer gwaith. Mae'r trên yn handi iawn i allu mynd â'r beic arni a mynd i lawr am y glannau ac wedyn gallu teithio yn saffach ar lwybr beicio ar hyd arfordir y gogledd.

'Mae'r trên yn handi iawn i allu mynd â'r beic arni,' medd Rhydian Owen
"Hefyd mae posib neidio ar y trên i fynd i'r de tuag at Dyffryn Lledr a dod oddi ar y trên yn Nolwyddelan neu Pont Rhufeinig a gallu cerdded o fanno i fyny Moel Siabod. Mae yna nifer o atyniadau hefyd sy'n agos i'r lein.
"Yma yn Nolgarrog dydan ni ddim yn bell iawn o atyniad byd-enwog fath â Surf Snowdonia, ac efo'r lein wedi ailagor a'r orsaf wedi ei hailadeiladu, y gobaith rŵan ydi y byddwn ni yn gallu creu llwybr mwy addas i bobl allu teithio i lefydd fel Surf Snowdonia," ychwanegodd Rhydian Owen.
Mwy dibynadwy
Mae Rhodri Clark yn ohebydd trafnidiaeth ac mae o'n credu fod buddsoddiad Network Rail yn arwydd o ffydd yn nyfodol y llinell.

Mae'r amddiffynfeydd newydd wedi cael eu profi yn ystod storm ddiwedd Awst
"Mae yna wariant sylweddol wedi bod gan Network Rail yn y blynyddoedd diweddar," meddai Rhodri Clarke, "achos mae cymaint o ddifrod wedi ei wneud a rŵan efo'r gwariant diweddar yma bydd y llinell lot mwy dibynadwy a fyddwn ni ddim yn cael toriadau (yn y gwasanaeth) bob tro rydan ni'n cael llifogydd yn ardal Llanrwst, er enghraifft.
"Mae'r defnydd wedi syrthio lot ers y '90au am wahanol resymau. Un o'r rheini ydi'r toriadau rydan ni wedi gael yn y gwasanaeth dros y blynyddoedd.
"O hyn ymlaen mi faswn i'n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn gyson trwy'r flwyddyn ac y bydd hynny yn magu hyder yn y bobl leol i ddefnyddio'r trên ac hefyd yn y twristiaid i ymweld â'r lle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019