Llofrudd Lynette White yn cael ei symud i garchar agored
- Cyhoeddwyd
Mae argymhelliad i symud llofrudd Lynette White i garchar agored wedi cael ei gymeradwyo.
Cafodd Jeffrey Gafoor ddedfryd o garchar am oes yn 2003 gyda lleiafswm o 13 blynedd o dan glo am y llofruddiaeth yn 1988.
Roedd y Bwrdd Parôl wedi dweud bod Gafoor yn "addas" ar gyfer carchar agored, a fyddai'n ei baratoi o bosib i gael ei ryddhau.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau i BBC Cymru eu bod wedi cymeradwyo'r argymhelliad.
Cafodd Gafoor, sydd erbyn hyn yn 55 oed, ei ddal gan ddefnyddio technegau DNA newydd, 11 mlynedd ar ôl i euogfarnau o lofruddiaeth a roddwyd i dri dyn gael eu dileu.
Cafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990 am lofruddiaeth Ms White a'u rhyddhau ym 1992.
Cafodd Ms White, 20 oed, ei thrywanu fwy na 50 gwaith gan Gafoor mewn fflat yn ardal y dociau yng Nghaerdydd ym 1988.
Roedd llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl wedi dweud eu bod "yn fodlon bod y risg i'r cyhoedd wedi lleihau'n ddigonol ei fod yn addas ar gyfer carchar agored".
Ond argymhelliad yn unig oedd hynny a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder sydd wedi gwneud y penderfyniad terfynol.
Nid oedd y weinyddiaeth yn fodlon datgelu dyddiad y symud.
Dywedodd llefarydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y Gwasanaeth Carchardai "yn cadw'r gallu i ddychwelyd troseddwyr i garchar caeëdig ar yr arwydd cyntaf o unrhyw bryder".
Yn ôl canllawiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder "dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y mae argymhellion y Bwrdd Parôl yn cael eu gwrthod".
Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros £30 ar ôl i dechnoleg DNA newydd arwain Heddlu De Cymru ato yn 2003.
Wrth ddedfrydu Gafoor, dywedodd y barnwr ei fod wedi "caniatáu i ddynion diniwed fynd i'r carchar" am drosedd yr oedd yn gwybod ei fod wedi'i chyflawni.
Yn ôl y Bwrdd Parôl, pwrpas cyfnod mewn carchar agored yw "caniatáu i faterion o bryder gael eu profi mewn amodau sy'n agosach i'r rhai sydd i'w cael yn y gymuned, er mwyn rhoi cyfle i garcharorion gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd, ac i ddatblygu cynllun i'w rhyddhau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Mai 2018
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018