Apêl ar Undeb Rygbi Cymru i 'adael i’n plant ni chwarae’

  • Cyhoeddwyd
bachgen a phel rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 'na alw ar Undeb Rygbi Cymru i wneud tro pedol wedi iddyn nhw gyhoeddi eu bod nhw wedi gwahardd clybiau cymunedol rhag hyfforddi mewn ardaloedd lle mae 'na gyfyngiadau Covid 19 ychwanegol.

Erbyn bore Mawrth roedd dros 4,000 o bobl wedi llofnodi deiseb -'Gadewch i'n plant ni chwarae' - gafodd ei chyhoeddi nos Sul.

Maen nhw'n gofyn am adael i blant barhau i hyfforddi "er eu lles meddyliol a chorfforol".

Yn ôl yr Undeb, maen nhw'n awyddus i rwystro'r haint rhag ymledu o fewn y gymuned, ac yn dweud mai lles chwaraewyr a'r cyhoedd ydy'r flaenoriaeth.

Yn ôl nifer o sylwadau ar y ddeiseb, mae pobl yn poeni am les meddyliol a chorfforol y plant, ac yn dadlau nad ydy sesiwn hyfforddi rygbi yn ddim gwahanol i wers ymarfer corff yn yr ysgol, neu sesiwn bêl-droed.

chwaraewyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sesiynau hyfforddi pêl-droed yn parhau i gael eu cynnal

Dydy Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim wedi gwahardd sesiynau hyfforddi, ond mae 'na ganllawiau iechyd a diogelwch manwl i'w dilyn., dolen allanol

Mae'r Athro Carwyn Jones yn arbenigo mewn moeseg chwaraeon. Mae hefyd yn gwnselydd, ac yn hyfforddi tîm rygbi dan saith oed Clwb Rygbi Bangor.

"Mae chwaraeon nid yn unig rygbi yn cynnig bob math o brofiadau sy'n cyfoethogi bywydau plant, ond yn fwy pwysig na hynny i gyd falle ydy bod nhw'n cael hwyl ac yn mwynhau," meddai.

"Mae'n ddiddorol gweld bod agweddau yn newid ychydig bach lle bod pobl rŵan yn dechrau trio blaenoriaethu iechyd meddwl, nid yn unig plant ond lot o bobl sy'n dioddef oherwydd y cyfyngiadau yma."

'Adolygu'r mesurau'

Ychwanegodd bod y cyfyngiadau wedi "stopio pobl rhag gwneud lot o'r pethau sy'n eu cadw nhw'n iach yn fedyddiol".

"Mewn ffordd, yr holl bethau sy'n cyfoethogi bywydau ac yn helpu iechyd meddwl, mae'r cyfyngiadau yma yn tynnu'r rheiny oddi wrthym ni."

Mewn datganiad, mae Undeb Rygbi Cymru yn cydnabod fod clybiau wedi bod yn amyneddgar, ac yn gofyn am eu cymorth i helpu eu cymunedau unwaith eto.

Fore Mawrth fe wnaeth yr Undeb hefyd gyhoeddi bod y gwaharddiad ar rygbi cymunedol yng Nghaerffili wedi cael ei godi yn dilyn adolygiad o'r sefyllfa yno dair wythnos wedi i gyfyngiadau gael eu cyflwyno yn y sir.

Dywedodd llefarydd y bydd yr undeb yn "adolygu'r mesurau yn gyson, ac yn cadw golwg ar y wybodaeth ddiweddara' gan Lywodraeth Cymru".