Pêl-droed: Cyhoeddi carfan merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carfan merchedFfynhonnell y llun, Kunjan Malde

Mae rheolwr tîm merched Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu Ynysoedd y Ffaro a Norwy.

Fe fydd gan Gymru ddigonedd o brofiad ar y cae ar gyfer y gemau allweddol hyn, yn cynnwys y capten Sophie Ingle, gyrhaeddodd gant o gapiau i Gymru fis diwethaf, ynghyd a Jess Fishlock a Natasha Harding.

Bydd Ynysoedd y Ffaro yn ymweld a Rodney Parade ar ddydd Iau 22 Hydref, cyn i Gymru wynebu Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 27 Tachwedd.

Mae Ludlow wedi cynnwys dwy chwaraewraig nad oedd yn rhan o'r garfan a gollodd 1-0 yn erbyn Norwy fis diwethaf.

Mae'r gôl-geidwad Olivia Clark nôl yn y garfan ac fe fydd Josie Longhurst yn rhan o'r tîm am y tro gyntaf.

Ni fydd Megan Wynne ar gael ar ôl derbyn anaf fis diwethaf, ac ni fydd yr amddiffynnwr Loren Dykes ar gael oherwydd rhesymau personol.

Mae Cymru'n ail yng Ngrŵp C ar hyn o bryd, gyda Norwy ar y brig.

Y garfan yn llawn

Laura O'SULLIVAN (Caerdydd), Olivia CLARK (Coventry United), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Jess FISHLOCK (Reading - ar fenthyg o OL Reign), Sophie INGLE (Chelsea), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Anna FILBEY (Tottenham Hotspur), Angharad JAMES (Reading), Nadia LAWRENCE (Caerdydd), Rachel ROWE (Reading), Natasha HARDING (Reading), Elise HUGHES (Blackburn Rovers - ar fenthyg o Everton), Helen WARD (Watford), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Josie LONGHURST (Brighton & Hove Albion), Charlie ESTCOURT (London Bees), Lily WOODHAM (Reading), Maria FRANCIS-JONES (Caerdydd), Kylie NOLAN (Caerdydd), Carrie JONES (Manchester United), Cerys JONES (Brighton & Hove Albion), Georgia WALTERS (Blackburn Rovers), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Bethan MCGOWAN (heb glwb).