Her 24:24 yn 'sbarduno gweithiau newydd'
- Cyhoeddwyd
Eleni, i nodi Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol ar 1 Hydref, cafwyd her go wahanol, sef her 24:24.
Rhwng hanner dydd 1 Hydref a hanner dydd 2 Hydref, aeth 24 artist ati i gynhyrchu darn yr un bob awr, am 24 awr - pob un ar y testun Gweledigaeth.
Cylchgrawn Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru fu'n gyfrifol am yr her, a welodd gadwyn o artistiaid o bob math - yn feirdd, dylunwyr, actorion, cyfansoddwyr a mwy - yn dwyn ysbrydoliaeth gan waith yr artist blaenorol yn y gadwyn i gynhyrchu darn gwreiddiol.
Iestyn Tyne, un o olygwyr Y Stamp, oedd un o drefnwyr y digwyddiad, yn ogystal â'r artist gymerodd y slot cyntaf, ar y cyd â'i gyd-Stampiwr, Esyllt Lewis. Felly beth oedd tu ôl prosiect mor uchelgeisiol?
"Mae hi'n hen gyfnod anarferol ac felly'n gyfle i wneud pethau anarferol efo'r pethau arferol!
"Mae Her 100 Cerdd [sydd fel arfer yn cael ei gynnal gan Llenyddiaeth Cymru i nodi'r diwrnod] wedi bod yn ddigwyddiad hynod boblogaidd ers y cychwyn, ac adeiladu ar y fformat 24 awr yna oedd y bwriad.
"Ond yn hytrach na phedwar bardd dros y cyfnod cyfan yn ymdrechu i greu 100 darn, ein penderfyniad ni oedd agor y peth allan, fel bod mwy o bobl sy'n gweithio mewn disgyblaethau amrywiol yn medru cyfrannu a chael budd o'r cynllun."
Ac yn sicr, cafwyd amrywiaeth o weithiau dros y 24 awr - yn ganeuon, darluniau, dawnsfeydd, ysgrifau, ffilmiau byrion a mwy - oll wedi eu cynhyrchu a'u huwchlwytho i'r we o fewn 60 munud, oedd yn sicr yn her i'r hartistiaid a'u creadigrwydd.
"Trwy roi cyfyngiad amser mor ofnadwy o dynn, peidio gosod unrhyw ddisgwyliadau ar yr artistiaid, a'u hannog i roi hunan-feirniadaeth o'r neilltu, ein gobaith oedd y byddai'r prosiect yn sbarduno gweithiau newydd, anarferol o bosib," meddai Iestyn.
"Roedden ni hefyd yn gweld y syniad o gyfosod pobl na fyddai o bosib wedi cael y cyfle i gydweithio fel arall i ymateb i waith ei gilydd yn un cyffrous.
"Mae cyfuno arddulliau a disgyblaethau wastad yn bwydo'i gilydd i greu pethau newydd, gwreiddiol. Roedden ni'n sicr yn meddwl y byddai cael criw eang ac amrywiol at ei gilydd yn cynyddu'r siawns o ganlyniadau cyffrous, heriol a gwahanol."
3pm
Un o'r artistiaid cyntaf i fynd ati i greu oedd Dafydd Reeves, sydd yn ysgrifennu barddoniaeth, rhyddiaith a chaneuon. Cyfansoddodd egin cân yn dwyn y teitl Gweledigaeth, ac ysgrifennu cerdd a oedd wedi ei ysbrydoli gan baentiad yr artist yn y slot o'i flaen, Melissa Rodrigues.
"Nes i rili fwynhau," meddai Dafydd. "Dwi'n ffan o'r Stamp a'r gwaith maen nhw'n 'neud. 'Nes i feddwl 'swn i'n cymryd rhan a bod yn rhan o rywbeth cyffrous a chreadigol.
"Cyn i mi ddechrau, nes i bach o baratoi, ond nes i ymateb yn hollol wahanol i beth 'nes i baratoi, felly 'naeth e gymryd fi mewn cyfeiriad hollol wahanol.
"Mae'n fraint cael gweithio gyda phobl eraill a dod lan gyda syniadau newydd. Mae beth ti'n dod lan gyda wastad yn wahanol i beth fyset ti'n 'neud ar ben dy hun.
"Hefyd, pryd ti'n gweithio ar ben dy hun, ti weithiau'n dueddol o gwympo mewn i'r hen arferion, felly 'swn i ar ben fy hun, 'swn i'n sgwennu am dderwyddon neu hud a lledrith drwy'r amser!
"O'n i'n eitha' bles gyda beth 'nes i ddod lan gyda.
"O'n i yn nerfus. I ddechrau, o'n i jest yn edrych ar y sgrin am rhyw bum munud, a dim byd yn dod mas, a panicio dipyn bach i ddechrau. Ond wedyn pan 'naeth pethau ddechrau dod mas...
"O'dd 'na rywfaint o boeni, ond o'dd e'n ddigon o amser yn y pendraw, jest â bod, a 'nes i ddefnyddio'r munudau ola' i'w roi e lan.
"Felly o'dd e'n her, ond o'dd e'n her o'n i'n mwynhau."
3am
Y ddawnswraig, Elan Elidyr, oedd yr 16eg artist i gymryd y llyw, ac wedi mwynhau'r profiad unigryw, er ei bod hi wrthi am 3 y bore:
"Fel arfer mae Y Stamp yn bethau ysgrifenedig, felly mae'n neis bod nhw'n gallu, drwy 'neud rhywbeth dros y we, dod ag artistiaid digidol, dawnswyr a phobl mwy gwahanol na fydden nhw fel arfer, sy'n cŵl.
"Dros y cyfnod clo, dwi wedi bod yn dawnsio yn yr ardd eitha' lot, a rhoi fideos ar Instagram - er mwyn i 'neud i fi 'neud e bron.
"Fi wedi cael lot o ddiwrnodau yn ystod hwn lle dwi ddim eisiau dawnsio, achos fi methu'i 'neud e'n iawn yn y tŷ, heb gicio'r soffa neu dorri'r teledu... O'n i'n ei 'neud e'n yr ardd, ac o'dd hwnna'n ocê.
"Ddywedodd fy ffrind i mae'n siŵr 'swn i'n cael 3am... a wedyn ges i 3am. Ond hwnna yw'r amser gorau i drio rhywbeth allan; dyna'r amser i fynd i'r stryd!
"O'dd e'n deimlad rili neis. Bydden i 'di aros allan yn hirach, 'swn i 'di gallu, jest yn rhedeg ar y stryd. Plan of action fi oedd symud ac ymateb am hanner awr, ac wedyn hanner awr i edrych arno fe a'i olygu. Ond o'dd hi'n 3.40 erbyn i mi ddechrau ei dorri... a'i anfon i mewn am 3.55!
"O'dd pawb wedi gallu gwneud beth bynnag oedden nhw eisiau, heb feirniadaeth - a phopeth yn hollol wahanol. O'dd e'n mynd i bobman yn syth, ond o'dd e'n neis, gweld ffordd o'dd pobl yn dehongli pethau."
Diffyg cyfleoedd?
Felly nawr gyda'r 24 awr ar ben, beth yw gobaith y trefnwyr?
"Rydan ni'n gobeithio bod prosiect nid yn unig wedi esgor ar 24 darn unigol sy'n sefyll ar eu traed eu hunain, ond hefyd ar gorff cyfan o waith sy'n cynrychioli ymatebion a safbwyntiau gwahanol bobl o gefndiroedd amrywiol i thema gyffredin," meddai Iestyn.
"Mae diffyg cyfleoedd i greu fel hyn heb ddisgwyliadau, efallai - a diffyg cyfleoedd o bosib i rwydweithio ac ymwneud ag artistiaid mewn disgyblaethau gwahanol.
"Felly mae'r prosiect yma wedi cynnig hynny - gobeithio y bydd rhai o'r artistiaid yma yn cael cyfleoedd i gydweithio eto yn y dyfodol."
Hefyd o ddiddordeb: