Covid-19: 10 marwolaeth a 727 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 727 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cofnodi deg marwolaeth newydd o fewn cyfnod yma.

O'r achosion newydd, roedd 190 yng Nghaerdydd, 84 yn Abertawe, 62 yn Rhondda Cynon Taf, 43 yn Nghastell-nedd Port Talbot, 34 yn Wrecsam a 30 yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd 35 o achosion ymysg Cymry sydd yn byw tu hwnt i ffiniau'r wlad, gyda'r mwyafrif yn fyfyrwyr mewn ardaloedd eraill o'r DU.

Bellach Caerdydd sydd gyda'r gyfradd uchaf o achosion dros gyfnod o saith diwrnod ym mhob 100,000 o'r boblogaeth, sef 223.5.

Yna mae Merthyr Tudful gyda 198.9 ymhob 100,000, mae Wrecsam ar 192.7, Rhondda Cynon Taf ar 178.2 a Phen-y-bont ar Ogwr gyda 161.2.

Y gyfradd yn Sir y Fflint a Chonwy oedd 149.3 o bob 100,000 o'r boblogaeth.

Cafodd 8,808 o brofion eu cynnal dros y diwrnod aeth heibio.

Bellach, mae cyfanswm o 33,041 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru, ac mae 1,698 wedi marw.