Ffordd i aros ar gau gan beri pryder i drigolion

  • Cyhoeddwyd
rhosgadfan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwaith i atal llifogydd i fod wedi'i gwblhau erbyn Rhagfyr eleni

Mae pobol Rhosgadfan yng Ngwynedd yn flin bod y ffordd drwy Rostryfan yn mynd i fod ar gau am fisoedd yn fwy na'r disgwyl tan yn gynnar y flwyddyn nesa, oherwydd heriau annisgwyl efo cynllun atal llifogydd Rhostryfan.

Fel canlyniad, bydd yn rhaid i bobol Rhosgadfan a'r ardal barhau i gael eu dargyfeirio ar hyd ffyrdd bach cul i allu mynd i Gaernarfon a llefydd eraill.

Y gobaith gwreiddiol oedd y byddai'r ffordd yn ail agor yn Rhagfyr ac yn caniatáu i bobol Rhosgadfan deithio yn syth trwy Rostryfan i gael cyrraedd y ffordd fawr.

Un sydd yn poeni am y sefyllfa ydy Rhian Cadwaladr sy'n byw yn Rhosgadfan.

Does 'na ddim siop yn Rhosgadfan felly mae'n teithio i Gaernarfon i gael hanfodion bob dydd. Rŵan gyda'r ffordd ar gau ers Gorffennaf, mae taith 10 munud fel arfer yn gallu cymryd 35 munud efo'r dargyfeiriadau.

Disgrifiad o’r llun,

"Does dim lle i ddau gar basio'i gilydd," medd Rhian Cadwaladr

Dywedodd Rhian Cadwaladr wrth Cymru Fyw: "Y ffyrdd de ni fod i fynd arnyn nhw rŵan does 'na ddim un ohonyn nhw lle mae'n bosib i ddau gar basio ei gilydd trwy'r amser.

"Mae 'na ddarnau o'r ffordd lle da chi'n gorfod gadael i gar arall basio….dwi wedi gweld pobol yn cael stand offs... pwy sy'n mynd i rifyrsio nôl… dwi wedi clywed am bobol yn mynd i mewn i ffosydd… pobol wedi scratsio car rhywun arall….dim pawb sy'n gyfforddus i ddreifio yn y math yna o lon."

Ac mae Arwyn Roberts, un arall o drigolion Rhosgadfan yn dweud bod pobol leol yn chwerw am y sefyllfa. Mae Mr Roberts yn poeni na fydd y gwasanaethau brys yn gallu cyrraedd yr ardal dros fisoedd y gaeaf oherwydd y ffyrdd culion.

Meddai wrth Cymru Fyw: "Hefo'r tywydd garw - fydd yr eira a'r rhew yma - neu os fasa 'na dân yn y pentref, sut mae'r frigâd dân yn mynd i ddod i fyny pe bydde ne argyfwng yma?

"Fedran nhw ddim dod i fyny'r lon yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwyn Roberts yn poeni na fyddai'r gwasanaethau brys yn medru cyrraedd pe byddai argyfwng yn y pentref

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn dilyn peth oedi oherwydd Covid-19, dechreuwyd y gwaith ar brosiect lliniaru llifogydd sylweddol ar gyfer pentref Rhostryfan ym mis Gorffennaf.

"Bydd y cynllun, a ariennir ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn mynd i'r afael â'r achosion o lifogydd sydd wedi effeithio ar eiddo yn y pentref dros y blynyddoedd diwethaf. Fel rhan o'r gwaith, sy'n cael ei gynnal gan gwmni Alun Griffiths (Contractors) Cyf, bu'n rhaid cau'r ffordd yng nghanol pentref Rhosgadfan dros dro.

"Y bwriad cychwynnol oedd cwblhau'r prosiect yn ystod misoedd yr haf. Fodd bynnag, mae'r contractwyr wedi gorfod ymdopi gyda nifer sylweddol o heriau nad oedd modd eu rhagweld, gan gynnwys gwasanaethau heb eu siartio (pibellau dŵr ac ati) ac amodau gwael ar y ddaear.

"Yn anffodus mae'r materion hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn amserlen y prosiect a bydd angen cwblhau'r gwaith dros fisoedd y gaeaf lle gallai tywydd garw gael effaith negyddol pellach ar yr amserlen.

"O ganlyniad, ni fu unrhyw opsiwn ond ymestyn y cau ffordd dros dro nes bod y gwaith hwn wedi'i gwblhau. Yn anffodus, mae'n debygol y bydd angen i ddargyfeiriadau aros yn eu lle tan o leiaf yn gynnar yn 2021. Mae'r contractwyr wedi ysgrifennu at yr holl eiddo cyfagos i'w diweddaru ar y datblygiadau hyn.

"Byddem am sicrhau trigolion fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ailagor y ffordd cyn gynted â phosib ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra dros dro a achoswyd."