Drakeford: Y sefyllfa yn un fregus iawn
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn "agosau i'r dibyn" o ran y cynnydd yn nifer achosion Covid-19 ledled y wlad a'r pwysau mae hynny'n ei roi ar y gwasaneth iechyd, yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford fod nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion sydd â coronafeirws wedi "cynyddu yn raddol dros yr wythnosau diwethaf."
"Rydym yn dychwelyd i'r math o ofynion oedd yn cael eu rhoi ar y gwasanaeth iechyd yn gynharach yn y flwyddyn," meddai.
Erbyn hyn mae 2 miliwn o bobl mewn 17 rhan o Gymru yn byw dan amodau cyfyngiadau lleol oherwydd cynnydd yn achosion Covid-19.
Ddoe daeth cyfyngiadau i rym yn rhannau o ddinas Bangor yng Ngwynedd.
Mae cyfanswm o 1,667 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 ers dechrau'r pandemig, gyda 29,654 wedi profi yn bositif, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru dydd Sadwrn.
Mae prif swyddog meddygol Lloegr, Jonathan Van-Tam wedi rhybuddio fod y "tymhorau yn ein herbyn" a'u bod yn wynebu cyfnod tymhestlog iawn oherwydd y nifer cynyddol o achosion.
Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales nad oedd o'r farn fod "Cymru yn union yr un sefyllfa a dros y ffin yn Lloegr ...ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o gysur mawr."
Yn ôl Mr Drakeford roedd ymlediad yr haint i weld gan amlaf o fewn y gymuned, yn hytrach nac yn cael eu hymledu gan bobl yn cymysgu o fewn y sector lletygarwch.
"Oni bai ein bod yn gallu gwyrdroi achosion coronafeirws yn y gymuned, byddwn yn gweld ein gwasanaeth iechyd yn dod o dan bwysau sylweddol."
Dydd Llun mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi cyfyngiadau llymach yn Lloegr.
Mae Mr Johnson wedi gwrthod galwad gan Mr Drakeford i rwystro pobl rhag teithio i Gymru o fannau yn Lloegr lle mae nifer uchel o achosion.
Yng Nghymru does gan bobl mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym ddim hawl i adael heb esgus digonol.
Dywedodd Mr Drakeford: "Pe bai ddydd Llun, rydym yn clywed fod yr ardaloedd yn Lloegr lle mae nifer yr achosion yn uchel yn dilyn canllawiau tebyg i Gymru, bydd hynny yn rhyddhad mawr i ni yma.
"Ond dwi'n credu mai dyma fyddai'r peth cywir i wneud ar draws y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020