Cefnogaeth Covid-19 Prifysgol Caerdydd 'yn annigonol'

  • Cyhoeddwyd
Ellie CooperFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n teimlo fel fy mod wedi talu £9,000 am bump ffrind newydd a chydig o ddosbarthiadau Zoom" meddai Ellie Cooper

Mae myfyrwraig sy'n hunan ynysu ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud fod y gefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig yn "rhy 'chydig, rhy hwyr".

Mae Ellie Cooper, 19, yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac yn astudio Cysylltiadau Rhyngwladol.

Dywedodd fod myfyrwyr mewn pedair allan o chwech o fflatiau yn ei llety myfyrwyr yn hunan ynysu o ganlyniad i achosion positif o Covid-19.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn "hynod bryderus" o glywed am brofiadau'r myfyrwyr.

'Pobl yn cymysgu drwy'r amser yma'

Mewn ebyst gan y brifysgol at fyfyrwyr ddydd Sul, ac sydd wedi dod i law BBC Cymru, dywed y brifysgol y bydd uned brofi coronafeirws yn gweithredu yn llety myfyrwyr Talybont yn y brifddinas o ddydd Llun.

Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn gyfrifol am redeg yr uned medd y brifysgol.

Dywedodd y negeseuon hefyd y byddai gwasanaeth sgrinio ar gyfer myfyrwyr sydd yn dangos symptomau yn dechrau o ddydd Mawrth, ac fe fydd myfyrwyr yn cael defnyddio gwasanaeth golchi dillad am ddim a derbyn taleb £20 i'w wario.

Ond dywedodd Ms Cooper, o Taunton, Gwlad yr Haf, ei bod yn teimlo fel ei bod wedi "ei chadw yn y tywyllwch" am ymlediad yr achosion o'r coronafeirws mewn llety myfyrwyr.

Dywedodd nad oedd wedi gallu defnyddio gwasanaeth sgrinio Covid-19 y brifysgol wythnos diwethaf gan nad oedd yn dangos symptomau, ond fod staff y brifysgol a gwasanaeth Profi ac Olrhain GIG wedi dweud wrthi am hunan ynysu.

"Fe ddylai nhw wedi bod gyda'r wybodaeth yma mewn lle yn gynt, mae'n rhy 'chydig yn rhy hwyr. Fel na fydde ni wedi gorfod mynd i banig a chwilio am gefnogaeth mewn llefydd eraill," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai myfyrwyr yn llety Talybont yn gorfod hunan ynysu

"Ddylie fod nhw wedi gwybod y bydde ni'n cael corona, hyd yn oed os nad ydych yn mynd allan llawer. Mae pobl yn cymysgu drwy'r amser yma, dim ond wrth fynd i olchi dillad neu fynd i'r gym."

Dywedodd Ms Cooper fod hunan ynysu wedi bod yn brofiad annisgwyl iddi.

"Yr unig beth yr wyf yn ei wneud ydy eistedd yn fy ystafell. Mae'n teimlo fel fy mod wedi talu £9,000 am bump ffrind newydd a chydig o ddosbarthiadau Zoom.

"Mae ein cegin fechan yn gartref i ddau rewgell sylfaenol a gwresogydd nad oes modd ei ddiffodd. Mae'n teimlo fel eich bod yn marw mewn gofod bychan iawn."

'Cyfnod anodd a heriol'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd a heriol dros ben i'n holl fyfyrwyr - yn enwedig y rhai yn ein llety sy'n profi bywyd oddi cartref, yn aml am y tro cyntaf.

"Er na allwn wneud sylwadau ar achos unigol, rydym yn bryderus iawn o glywed am eu profiad."