Llinell amser llofruddiaeth Michael O'Leary
- Cyhoeddwyd
Rhywbryd yn ystod 2019 - Dechreuodd y berthynas gudd rhwng Michael O'Leary a Rhiannon Jones.
Medi 2019 - Andrew Jones yn dod i wybod am y berthynas ar ôl gweld negeseuon ar ipad ei wraig. Cari ei ferch yn dod i wybod am y berthynas ar ôl clywed dadl rhwng ei rhieni. Yn y misoedd wedyn, Andrew Jones a'i ferch yn cadw golwg ar negeseuon ffôn a symudiadau Rhiannon Jones.
25 Ionawr 2020 - Diwrnod y Merched yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig. Mike O'Leary yn cael ei weld ar y CCTV yn siarad â Rhiannon Jones wrth y bar. Cari Jones yn sefyll rhwng y ddau er mwyn eu gwahanu. Dadl rhwng Rhiannon Jones a'i merch ar ôl y sgwrs.
27 Ionawr - Andrew Jones yn cael gafael ar ffôn cudd Rhiannon Jones - yr un roedd yn defnyddio i anfon negeseuon at Michael O'Leary. Ar y ffôn hwnnw trefnodd i gwrdd ag e yn fferm anghysbell Cincoed. Mr O'Leary yn meddwl ei fod yn mynd i gwrdd gyda Rhiannon Jones. Ond Andrew Jones yn ei saethu yn farw yno.
20:21 ar 27 Ionawr - Aelodau o deulu Mr O'Leary yn cael neges destun o'i ffôn personol oedd yn dweud "I'm so sorry x"
21:44 ar 27 Ionawr - Y teulu yn dweud wrth Heddlu Dyfed Powys ei fod ar goll.
Dod o hyd i gerbyd Nissan Navara Mr O'Leary mewn maes parcio ger Afon Tywi. Andrew Jones wedi ei adael yno cyn seiclo nôl i fferm Cincoed er mwyn delio â'r corff. Gwasanaethau brys yn chwilio am Mr O'Leary am ddeuddydd ar hyd glannau Afon Tywi a thu hwnt.
28 Ionawr - Heddlu yn siarad gydag Andrew Jones yn Ysbyty Glangwili, ble roedd ei wraig yn cael triniaeth. Dweud ei fod e wedi gweld Michael O'Leary am y tro olaf o bellter yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig ar 25 Ionawr.
29 Ionawr - Oriau mân y bore, Andrew Jones yn llosgi'r corff ar bentwr o faledau pren ar safle ei gartref yn Heol Bronwydd cyn cael gwared a'r gweddillion.
21:25 ar 29 Ionawr - Andrew Jones yn siarad gyda'r heddlu eto. Y tro yma yn dweud ei fod wedi anfon negeseuon at Mike O'Leary a threfnu i gwrdd yn fferm Cincoed. Dweud bod y ddau wedi cael sgwrs emosiynol ynglŷn â'r berthynas rhwng Mr O'Leary a Rhiannon. Yn ôl Andrew Jones, Mr O'Leary wedi gyrru bant o'r ffarm yn fyw ac yn iach.
30 Ionawr - Arestio Andrew Jones am 13:50 ar amheuaeth o lofruddio Michael O'Leary. Yr heddlu yn mynd ag wyth o ddrylliau o'i gartref yn cynnwys y reiffl Colt 0.22 a ddefnyddiwyd i lofruddio Michael O'Leary.
4 Chwefror - Yr Heddlu yn darganfod gwaed ar beiriant codi nwyddau yn fferm Cincoed. Profion DNA yn dangos fod y gwaed yn cyfateb gyda phroffil DNA Mike O'Leary.
14 Mawrth - Darn o berfedd Michael O'Leary yn cael ei ganfod mewn hen gasgen olew ar safle cartre'r diffynnydd yn Heol Bronwydd. Roedd y proffil DNA yn cyfateb i un Mr O'Leary. Profion DNA yn dangos olion gwaed Michael O'Leary ar eitemau eraill yn cynnwys pâr o jîns yng nghartref Andrew Jones, esgidiau ymarfer a chist car Audi Q7 roedd Andrew Jones yn gyrru ar y noswaith diflannodd Michael O'Leary. Roedd ei olion gwaed hefyd ar grys rygbi roedd Andrew Jones yn gwisgo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020