Achos Nantgaredig: Andrew Jones yn euog o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio cariad ei wraig yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl dod i wybod am y berthynas.
Dywedodd yr erlyniad fod Andrew Jones, 53, wedi denu Michael O'Leary, 55, i'w fferm anghysbell ym mis Ionawr eleni a'i saethu, cyn cludo'i gorff i'w iard adeiladu yng nghar ei wraig a'i losgi.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod darn o goluddyn dynol mewn drwm olew ar eiddo'r diffynnydd, Fferm Cincoed yn perthyn i Mr O'Leary.
Roedd yr amddiffyniad wedi ceisio dadlau mai "damwain erchyll" oedd y farwolaeth, yn hytrach nag achos o lofruddiaeth.
Dywedodd Jones iddo fynd â dryll i'w gyfarfod gyda Mr O'Leary "i godi ofn arno" ond i'r dryll danio ar ddamwain pan wnaeth ei gyfaill neidio amdano.
Nid oedd hynny'n ddigon i ddarbwyllo'r rheithgor, ac fe'i cafwyd yn euog o lofruddio ddydd Llun.
Yn ystod yr achos, dywedodd Jones ei fod wedi adnabod Michael O'Leary am tua 25 mlynedd ac roedd yn ei ystyried fel ei "bumed neu chweched" ffrind gorau.
Clywodd y llys fod y negeseuon rhwng y diffynnydd a'i wraig yn awgrymu fod eu priodas dan straen wedi i Jones ddarganfod fod ei wraig yn cael perthynas â Mr O'Leary.
Roedd Jones wedi anfon negeseuon at Mr O'Leary o ffôn cudd ei wraig, Rhiannon Jones, er mwyn ei ddenu i'r fferm - ac yna ei ladd.
Ar ôl diflaniad Mr O'Leary, fe wnaeth Jones anfon nifer o negeseuon ar ei ffôn at ei ffrindiau yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig yn gofyn a oedd yna "unrhyw newyddion" am Mr O'Leary.
Dywedodd un o'r negeseuon "gallai ddim dod dros Mike," ac yna ychwanegodd, "gobeithio ei fod yn Sbaen yn partïo neu rywbeth".
Ond mewn gwirionedd, meddai'r erlyniad, roedd Jones wedi ceisio cuddio'r hyn a wnaeth drwy barcio car Mr O'Leary ger Afon Tywi a cherdded tua'r afon yn gwisgo ei esgidiau rhedeg.
Yna fe feiciodd yn ôl i'r fferm cyn cludo'r corff i'w gartref a'i losgi.
Ar ôl i Jones gael ei arestio ddiwedd Ionawr, daeth yr heddlu o hyd i waed ar beiriant codi nwyddau yn Fferm Cincoed.
Clywodd y llys bod profion DNA yn dangos ei fod yn cyfateb gyda phroffil DNA Mr O'Leary.
Roedd profion DNA hefyd yn dangos olion gwaed Mr O'Leary ar eitemau eraill yn cynnwys pâr o jîns yng nghartref Jones, esgidiau ymarfer a chist car roedd Jones yn gyrru ar y noson y diflannodd Mr O'Leary.
Roedd olion gwaed hefyd ar grys rygbi roedd Jones yn gwisgo.
Ar ôl i'r rheithgor fethu â dod i benderfyniad yr oedd pob un yn cytuno arno, dywedodd y barnwr, Mrs Ustus Jefford y byddai'n derbyn penderfyniad y mwyafrif.
Cafwyd yn euog o fwyafrif o 11-1 gan y rheithgor ddydd Llun.
Ni chafodd Jones ei ddedfrydu ddydd Llun, ond dywedodd y barnwr wrtho mai'r unig ddedfryd oedd yn bosib oedd dedfryd oes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020