Y gwyddoniaeth y tu ôl i fesurau COVID-19

  • Cyhoeddwyd
menyw gyda mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images

Feirws newydd yw coronafeirws SARS CoV-2. Cyn y pandemig presennol a lledaeniad COVID-19 nid oedd llawer yn gwybod sut roedd y feirws yn gweithio, beth ei achosodd a sut y cafodd ei drosglwyddo.

Bob dydd, mae gwyddonwyr yn gweithio'n galed i ddadorchuddio ei gyfrinachau gan obeithio dod o hyd i'w wendid a datblygu brechlyn. Mae'r broses hon, fel y mae'r cyhoedd yn ei ddarganfod, yn araf ac yn anodd iawn.

Mae nodi ffeithiau yn anodd dros ben, gan fod ffeithiau yn aml yn gymharol â'r sefyllfa. Cawn felly negeseuon sy'n gwrthddweud ac yn ddryslyd. Hyd yn oed rhwng gwahanol wledydd y DU, rydym yn gweld gwahanol negeseuon a chyfyngiadau yn cael eu gosod.

Beth felly yw'r dystiolaeth o ran y gwahanol fesurau?

Pam yr amser cau o 10pm?

Lle bynnag mae pobl yn ymgynnull mewn torfeydd, maent mewn perygl o ledaenu'r feirws. Mae'r risg yma yn cynyddu'n sylweddol y tu mewn pan fydd pobl yn eistedd ac yn siarad yn agos at ei gilydd, e.e. mewn tafarn neu fwyty. Mae'r amodau hyn yn berffaith ar gyfer trosglwyddo'r feirws.

Nod yr amser cau am 10pm yw lleihau ymhellach y cyfnod cyffredinol y mae pobl yn ei dreulio mewn cysylltiad agos â'i gilydd, ac o ganlyniad, lleihau'r risg trosglwyddo.

Nid oes sail wyddonol wedi ei brofi am amser cau 10pm ac mae llawer o ddadlau yn y maes gwyddonol ynghylch a allai hyn fod yn fwy niweidiol na buddiol i leihau lledaeniad y feirws.

Mae'r Llywodraeth yn gobeithio y bydd hyn yn gweithio ac yn atal gorfodi cyfyngiadau mwy caeth yn y dyfodol. Hyd nes y bydd mwy o ddata yn cael ei gasglu, ni fyddwn yn gwybod a yw'r cyfyngiad hwn yn gweithio ai peidio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mygydau wyneb

Cymru oedd y wlad olaf yn y DU i orfodi'r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb, a dim ond o 14 Medi y daeth yn ofyniad cyfreithiol mewn siopau a lleoedd cyhoeddus dan do eraill. Cyn hyn, nododd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, mai dim ond achos iechyd cyhoeddus ymylol oedd o blaid gorfodi eu gwisgo.

Yn ystod achosion cloi cychwynnol y gwanwyn, gostyngodd y niferoedd er nad oedd gorchuddion wyneb yn orfodol a dim ond yn ddiweddar maent wedi dechrau cynyddu. Felly pam mae angen i ni eu gwisgo?

Mae gan orchuddion wyneb ran uniongyrchol i'w chwarae wrth leihau trosglwyddiad wyneb yn wyneb. Mae gan fygydau wyneb y budd ffisiolegol ychwanegol o atgoffa pobl sy'n eu gwisgo am y pandemig parhaus, sy'n arwain at newidiadau mewn ymddygiad, sy'n cyfrannu ymhellach at arafu'r ymlediad.

Mae tystiolaeth dda iawn y gall mesurau fel golchi dwylo, pellhau cymdeithasol a gorchuddion wyneb gael effaith ar leihau trosglwyddiad. Hyd yn oed os mai dim ond 50-65% o'r boblogaeth sy'n ofalus, gall hyn helpu i atal copaon heintiau pellach.

A yw coronfeirws yn cael ei ledaenu gan yr ifanc?

Mae'n dibynnu ar eich diffiniad o 'ifanc'.

Wrth i'r wasg gael gafael ar ddatganiad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a nododd mai pobl ifanc a oedd yn gyrru lledaeniad coronafeirws, roedd llawer o allfeydd newyddion naill ai wedi gadael allan neu ddim yn pwysleisio bod y WHO hefyd wedi nodi eu bod yn cynnwys pobl yn eu 20au, 30au a 40au.

Y rheswm i dynnu sylw at bobl ifanc yw helpu i'w gwneud yn ymwybodol. Mae gan y mwyafrif o bobl ifanc sy'n cael eu heintio symptomau ysgafn iawn neu ddim symptomau o gwbl. Gall hyn arwain atyn nhw'n trosglwyddo'r feirws yn ddiarwybod i eraill.

Daeth y neges mewn ymdrech i ddyblu'r ymdrechion i leihau trosglwyddiad y feirws i gymunedau bregus a pheidio â gosod y bai wrth draed yr ieuenctid.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Pryd fydd y pandemig yn dod i ben?

Bydd cwrs y pandemig y flwyddyn nesaf yn dibynnu'n fawr ar ddyfodiad brechlyn, ac ar ba mor hir mae'r system imiwnedd yn aros yn amddiffynnol ar ôl brechu neu adferiad rhag haint.

Mae llawer o frechlynnau yn amddiffyn am ddegawdau, fel y rhai yn erbyn y frech goch neu polio, tra bod effaith eraill fel ffliw yn gostwng dros amser, a pham fod angen brechlyn atgyfnerthu bob tymor ar bobl.

Mae rhywfaint o dystiolaeth optimistaidd y gallai fod mwy o imiwnedd eisoes nag ydym yn ei feddwl. Mae hyn oherwydd cyfuniad o imiwnedd naturiol a mwy o bobl yn dod i gysylltiad â'r feirws nag y mae prawf ac olrhain yn ei awgrymu.

I ateb y cwestiynau hyn, bydd angen i ymchwilwyr ddilyn nifer fawr o bobl dros amser hir iawn. Felly rydym yn annhebygol o wybod yn y dyfodol agos. A yw wedyn yn rheswm i ni ddechrau dysgu byw gyda'r firws?