Drakeford: 'Mae'n bosib gweithredu'r gwaharddiad teithio'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn holi modurwyr ar y ffordd i Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu yn holi modurwyr ar y ffordd i Ynys Môn yn gynharach eleni

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi mynnu ei bod yn gwbl bosib gweithredu'r gwaharddiad ar deithio i Gymru o ardaloedd lle mae'r risg Covid-19 yn uchel yng ngweddill y DU.

Dywedodd Mr Drakeford fod Cymru "wedi gwneud yn union hyn am wythnosau lawer yn gynharach eleni".

Wrth siarad ar orsaf Times Radio, dywedodd: "Yn gynharach yn y flwyddyn roedd gennym reol yng Nghymru fod rhaid aros yn lleol.

"Roedd hynny'n golygu nad oeddech chi'n medru teithio mwy na phum milltir o'ch cartref.

"Wrth gwrs fe gawson ni bobl yn croesi'r ffin i Gymru heb sylweddol fod y rheol yn bodoli yma, ac roedd ein heddluoedd yn lwyddiannus wrth berswadio'r bobl yna eu bod wedi croesi'r ffin a bod y rheolau yn wahanol yma.

"Doedden nhw ddim yn cael parhau gyda'u taith. Roedd modd perswadio'r bobl yna... fe wnaethon nhw droi rownd ac fe aethon nhw adre.

"Roedd nifer fach oedd ddim yn fodlon gwneud hynny ac roedd rhaid eu cosbi.

"Ond fe gafodd y rheol ei gweithredu'n llwyddiannus bryd hynny, ac fe all gael ei gweithredu'n llwyddiannus nawr."

Bannau Brycheiniog, ger Storey Arms, Ebrill 4ydd 2020
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ar Fannau Brycheiniog, ger Storey Arms, ar 4 Ebrill eleni

Roedd gan Mr Drakeford hefyd rybudd i unrhyw un "sy'n llwyddo i osgoi plismyn sy'n ceisio atal pobl rhag teithio ymlaen".

"Pan fyddan nhw'n cyrraedd y gorllewin pell yng Nghymru, mae gen i ofn y byddan nhw'n cwrdd gyda phoblogaeth leol sy'n ofnus, sy'n bryderus ac sy'n chwilio am bobl na ddylai fod yn yr ardal honno," meddai.

"Felly dyw eich problemau ddim drosodd os fyddwch chi'n osgoi'r heddlu... fe fydd gwiriadau eraill yn y system."

Yn y cyfamser, mae Heddlu'r Gogledd wedi trydar eu bod nhw'n barod i weithredu'r mesurau newydd.

Dywedodd y llu: "O ganlyniad i gyhoeddiad y prynhawn yma, byddwn yn cynyddu ein presenoldeb ar y rhwydwaith ffyrdd strategol ac yn ymgymryd â thargedu.

"Gwnawn barhau i sgwrsio, egluro, annog a gorfodi lle mae angen. Mae hyn ynghylch pobl yn gwneud yr hyn a allent i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.

"Gwnawn barhau i wneud yr hyn a allwn er mwyn gwarchod ein cymunedau."