Cyfyngiadau teithio o fannau risg uchel yn dod i rym
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd â lefelau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru yn dod i rym nos Wener.
Pwrpas y cyfyngiadau ydy i helpu atal Covid-19 rhag symud o ardaloedd o'r fath i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y gallai gwaharddiad arfaethedig "achosi rhaniadau a dryswch" ymhlith cymunedau.
Yn y cyfamser mae'r BBC yn deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfnod clo byr a llym mewn ymgais i dorri ar gylchrediad coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Gwener y bydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith yn aros am o leiaf wythnos arall.
Teithio - beth ydy'r cyfyngiadau newydd?
Mae teithio i mewn ac allan o 17 ardal yng Nghymru eisoes wedi'i gyfyngu i deithiau angenrheidiol.
Gall pobl ond teithio i lefydd fel Caerdydd neu Abertawe os oes ganddyn nhw esgus rhesymol fel gwaith neu addysg.
Ond mae'n bosibl i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau yn Lloegr deithio i rannau o Gymru sydd ddim o dan glo, fel Powys, Ceredigion ac Ynys Môn.
Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yn cyfyngu teithio i'r lleoedd hynny.
Byddan nhw hefyd yn rhwystro unrhyw un o ardal yng Nghymru lle mae nifer yr achosion yn isel rhag teithio i ardaloedd lle mae Covid yn uchel ac yna dychwelyd i Gymru.
Bydd eithriadau i'r rheol honno - tebyg i'r rhai sydd mewn bodolaeth mewn ardaloedd yng Nghymru sydd eisoes yn wynebu cyfyngiadau.
Defnyddio technoleg
Ddydd Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y bydd heddluoedd Cymru yn darparu rhagor o swyddogion ar y ffyrdd pan fydd y gwaharddiad ar deithio yn dod i rym.
Ychwanegodd mai dirwyon fyddai'r "opsiwn olaf, nid yr opsiwn cyntaf" a'i bod yn bosib y bydd meddalwedd sy'n darllen plât rhifau ceir yn cael ei ddefnyddio i adnabod pobl sy'n teithio o ardaloedd ble mae cyfraddau uchel o achosion.
'Rhaniad a dryswch'
Ond mewn llythyr at y Mr Drakeford ddydd Iau, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS ei fod yn pryderu ynglŷn â'r sylwadau am drigolion "yn cadw golwg" ar unrhyw ymwelwyr.
"Rwy'n dal i boeni bod y dull hwn, heb eglurhad llawn, yn debygol o achosi rhaniad a dryswch yng Nghymru," meddai.
"Mae'r ddau ohonom yn gwybod bod Covid-19 wedi effeithio ar gymunedau yng Nghymru yn yr un ffordd â rhai yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Mae eich sylw diweddar am drigolion yng ngorllewin Cymru 'yn cadw golwg ar unrhyw ymwelwyr na ddylai fod yn yr ardaloedd hynny' yn enghraifft o'r union sefyllfa y dylem fod yn ceisio ei hosgoi."
Gofynnodd Mr Hart hefyd iddo ymrwymo i roi digon o amser i fusnesau baratoi os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen gyda'r cyfnod clo newydd.
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, bod yna ganllawiau eisoes ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny yn Lloegr sydd yn y categori Haen 3 ac sy'n cynghori pobl i beidio â theithio y tu allan i'w hardal.
"Mae'r ffordd y mae'r Prif Weinidog [yng Nghymru, Mark Drakeford] yn mynd ati i wneud hwn yn ddadl Cymru-Lloegr, yn fath o her ar hyd y ffin, mewn gwirionedd yn achosi rhwygiadau," meddai.
"Rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod rhai cymunedau yng Nghymru sydd yn fannau trafferthus, y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis yn iawn i beidio â rhannu'r wybodaeth amdanyn nhw oherwydd yr heriau cymunedol.
"Yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r dôn y mae'r Prif Weinidog yn ei chymryd. Dyna'r dôn fel arfer y bydden chi'n ei gysylltu gydag eithafiaeth, oherwydd maen nhw'n ceisio gwahaniaethu'n fwriadol.
"Ac mae'n well gen i o lawer inni fod yn gweithredu mewn ffordd lawer mwy cydweithredol, sy'n parchu'r rheolau yng Nghymru ac yn Lloegr."
Bydd Mr Drakeford yn cynnal cynhadledd i'r wasg am 12:15 ddydd Gwener i amlinellu camau diweddaraf y llywodraeth i geisio rheoli'r haint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020