Cyfyngiadau lleol i ddod mewn tair sir yn rhagor

  • Cyhoeddwyd
CwmbrânFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cwmbran - un o brif drefi Torfaen, ble bydd mesurau llymach yn dod i rym nos Lun

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym mewn tair sir yn rhagor am 18:00 nos Lun.

Bydd y mesurau yn berthnasol i drigolion Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen.

Roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud ddiwedd wythnos ddiwethaf eu bod yn cadw golwg ar y data yn y tair sir dros y penwythnos cyn penderfynu os oes angen cyflwyno cyfyngiadau yno.

Mae camau tebyg yn dod i rym am 18:00 nos Sul yng Nghaerdydd ac Abertawe ac maen nhw eisoes yn weithredol yn Llanelli ers nos Sadwrn.

Roedd hynny ar ben y cyfyngiadau eisoes mewn grym yn siroedd Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Chasnewydd.

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn golygu y bydd cyfyngiadau lleol mewn grym mewn 10 ardal trwy Gymru - naw sir ac un dref - erbyn nos Lun, gan effeithio ar bron i 1.9m o boblogaeth Cymru.

"Penderfyniad aruthrol o anodd"

Dywedodd Mr Drakeford bod cyfraddau achosion coronafeirws yn codi yn y tair sir sy'n "ffinio ag ardaloedd awdurdodau lleol lle mae'r cyfraddau lawer yn uwch".

"Mae cyflwyno cyfyngiadau mewn unrhyw ran o Gymru wastad yn benderfyniad aruthrol o anodd i'w wneud," meddai. "Ond rydyn ni'n gweithredu i ddiogelu iechyd pobl ac i geisio torri'r gadwyn heintio a rhwystro'r sefyllfa rhag gwaethygu.

Pwysleisiodd nad cyfyngiadau rhanbarthol mohonynt ond "cyfres o gyfyngiadau lleol i ymateb i gynnydd penodol yn yr ardaloedd dan sylw", gan fod "natur unigryw a gwahanol yn y gadwyn heintio ym mhob ardal".

Ar y llaw arall, meddai, mae "rhai ardaloedd fel Caerffili a Chasnewydd... wedi gweld cwymp go iawn [mewn cyfraddau heintiadau] ac os bydd hynny'n parhau, y gobaith yw dechrau llacio'r cyfyngiadau".

Ychwanegodd bod hi'n "arbennig o bwysig fod pawb yn cadw at y rheolau yn eu hardal" a helpu rheoli'r haint.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn pwysleisio'r angen i bobl gadw o fewn ffiniau'r sir, er bod siroedd cyfagos hefyd dan fesurau llymach

Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg mae nifer heintiadau wedi codi'n sylweddol yn yr wythnosau diwethaf, a bod 34.4 o bobl i bob 100,000 yn cael prawf positif, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Neil Moore, ei fod yn cydnabod y bydd yna "cael effaith sylweddol ar fywydau trigolion" ond bod hi'n hanfodol i weithredu cyn i niferoedd achosion gynyddu eto.

"Gynted yr ydym yn atal y cynnydd mewn trosglwyddiadau, gynted y gellir codi'r cyfyngiadau," meddai, gan bwysleisio'r angen i osgoi'r un fath o bwysau ar wasanaethau iechyd ag yn y gwanwyn.

"Ond tra bo cyflwyno mesurau'n ein rhoi yn yr un sefyllfa ag ardaloedd cyfagos, mae'n bwysig iawn i bobl gofio fod Bro Morgannwg a Chaerdydd, neu unrhyw sir arall, yn llefydd gwahanol. Mae symud dros y ffiniau nawr wedi'i wahardd am ba bynnag reswm nad sy'n eithriad."

"Mae hynny'n cynnwys ymarfer a hamdden, a ddylai ddigwydd nawr o fewn Bro Morgannwg yn unig o ran trigolion Bro Morgannwg."

Mae arweinydd Cyngor Torfaen, Anthony Hunt yn annog pawb yn y sir "i dynnu ynghyd a dilyn y mesurau, sydd yna i'ch gwarchod chi ac eich anwyliaid".

Ychwanegodd: "Rydym eisoes wedi gweld y strategaeth yma'n gweithio'n effeithiol yng Nghaerffili a Chasnewydd ble mae niferoedd wedi gostwng yn ddramatig oherwydd bod pobl yn dilyn y rheolau newydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mesurau'n weithredol ym Mhort Talbot - a choridor yr M4 rhwng Casnewydd ac Abertawe

'Cyfyngiadau rhanbarthol, yn anffodus'

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi galw unwaith eto am gyfyngiadau mwy penodol wrth geisio rheoli'r feirws.

"Efallai nad ydy'r Prif Weinidog eisiau ei ddisgrifio fel 'cyfyngiadau rhanbarthol' ond gyda 2m o bobl de Cymru nawr dan rhyw fath o gyfyngiadau, dyna yn anffodus ydyn nhw."

Mae hefyd yn galw am "gefnogaeth ariannol frys i'r busnesau hynny fydd yn cael eu taro'n galed gan y cyhoeddiad yma" ac i "ailystyried atal aelwydydd estynedig dros dro" yn sgil pryder dros iechyd meddwl unigolion, yn arbennig pobl sy'n byw ar ben eu hunain.

362 achos newydd trwy Gymru

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul fod 362 o achosion Covid-19 newydd wedi'u cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf, ond dim rhagor o farwolaethau.

Roedd 56 o'r achosion newydd yng Nghaerdydd, 49 yn Rhondda Cynon Taf, 36 yn Abertawe, 27 yn Sir Gaerfyrddin, 24 yr un ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, a 22 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

22, 945 yw cyfanswm yr achosion positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, gyda 1,612 o farwolaethau.

Blaenau Gwent, gyda 202 achos i bob 100,000 a Merthyr Tudful, gyda 169, sydd â'r cyfraddau heintiadau uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.