Dim camau pellach wedi sylwadau aelod Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Sahar Al-Faifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sahar Al-Faifi yn ymgeisydd ar restr Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru

Ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn aelod o Blaid Cymru a gafodd ei chyhuddo o anfon neges gwrth-Semitig ar Twitter.

Roedd galwadau i ddiarddel Sahar Al-Faifi ar ôl i neges ganddi ym mis Mehefin gysylltu trais heddlu'r Unol Daleithiau ag Israel.

Mae'n golygu ei bod hi'n rhydd i geisio am sedd yn etholiad y Senedd fis Mai nesaf.

Dywedodd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain fod y penderfyniad wedi anfon neges bod "gwrth-Semitiaeth yn cael ei oddef o fewn Plaid Cymru".

Mewn ymateb, dywed Plaid Cymru fod ganddyn nhw "agwedd dim goddefgarwch tuag at wrth-Semitiaeth".

Gwaharddiad yn 2019

Mewn achos ar wahân, cafodd Ms Al-Faifi ei gwahardd o Blaid Cymru yn Nhachwedd 2019, wedi i negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ddod i'r amlwg, a oedd, yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, yn croesi llinell ac yn wrth-Semitig.

Dywedodd Ms Al-Faifi ar y pryd: "Wnes i ddileu'r tweets dros bum mlynedd yn ôl ac ymddiheuro i fudiadau Iddewig ac eraill.

"Rwyf hefyd wedi cael hyfforddiant gwrth-Semitiaeth, yn ffurfiol trwy'r Bwrdd Dirprwyon ac yn anffurfiol gyda chydweithwyr Iddewig i sicrhau nad ydw i byth yn ailadrodd yr un camgymeriadau."

Fe gafodd ailymuno â Phlaid Cymru ym mis Chwefror wedi i banel o fewn y blaid ddod i'r casgliad "nad oedd angen gosod sancsiynau" yn ei herbyn.

Beth ddigwyddodd y tro yma?

Yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America wrth i'r heddlu ei arestio ar ddechrau Mehefin eleni, fe gyhoeddodd Ms Al-Faifi neges ar Twitter.

Roedd y neges yn dweud: "Os rydych yn pendroni ble wnaeth y plismyn Americanaidd yma hyfforddi, edrychwch ddim pellach nag Israel."

Mewn e-bost at Adam Price ar y pryd, dywedodd y Bwrdd Dirprwyon eu bod yn credu fod Ms Al-Faifi wedi gweld codi'r gwaharddiad "fel arwydd bod carte blanche ganddi i barhau i hybu'r fath ddamcaniaethau cynllwynio".

Mae'r AS Ceidwadol, Andrew RT Davies wedi galw ar Mr Price i "ymyrryd a sicrhau nad yw'r unigolyn yma'n cael ei dewis i sefyll dros y Senedd".

Dywedodd Hefin David o'r Blaid Lafur fod y penderfyniad yn "annerbyniol".

Gwefan Bwrdd Dirprwyon Iddewig PrydainFfynhonnell y llun, Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain wedi galw ar Sahar Al-Faifi i gael ei diarddel o'r blaid

Ond yn dilyn ymchwiliad mewnol, fe ddywedodd Plaid Cymru ddydd Iau na fyddan nhw'n cymryd camau pellach yn ei herbyn.

"Mae Plaid Cymru yn parchu barn Bwrdd y Dirprwyon a bydd yn parhau i gael trafodaethau adeiladol," meddai llefarydd.

"Mae gan y blaid agwedd dim goddefgarwch tuag at wrth-Semitiaeth a phob math o ragfarn a gwahaniaethu."

'Rhwystrau fel Mwslim, ffoadur a menyw'

Yn dilyn y penderfyniad, dywedodd Ms Al-Faifi: "Rwy'n deall pryder y gymuned Iddewig a byddaf bob amser yn parhau i weithio gydag aelodau Iddewig yng Nghaerdydd i wneud cymdeithas fwy diogel ac agored i bawb.

"Mae'n peri gofid bod lleiafrif bach wedi fy nhargedu.

"Fel Mwslim, fel ffoadur a menyw rydw i wedi wynebu rhwystrau nad oes fawr ddim yn gallu eu deall.

"Rydw i a Phlaid Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn agored ac yn gynhwysol fel plaid ac aelodau. Rydyn ni'n gwrthod pob math o wahaniaethu a rhagfarn ac yn ei herio lle bynnag a phryd bynnag y bydd yn codi."

Mae hi'n ceisio enwebiad i restr ranbarthol Canol De Cymru, sy'n cynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg a rhannau o'r cymoedd.