Covid-19: 766 o achosion positif newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y bydd plant mewn ardaloedd clo yn cael croesi ffiniau sir er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon

Mae 766 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf positif am Covid-19 yn y 24 awr ddiwethaf.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod dwy farwolaeth wedi'u cofnodi hefyd.

O'r achosion newydd, roedd 143 yng Nghaerdydd, 71 yn Rhondda Cynon Taf, 64 yn Abertawe a 43 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Y nifer o achosion newydd yng Ngwynedd - 29 - oedd y nifer uchaf mewn diwrnod ers dechrau'r pandemig.

Cafodd 12,539 o brofion Covid-19 yng Nghymru eu prosesu yn y 24 awr ddiwethaf.

Mae cyfanswm o 29,028 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach, a 1,646 o'r rheiny wedi marw.

Yn y cyfamser, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd plant sydd mewn ardaloedd clo yn cael croesi ffiniau'r sir er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon.

Mae'r cyfyngiadau lleol yn golygu nad oes hawl gan bobl i fynd i mewn nag allan o sir dan gyfyngiadau llymach heb "esgus rhesymol".

Ond roedd dros 8,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am eithrio chwaraeon plant.

"Ry'n ni'n bwriadu newid y canllawiau i alluogi plant i gymryd rhan mewn chwaraeon os ydy'r rheiny yn digwydd tu allan i ffiniau eu siroedd," meddai Mr Drakeford yng ngynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener.

"Rwy'n gwybod mai newidiadau bychan yw'r rhain mewn darlun cenedlaethol."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd ei fod yn falch gyda'r cyhoeddiad gan ei fod yn "elfen mor bwysig yn nhermau iechyd meddwl".

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth bod Cymru wedi cyrraedd "cyfnod tyngedfennol", gan alw ar y llywodraeth i weithredu yn y modd "mwyaf lleol a phosib" wrth ystyried cyfyngiadau.

"Er mwyn i hynny fod yn dryloyw, mae angen cyhoeddi data ar lefel wardiau."