'O fewn pythefnos gall Covid fod cynddrwg â'r gwanwyn'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio y gallwn fod mewn sefyllfa debyg i'r hyn yr oeddwn yn y gwanwyn o fewn pythefnos wrth i'r coronafeirws ymledu.
Mae dros 100 achos o'r haint ymhob 100,000 o bobl yng Nghymru bellach, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd Vaughan Gething bod y mesurau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn cael effaith, ond bod "pryderon na fydd rhain yn ddigonol yn ystod misoedd y gaeaf ac mae'n bosib y gwelwn sefyllfa debyg i'r hyn a oedd yn bodoli yn y gwanwyn ymhen pythefnos".
Yn gynharach dywedodd ein bod ar drothwy "ychydig ddyddiau difrifol iawn" a'i bod yn bosib bod angen newid y cyfyngiadau, all "gynnwys sgwrs rhwng mesurau lleol ac a ddylen ni symud at fesurau cenedlaethol".
Nododd bod y rhif R - y gyfradd drosglwyddo - bellach yn 1.37 a bod canlyniadau diweddaraf Y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos bod un person ymhob 500 â'r haint yng Nghymru.
Ychwanegodd bod 100 yn fwy o bobl yn cael triniaeth ysbyty ar gyfer yr haint yr wythnos hon na'r wythnos diwethaf.
'Gallwn ddisgwyl gaeaf caled'
Yn siarad ddydd Llun, dywedodd Mr Gething: "Mae'r mesurau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn atal yr haint rhag lledu, ond mae yna bryderon na fydd rhain yn ddigonol yn ystod misoedd y gaeaf ac mae'n bosib y gwelwn sefyllfa debyg i'r hyn a oedd yn bodoli yn y gwanwyn ymhen pythefnos.
"Mae yna gynnydd graddol yn y bobl sy'n ddifrifol wael ac sydd angen gofal dwys yn yr ysbyty.
"Unwaith eto mae'r GIG yn cynllunio ar gyfer cynyddu gofal critigol ac yn addasu theatrau a wardiau gwella yn fannau darparu gofal dwys."
"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn hynod o anodd," meddai, "ond rhaid i ni baratoi ar gyfer gaeaf caled.
"Mae'n feirws hynod heintus. I nifer bydd y symptomau yn ysgafn ond ry'n ni'n gwybod y bydd nifer angen triniaeth ysbyty ac yn drist iawn bydd rhai pobl yn marw."
Mae 17 o ardaloedd drwy Gymru o dan gyfyngiadau lleol - cafodd y cyfyngiadau lleol diweddaraf eu cyflwyno ym Mangor ddydd Sadwrn.
"Ry'n ni wedi gweld yr achosion yn symud o'r dwyrain i'r gorllewin," meddai Mr Gething, "a'r ardal ddiweddaraf i gael ei heffeithio yw Bangor.
"Mae yna glwstwr o achosion newydd yn y ddinas sy'n gysylltiedig â myfyrwyr."
Wrth gyfeirio at weddill Gwynedd ac awdurdodau eraill gerllaw dywedodd y bydd yn cyfarfod ag arweinwyr lleol yn fuan i drafod y sefyllfa.
GWYDDONIAETH: Y gwyddoniaeth tu ôl i COVID-19
ADRODDIAD ARBENNIG: Stori un pentref yn ystod y cyfnod clo
'Mesurau ychwanegol yng Nghymru'
Wrth gyfeirio at gamau i geisio atal ymlediad coronafeirws, dywedodd y Gweinidog Iechyd bod Llywodraeth Cymru yn "ystyried pob mesur" ar lefel leol a chenedlaethol.
Wrth siarad â newyddiadurwyr, dywedodd Mr Gething ei fod yn "gwylio gyda diddordeb" yr hyn y bydd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach.
Ond ychwanegodd ei fod yn ansicr sut y byddai'r system yn Lloegr yn gweithio, ac nad oedd y Prif Weinidog wedi rhoi "eglurder" ar y mater mewn cyfarfod COBRA fore dydd Llun.
Dywedodd hefyd efallai na fyddai'r system yn Lloegr yn mynd yn ddigon pell i ostwng cyfradd y feirws ac y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl am "fesurau ychwanegol".
"Rydym yn siarad yn gyson gyda'n ymgynghorwyr gwyddonol ac adran y prif swyddog meddygol.
"Yng Nghymru rwy'n credu y bydd hon yn wythnos arbennig o bwysig... bydd angen i ni wneud penderfyniadau trwy weddill yr wythnos hon," ychwanegodd.
Rhai myfyrwyr Bangor wedi mynd adre
Yn y cyfamser mae llywydd UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, wedi dweud wrth BBC Cymru fod yr undeb yn ymwybodol bod rhai myfyrwyr wedi dewis gadael eu llety yn y Brifysgol cyn i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno yn y ddinas nos Sadwrn.
Dywed y llywydd Iwan Evans bod neges UMCB a'r Brifysgol yn glir sef y dylai myfyrwyr aros ym Mangor er mwyn sicrhau diogelwch pawb.
Dywedodd hefyd bod yr undeb wedi cefnogi dysgu wyneb yn wyneb er gwaethaf y cyfyngiadau gan fod mesurau digonol mewn grym i sicrhau diogelwch myfyrwyr a staff a bod cadw mewn cysylltiad yn rhan bwysig o sicrhau lles ac iechyd meddwl myfyrwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020