Modd drafftio deddfau Cymreig 'o fewn oriau' ers y pandemig
- Cyhoeddwyd
Gall deddfau Cymreig gael eu drafftio "o fewn oriau" o ganlyniad i'r pandemig, medd Prif Gwnsler Deddfwriaethol cyntaf Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Dylan Hughes bod deddfwriaeth sy'n cael ei chreu gan weinidogion Cymru nawr yn effeithio ar bobl "mewn ffordd na wnaeth erioed o'r blaen".
Mae Mr Hughes yn arwain Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol - tîm o gyfreithwyr arbenigol sy'n gyfrifol am ddrafftio cyfreithiau Cymru.
Hyd yn hyn, mae 115 o ddarnau o ddeddfwriaeth isradd wedi eu creu gan Lywodraeth Cymru dros y chwe mis diwethaf sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau oherwydd Covid-19.
Wrth gyfeirio at y cyhoeddiad am gyfyngiadau ychwanegol ym Mangor lai nag wythnos yn ôl, eglurodd Mr Hughes bod rhaid drafftio'r ddeddfwriaeth yn hwyr ar y nos Wener.
Cyfnod 'prysur iawn, iawn'
Mae trosglwyddo penderfyniadau gan weinidogion i fod yn gyfreithiau fel arfer yn broses "all gymryd sawl wythnos neu hyd yn oed fisoedd", meddai.
"Ond y dyddiau yma, gall gymryd ychydig oriau yn unig. Hyd yn oed mewn sefyllfa eitha' cyffredin ar hyn o bryd mae'n cymryd tua thri diwrnod rhwng gwneud penderfyniad a drafftio a chyhoeddi'r ddeddfwriaeth."
Ychwanegodd: "Mae cyfraith Cymru yn effeithio ar bobl Cymru mewn ffordd nad yw wedi gwneud erioed o'r blaen. Mae'r ffaith fod arferion dyddiol pobl yn cael eu rheoli yn anarferol iawn, ac mae'n rhaid i gyfraith Cymru nawr fod yn rhan bwysig o fywydau pobl.
"Mae hi wedi bod yn brysur iawn, iawn, ond fyddwn i fyth yn cymharu'r hyn ydyn ni'n gwneud gyda meddygon a nyrsys sy'n gweithio i'r GIG.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r rhai ohonom sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru.
"Ar adegau mae'r oriau wedi bod yn hir saith diwrnod yr wythnos ac mae pethau'n symud yn gyflym, sy'n golygu bod lot o bwysau ar bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020