Sut y trodd cyfeillgarwch yn llofruddiaeth?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y cyn-dditectif Hywel Rees, oedd yn gyfaill i Michael O'Leary, yn trafod yr achos

Pan ddiflannodd Michael O'Leary ar 27 Ionawr, fe aeth degau o wirfoddolwyr lleol i chwilio amdano ar y diwrnod canlynol.

Roedd yna bryder fod Mike, a oedd yn 55 oed, wedi mynd i'r afon, ar ôl i'w gerbyd Nissan Navara gael ei ddarganfod mewn maes parcio i bysgotwyr ar y ffordd i Gapel Dewi.

Roedd ei deulu a'i ffrindiau yn amau hynny, am ei fod yn ofni dŵr.

Roedd un person yn absennol yn ystod y chwilio, serch hynny. Ei lofrudd, Andrew Jones.

Roedd y ddau ddyn wedi bod yn ffrindiau agos. Yn ystod yr achos llys, dywedodd Andrew Jones bod Michael O'Leary ymhlith ei bump o ffrindiau agosaf.

Roedd y ddau'n mynychu Clwb Rygbi Nantgaredig, ac wedi cydweithio ar estyniad newydd y clwb.

Ffynhonnell y llun, Hywel Rees/Clwb Rygbi Nantgaredig
Disgrifiad o’r llun,

Michael O'Leary wrthi yn cloddio seiliau adeilad newydd y clwb rygbi mewn Jac Codi Baw

Ffynhonnell y llun, Hywel Rees/Clwb Rygbi Nantgaredig
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Jones yn gwneud gwaith plastro ar yr un adeilad

Roedd Mike O'Leary yn gyfrifol am gloddio'r seiliau, ac yntau'n rheolwr safle gyda chwmni WRW, ac Andrew Jones, yn gyfrifol am blastro'r adeilad newydd.

Bu'r ddau'n mynd ar dripiau tramor fel aelodau o'r "Clwb Mwnci Dwl", criw o ffrindiau oedd yn dod at ei gilydd yn rheolaidd.

Roedd Andrew Jones yn adeiladwr llwyddiannus yn ardal Caerfyrddin a thu hwnt ac wedi bod yn gadeirydd ar Gymdeithas y Ford Gron yn y dref.

Roedd Michael O'Leary yn Ysgrifennydd Gemau i Glwb Rygbi Nantgaredig ac wedi bod yn gapten ac yn chwaraewr i'r clwb.

Er bod y ddau wedi bod yn ffrindiau, fe ddaeth Andrew Jones i wybod fod Mike O'Leary yn cael perthynas gyda'i wraig Rhiannon.

Roedd Mike O'Leary a Rhiannon Jones ym mynychu'r un gampfa yng Nghaerfyrddin, ac yn cymdeithasu gyda'i gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Jones, gyda'i wraig, Rhiannon

Fe ddatblygodd y berthynas rhywbryd yn ystod 2019, ac fe ddaeth Jones a'i ferch Cari i wybod am y garwriaeth yn yr Hydref.

Bu Andrew Jones yn cadw golwg ar negeseuon ffôn ei wraig am fisoedd, hyd yn oed pan brynodd ffôn "cudd" i barhau â'r berthynas gyda Mike O'Leary.

Yna, ar 25 Ionawr, cafodd "Diwrnod i'r Merched" ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig.

Gofynnodd Jones i'w ferch gadw golwg ar ei wraig. Pan fu Mike O'Leary a Rhiannon Jones yn siarad wrth y bar, fe gamodd Cari Jones rhwng y ddau i'w gwahanu.

Mae'n glir fod y stori wedi mynd yn ôl at Andrew Jones.

Anfon neges Saesneg

Ar y dydd Llun canlynol, fe wnaeth e feddiannu ffôn cudd ei wraig, a threfnu i gwrdd â Mike O'Leary ar ei ffarm anghysbell, Cincoed, ger pentref Cwmffrwd.

Roedd Mr O'Leary yn meddwl ei fod yn mynd yna i gyfarfod Rhiannon. Pan gyrhaeddodd e, roedd Andrew Jones yn aros amdano gyda reiffl 0.22.

Ar ôl llofruddio Mr O'Leary, fe wisgodd esgidiau ei ffrind a gyrru ei gerbyd Nissan Navara i lawr i'r maes parcio ar ffordd Capel Dewi.

Seiclodd nôl i'r ffarm yng Nghwmffrwd er mwyn casglu corff Mike O'Leary, oedd eisoes yng nghefn ei gar.

Aeth â'r corff nôl i'w gartref yn Heol Bronwydd, ble llosgodd gorff Mr O'Leary ar goelcerth o faledau pren gyda chymorth tanwydd, yn oriau mân y bore ar 29 Ionawr.

Daeth yr heddlu o hyd i ddarn o berfedd Mr O'Leary mewn hen gasgen olew gerllaw yn ystod yr ymchwiliad, ond roedd gweddillion y corff wedi cael eu gwaredu gan Jones.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael O'Leary yn aelod pwysig o'r clwb rygbi lleol

Yn ystod yr achos llys fe honnodd Andrew Jones ei fod wedi cyfarfod Michael O'Leary gyda dryll "i godi ofn arno" ond i'r dryll danio ar ddamwain pan wnaeth ei gyfaill fynd amdano.

Ond yn ôl yr erlyniad, roedd Jones wedi creu cynllun gofalus i lofruddio Michael O'Leary, er mwyn iddi ymddangos ei fod e wedi lladd ei hun.

Roedd hynny yn cynnwys anfon negeseuon testun at aelodau teulu Michael O'Leary oedd yn cynnwys y geiriau: "I'm so sorry x" o ffôn Mr O'Leary.

Ond roedd hyn ynddo'i hun yn codi amheuon am mai yn Gymraeg y byddai Mike wedi anfon y neges, yn ôl ffrind agos iddo, Hywel Rees.

'Bant â'r allwedd'

Bu Mr Rees, sy'n gyn-Uwch Arolygydd gyda Heddlu Dyfed Powys, yn rhannu 'stafell gyda Mike O'Leary ar daith y Llewod i Awstralia.

Mae'n dweud bod y llofruddiaeth yn un gwbl erchyll: "Roeddwn i yn nabod y ddau. Nage dim ond ei fod e wedi ei ladd e ond y ffaith ei fod e wedi cael e i ddod i gwrdd â fe trwy dwyll.

"Wedyn ei ladd, a wedyn cael gwared ar y corff mewn ffordd erchyll. Se ni'n farnwr, mi faswn i'n taflu'r allwedd i ffwrdd.

"Rwy'n meddwl bod rhywbeth o'i le yn ei feddwl. Dyw e ddim yn flin. Bant â'r allwedd yn fy meddwl i."

Roedd Michael O'Leary hefyd yn ffrindiau agos gyda'r actor Julian Lewis Jones.

"Mae'n anodd credu fy mod i byth yn mynd i'w weld o eto," meddai Julian. "Dyna beth sydd yn anodd i fi. A fydd y wên ddim yna a'r personoliaeth. Mae'n gymeriad mor fawr."

Yn ôl Julian Lewis Jones, roedd hi'n anodd credu fod Andrew Jones wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth ei gyfaill: "Mi oedd yn sioc mawr achos mae rhywun yn medru colli ei fywyd drwy ddamwain neu hunanladdiad yn drist iawn, ac mae'n effeithio cymaint o bobl.

"Ond wedi darganfod bod rhywun wedi ei frifo, ei ladd o, i berson da, sydd yna i gymaint o bobl, mae'n anodd iawn cael dy ben rownd hynny."

Disgrifiad,

Dywedodd ffrind Mr O'Leary, yr actor Julian Lewis Jones, ei fod yn "anodd credu"na fyddai'n ei weld eto

Roedd Hugh Harries, Cadeirydd Clwb Rygbi Nantgaredig, wedi bod yn y clwb ar 25 Ionawr, ddeuddydd cyn i Mike O'Leary ddiflannu.

Sylwodd Mr Harries nad oedd Andrew Jones wedi dod i chwilio am ei ffrind pan ddiflannodd: "Ro'n ni gyd 'ma p'nawn dydd Mawrth a dydd Mercher, ond Andrew, doedd e ddim 'ma.

"Clywson ni dydd Iau ei fod e wedi cael ei arestio. Roedd hynny yn galed."

Mae Hugh Harries yn dweud y bydd yn cofio am Mike O'Leary fel person llawn sbort: "Rwy'n cofio'r nos Sadwrn diwethaf. Roedd fe a fi yn dawnsio ar ben y ford. Dyna'r tro diwethaf weles i fe."

Disgrifiad o’r llun,

Fe sylwodd Hugh Harries nad oedd Andrew Jones wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd i Michael O'Leary

Yn ôl Mr Harries, roedd yn aelod hollbwysig o glwb rygbi Nantgaredig: "Roedd fe a'r plant wedi bod yn chwarae yma. Rhywbeth oeddech chi moyn, roedd Mike yn fodlon gwneud e."

Bydd cymuned Nantgaredig yn gwneud ei gorau i gefnogi teulu Michael O'Leary, meddai: "Ni wedi bod yn siarad gyda Sian a'r plant, Wayne, Phil a Simon. Ni'n edrych ar eu hôl nhw a dangos cefnogaeth."

O gwmpas yr ardal, mae yna bosteri yn hysbysebu gemau Clwb Rygbi Nantgaredig gyda'r geiriau "Teulu Nant" yn amlwg iawn.

Fe fydd y teulu hwnnw nawr yn gobeithio bod yn gefn i deulu Michael O'Leary ar ddiwedd achos llofruddiaeth sydd wedi ysgwyd cymuned glos Gymreig yn Sir Gaerfyrddin at ei seiliau.