Gêm gyfeillgar: Lloegr 3-0 Cymru
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Dominic Calvert-Lewin gôl gyntaf Lloegr ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad
Cafodd Cymru gweir o 3-0 gan Loegr mewn gêm gyfeillgar rhwng dau dîm ifanc yn Wembley nos Iau.
Fe wnaeth Ryan Giggs a Gareth Southgate ddewis timau amhrofiadol, gyda Rabbi Matondo yn dechrau ei gêm gyntaf yng nghrys coch Cymru a Ben Davies yn gapten ar y tîm rhyngwladol am y tro cyntaf yn ei yrfa.
Cymru fu'n rheoli'r meddiant am y cyfnod agoriadol ond doedd yr un cyfle amlwg nes yr 20fed munud, pan aeth foli o droed chwith Kieffer Moore heibio i'r postyn.
Ond y Saeson aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae, gyda Dominic Calvert-Lewin - oedd yn ennill ei gap cyntaf - yn penio i'r rhwyd o groesiad Jack Grealish.
Funudau'n unig yn ddiweddarach daeth cyfle arall i Gymru ond aeth peniad Chris Mepham o gig gornel yn syth i ddwylo'r golwr Nick Pope.
Roedd ergyd arall i obeithion Cymru cyn hanner amser, pan fu'n rhaid i Moore gael ei eilyddio oherwydd anaf i'w droed, gyda Neco Williams yn dod i'r maes yn ei le.

Fe fydd y tîm hyfforddi yn gobeithio y bydd Kieffer Moore yn holliach i herio Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria
Dyblwyd mantais y tîm cartref ar ddechrau'r ail hanner, gyda Conor Coady yn rhwydo wedi i gic rydd Kieran Trippier - capten Lloegr ar y noson - ei ganfod yn rhydd yn y cwrt cosbi.
10 munud yn ddiweddarach aeth y Saeson ymhellach ar y blaen wrth i Danny Ings sgorio heibio i Wayne Hennessey gydag ergyd dros ei ysgwydd o chwe llath.
Llwyddodd Hennessey i atal Bukayo Saka ac Ings gyda dau arbediad gwych wedi hynny i atal Lloegr rhag ymestyn eu mantais ymhellach, wrth i Chris Gunter ddod ymlaen i ennill cap rhif 97 a nesáu at fod y dyn cyntaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru.

Llwyddodd Danny Ings i sgorio gydag ergyd wych dros ei ysgwydd
Cyn y golled yn Wembley doedd Cymru ddim wedi cael eu trechu yn eu wyth gêm ddiwethaf, ac wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf heb ildio gôl.
Bydd Cymru'n teithio i wynebu Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddydd Sul cyn mynd ymlaen i herio Bwlgaria nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020