'Gymrodd flynyddoedd i fi allu delio gyda'r peth'

  • Cyhoeddwyd
Hannah Daniel

Mae'r actores Hannah Daniel wedi ysgrifennu drama gomedi fer, ar y cyd gyda'r awdur Georgia Lee, sy'n ymdrin â galar a theimladau tair chwaer ar ôl colli eu tad.

Comedi dywyll yw Burial, ac er nad oedd Hannah wedi ysgrifennu'r sgript i ddelio yn uniongyrchol gyda'i galar ei hun, o edrych yn ôl ar y gwaith ysgrifennu, mae'n sylweddoli fod y broses wedi bod yn un gathartig.

Bu'n trafod ei cholled a byw gyda galar ar ôl colli ei thad Emyr Daniel, y darlledwr a chynhyrchydd teledu yn sydyn yn 2012, ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru:

"Mae galar yn beth cymhleth a dwi dal heb wneud synnwyr o'r peth i fod yn onest.

"Fe gymrodd flynydde i fi allu ceisio mynegi y profiad a sut o'n i'n teimlo, a cheisio rhoi y profiad mewn i eiriau," meddai Hannah Daniel a ddechreuodd sgrifennu'r ffilm yn 2017, bum mlynedd wedi marwolaeth ei thad.

"O'n i'n obsessed gyda galar ar ôl colli Dad, fel lot o'n ffrindiau sy' wedi colli rhywun agos atyn nhw, maen nhw yn dweud yr un peth.

"O'n i'n darllen am y peth, yn gwrando ar bodlediadau, yn sydyn iawn oedd 'na ddiddordeb mawr gyda fi yn y pwnc.

"Does dim ateb, dim fformiwla hud ar sut i oroesi'r peth, mae mor anodd i'w ddiffinio."

Disgrifiad o’r llun,

Hannah Daniel fel un o'r dair chwaer yn Burial

Mae'r ffilm Burial i'w gweld ar BBC iPlayer, ac nid bwriad Hannah oedd ysgrifennu ffilm am golled i ddelio'n uniongyrchol gyda'i galar ei hun, ond mi wnaeth y broses ei helpu.

"Jyst sgwennu stori o'n i. Ond wrth gwrs roedd wedi cael ei ysbrydoli yn gyfan gwbwl gyda fy mhrofiad i o golli fy nhad, ac felly wrth edrych yn ôl dwi'n gwerthfawrogi y catharsis yn fwy nag o'n i ar y pryd."

Mae'r ffilm yn edrych ar berthynas tair chwaer sy'n dod at ei gilydd yn angladd eu tad, a'r dair yn delio gyda'u galar mewn ffyrdd hollol wahanol.

"Roedd sgwennu am dair efaill yn caniatau i fi fynegi'r holl wrthgyferbyniadau 'ma, y clashes, y swingio o un extreme i'r llall. Roedd y dair chwaer yn elfennau o fy nghymeriad i, a'r brwydro mewnol.

"Mae lletchwith-dod galar yn gomedic bron, ac mae 'na olygfa yn y ffilm yn y diwedd lle mae'r dair chwaer yn ymladd yn gorfforol, ac wrth edrych nôl o'n i'n thrasho fy ngalar i fy hun allan.

'Pawb yn delio â galar mewn ffordd wahanol'

Wrth edrych yn ôl i'r cyfnod anodd pan glywodd Hannah Daniel am farwolaeth sydyn ei thad, mae'n sylweddoli bod pawb yn delio â cholled mewn ffordd wahanol ac yn mynegi eu teimladau yn wahanol hefyd, ond ar y pryd roedd hynny'n anodd iddi dderbyn.

"Yn y blynydde ar ôl colli Dad o'n i'n brwydro gyda sawl ffordd wahanol o ddelio gyda'r golled.

"O'n i'n stryglo braidd ein bod ni [fel teulu] ddim yn siarad am ein galar ni ar bob adeg.

"Ond 13 oed oedd fy chwaer fach i Beca yn colli Dad. Oedd Mam yn gefn mawr i ni ac oedd hi'n benderfynol bydde plentyndod Beca ddim yn cael ei ddiffinio gan golli rhiant. Oedd yn hollol iawn.

"Wrth edrych nôl, o'n i braidd yn aggressive am y peth ac achosodd densiwn. Oedd dim lot o ystyriaeth gyda fi bod pawb yn galaru mewn ffordd gwahanol, ac yn mynegi eu galar yn eu ffordd gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Hannah Daniel
Disgrifiad o’r llun,

Hannah a'i mab bach Moris Emyr

'Mae'n cymryd amser'

Mae colled a galar yn dod â nifer o emosiynau cymhleth i'r wyneb, meddai Hannah, ac yn ei hachos hi roedd 'na euogrwydd o fod heb weld ei thad am gyfnod cyn iddo farw yn sydyn.

"O'n i wedi bod yn yr Unol Daleithau am dair mis, a newydd ddod nôl. D'on ni heb weld ein gilydd. Felly oedd 'na lu o emosiynau cymhleth iawn ar ben y golled, o'n i'n teimlo'n euog, o'n i'n teimlo'n grac ein bod ni ddim 'di cael rhybudd.

"Gymrodd flynyddoedd i fi ddod i bwynt lle o'n i'n gallu delio gyda'r peth.

"Mae colli pobl yn rhywbeth anochel, yn rhan o fywyd ac yn anodd i'w drafod. Fel pobl d'yn ni ddim yn dda iawn mewn sefyllfa anobeithiol. Fel rheol d'yn ni'n chwilio am y positifs i wneud rhywun i deimlo yn well, ond mae colli rhywun yn horibl a does dim positifs wir. Mae e jyst yn cymryd amser."

Disgrifiad o’r llun,

"Oedd Dad yn storïwr da, o'n i'n benderfynol o gael y stori 'ma yn dda, yn deidi."

Wrth drafod y ffilm, mae Hannah Daniel yn dweud bod adrodd am y bobl r'yn ni wedi eu colli yn bwysig, er mwyn cadw'r atgofion yn fyw, ac er nad yw galar byth yn ei gadael, mae'n dysgu ffordd o fyw gyda'r teimladau.

"Mae straeon yn bwysig, ni'n cadw'r meirw yn fyw trwy straeon. Mae 'na le i ddathlu eu pros a'u cons. Oedd Dad yn storïwr da, o'n i'n benderfynol o gael y stori 'ma yn dda, yn deidi. Ond doedd Dad ddim yn ddyn teidi mewn bywyd.

"Dyw galar ddim yn daclus, ddim yn rhywbeth fedri di ddiffinio mewn bocs. Mae e gyda ni am byth, mae'n ein gadael ni wedi ein creithio yn amherffaith, a dyna lle ni'n fwya diddorol dwi'n credu a mae rhywbeth eitha' calonogol yn hynny."

Hefyd o ddiddordeb: