Ymosodiadau homoffobig am groesawu ymgeiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
Mae'r gwersyll hyfforddi ym Mhenalun ger Dinbych-y-pysgod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwersyll hyfforddi ym Mhenalun ger Dinbych-y-pysgod

Mae cynghorydd sir wnaeth groesawu ymgeiswyr lloches i wersyll yn Sir Benfro wedi cysylltu â'r heddlu ar ôl derbyn negeseuon homoffobig ar-lein.

Dywed y cynghorydd Joshua Beynon fod y sylwadau wedi eu gwneud wrth iddo ddangos cefnogaeth i ymgeiswyr lloches sydd wedi eu cartrefu mewn gwersyll hyfforddi milwrol ym Mhenalun.

Dywedodd y cynghorydd 23 oed fod rhai o'r negeseuon yn "frawychus."

Mae Cyngor Sir Penfro wedi condemnio ymosodiadau ar-lein yn erbyn cynghorwyr, unigolion ac elusennau sydd wedi cefnogi ymgeiswyr lloches yn y gwersyll.

Ffynhonnell y llun, Joshua Beynon
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mr Beynon ei fod wedi cyfeirio'r negeseuon i'r heddlu

Dywedodd Mr Beynon, gafodd ei ethol yn 2017, fod y rhan fwyaf o negeseuon wedi eu hanfon ar ôl iddo gwyno am hiliaeth.

"Mae pobl yn meddwl bod nhw'n gallu dweud pethau ar-lein, na fydda nhw bydd yn ei ddweud yn eich gwyneb," meddai Mr Beynon.

Dywedodd iddo dderbyn negeseuon homoffobia yn y gorffennol wrth ddangos cefnogaeth i ymgyrch Black Lives Matter.

Ond ychwanegodd fod hyn wedi bod yn "llawer gwaeth" wrth iddo gefnogi'r ymgeiswyr lloches ac ers iddo herio hiliaeth.

Mae protestiadau o blaid ac yn erbyn cartrefu'r ymgeiswyr lloches wedi eu cynnal ger y safle ym Mhenalun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi eu cynnal o blaid ac yn erbyn y safle fel cartref i ffoaduriaid

"Mae peth o'r stwff wedi bod yn fygythiol," meddai Mr Beynon gan ddweud fod rhai o'r negeseuon gan bobl sy'n byw cannoedd o filltiroedd i ffwrdd.

"Rwyf wedi gorfod gofyn i swyddog monitro'r cyngor i gymryd fy nghyfeiriad oddi ar safle we'r sir dros dro, er mwyn gwneud y siŵr nad oes dim yn digwydd i bobl sy'n byw gyda fi."

Dywedodd Mr Beynon ei fod wedi cysylltu â'r heddlu ynglŷn â hyd at 40 o sylwadau gan wahanol bobl, a'i fod hefyd wedi cysylltu â'i gyfreithwyr.

"Mae'r gweithredoedd yma yn rhai troseddol, a dwi'n meddwl bod yn rhaid i bobl sylweddoli nad oes modd eistedd tu ôl i gyfrifiadau a dweud be maen nhw eisiau a bod yn rhydd i wneud hynny," meddai.

Dywedodd arweinydd cyngor Sir Penfro David Simpson: "Does gan homoffobia a hiliaeth ddim lle mewn cymdeithas a does dim modd caniatáu'r math yma o ymddygiad."

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn cefnogi Mr Beynon gan ychwanegu fod cynghorwyr yn "bobl gyffredin sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau.

"Tra bod trafodaeth i'w groesawu, ni ddylid gorfod dioddef unrhyw fath o gasineb na bygythiadau am wneud eu dyletswyddau. "