'Siom' Gareth Davies o golli ei rôl gydag Undeb Rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Wrth i'w gyfnod fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru ddirwyn i ben, mae Gareth Davies wedi mynegi siom na chafodd ei ailethol i'r bwrdd llywodraethol.
Mae hefyd wedi awgrymu fod gwleidyddiaeth o fewn y byd rygbi wedi bod yn ffactor wrth iddo golli ei sedd ar Gyngor Cenedlaethol y bwrdd.
Roedd y cyn-faswr wedi erfyn ar glybiau am gael trydydd tymor fel aelod o'r cyngor er mwyn cael sefydlogrwydd yn ystod y pandemig a newidiadau o fewn URC.
Cyn-asgellwr Cymru a'r Llewod, Ieuan Evans fydd yn cymryd ei le.
Mewn cyfweliad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, dywedodd Gareth Davies ei fod yn siomedig "bod y gwaith ni wedi 'neud ddim wedi cael ei gydnabod, mewn ffordd.
"Dim ond lan i dri mis yn ôl, oedd yr Undeb yn ca'l 'i ganmol am yr holl waith 'da ni 'di 'neud o safbwynt cysylltu â'r clybie, cefnogi'r clybie'n ariannol, egluro i nhw yn hollol beth o'dd yn mynd 'mhla'n."
Roedd Davies wedi ysgrifennu at y clybiau'n awgrymu pam y dylid ei ail-ethol a bod angen "llaw gadarn wrth y llyw" mewn cyfnod anodd i'r Undeb.
Dywedodd ar y rhaglen: "Ni wedi 'neud yn siŵr bod yr arian sy'n mynd i'r clybie cenedlaethol yn cael ei warchod.
"O'dd hwnna tipyn bach o siom hefyd bod, falle, clybie ddim yn gweld beth o'n ni 'di 'neud ddwy flynedd yn ôl.
"[Rydyn ni wedi] 'neud yn siŵr bod yr arian yn mynd atyn nhw, sydd ddim wedi digwydd yn yr undebe erill - 'ni 'di gweld trafferthion ma'r RFU [Undeb Rygbi Lloegr], er enghraifft, wedi ca'l dros y misoedd dwytha'."
'Pobol mo'yn gwyneb ffresh'
Ychwanegodd Gareth Davies fod gwleidyddiaeth o fewn y byd rygbi yn ffactor o ran colli'r bleidlais.
"Aethon ni drwy adolygiad o'r Undeb ryw dair blynedd yn ôl," meddai. "Gollodd rhai pobol eu sedd ar y bwrdd a diddorol iawn [bod] un neu ddau... wedi falle perswadio'r clybie yn eu rhanbarth nhw i ddewis pobol erill.
"Mae hwnna 'di bod yn rhan o'r peth, ond hefyd falle bod rhaid i fi dderbyn hefyd bod pobol yn mo'yn gwyneb ffresh, fel petae.
"Dwi'n hapus bod ni 'di newid rheolau'r Undeb - dim ond chwe blynedd fel cadeirydd. Yr unig beth gyniges i o'dd i fi sefyll 'mla'n am flwyddyn achos yr holl bethe sy'n mynd ymlaen.
"Mae'r prif weithredwr [Martyn Phillips] yn gad'el, mae'n independent non-execs yn gad'el [blwyddyn nesaf]. Felly mae tipyn o bobol ar top yr Undeb, fel petae, yn gad'el dros gyfnod byr, a er mwyn cael ryw cysondeb... dyna pam gyniges i sefyll 'mla'n am flwyddyn.
"Diwedd y dydd, y clybie o'dd â'r lleisie cryf, wrth gwrs, a 'na fel a'th y sefyllfa."
Roedd Gareth Davies eisoes yn aelod o'r Cyngor Cenedlaethol cyn dod yn gadeirydd URC yn Hydref 2014.
Cyn-chwaraewr rhyngwladol arall, Nigel Davies, oedd y trydydd ymgeisydd wrth i'r clybiau gefnogi Ieuan Evans.
Dywedodd Davies ei fod "yn falch iawn" eu bod wedi cystadlu yn ei erbyn oherwydd ei fod "wedi bod yn treial hybu... pobol ifancach ac yn y blaen i roi eu enw ymlaen".
Ond dywedodd ei fod yn siomedig gyda natur rhywfaint o'r feirniadaeth a gafodd ei gwyntyllu yn y cyfnod cyn y bleidlais.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020