Ffatri newydd yn cyflogi cyn-weithwyr Laura Ashley

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr Fashion-Enter yn Y Drenewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n cyflogi 77 o weithwyr oedd yn arfer gweithio i gwmni Laura Ashley

Mae disgwyl i dros 70 o gyn-weithwyr Laura Ashley ddychwelyd i weithio yn y diwydiant dillad ddydd Llun wrth i fenter gymdeithasol Fashion-Enter agor canolfan gynhyrchu newydd yn Y Drenewydd.

Mae Fashion-Enter Ltd (FEL) yn arbenigo mewn hyfforddi a gweithgynhyrchu ac maen nhw wedi sicrhau cytundeb gyda'r manwerthwr ffasiwn ar-lein ASOS.

Mae'r cwmni wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru i sefydlu'r ffatri.

Fe wnaeth ffatri Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru gau yn ystod yr haf gyda 57 o swyddi'n cael eu colli.

Bydd y cwmni newydd yn cynhyrchu 10,000 dilledyn yr wythnos i ddechrau, a'r disgwyl yw y bydd hyn yn cynyddu i 20,000 yr wythnos o fewn mis.

'Pwythwyr profiadol fel aur'

Dywedodd prif swyddog gweithredol FEL, Jenny Holloway: "Roedd nifer o'r pwythwyr yr ydym wedi eu cyflogi wedi bod yn gweithio i Laura Ashley am dros 35 mlynedd.

"Mae'n anodd dod o hyd i gynifer o bwythwyr profiadol yn unlle bellach, maent fel aur."

Ffynhonnell y llun, Jeremy Bolwell/ Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwmni newydd yn gweithredu o adeilad Pryce Jones yn Y Drenewydd

Bydd FEL yn defnyddio Warws y Royal Welsh, a elwir yn lleol yn Adeilad Pryce Jones.

Mae'r adeilad yn berchen i'r Potter Group o'r Trallwng, sydd hefyd wedi buddsoddi yn yr adeilad er mwyn ei wneud yn haws i FEL ei ddefnyddio.

Bydd FEL hefyd yn darparu cyfarpar diogelu personol ar gyfer y brand dillad Private White VC.

Academi decstiliau

Ychwanegodd Ms Holloway: "Rydym yn falch o gael cymorth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru sydd wedi golygu bod Fashion-Enter yn gallu cyflogi staff ond rydyn ni'n dal i chwilio am 30 o bwythwyr eraill.

"Mae ein llyfr archebion yn llawn ar hyn o bryd, ac nid oes diwedd ar yr archebion."

Dywedodd llefarydd bod y cwmni hefyd yn bwriadu sicrhau mwy o waith lleol drwy sefydlu academi decstilau yn Y Drenewydd dros y misoedd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle'n ddigon mawr i helpu'r cwmni i dyfu a chyflogi 30 yn rhagor o weithwyr maes y law, medd rheolwyr

'Buddsoddiad pwysig yn y canolbarth'

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Mae gan Bowys, ac ardal Y Drenewydd yn arbennig, hanes gweithgynhyrchu cyfoethog, gydag unigolion dawnus a phrofiadol.

"Dwi wrth fy modd bod Fashion-Enter Ltd wedi manteisio ar y cyfle hwn i ddefnyddio eu harbenigedd gwerthfawr ar y buddsoddiad pwysig hwn yn y canolbarth, fydd yn golygu y bydd y traddodiad hwnnw yn parhau am flynyddoedd i ddod.

"Dwi hefyd yn falch y bydd ein cymorth nid yn unig yn golygu bod cyn-staff Laura Ashley yn cael eu hail-gyflogi ar gyfnod o ansicrwydd economaidd o'r fath, ond bydd hefyd yn galluogi nifer o brentisiaid i feithrin sgiliau newydd, ac wrth wneud hynny yn cryfhau gwerth gweithgynhyrchu y rhanbarth ymhellach hyd yn oed."