Dylan Morris: Canwr grŵp Côr-ona yn gwireddu breuddwyd

  • Cyhoeddwyd
Dylan MorrisFfynhonnell y llun, Iolo Penri

"Mewn chwe mis dw i wedi mynd o ddim byd i fagu hyder i sbïo ar gamera ac wrth gwrs recordio CD, cael perfformio ar Noson Lawen… mae 'di agor gymaint o ddrysau ond dw i wedi gorfod dysgu lot mewn 'chydig bach o amser hefyd."

Mae'r cyfnod clo wedi bod yn newid byd i bob un ohonom - ond yn arbennig efallai i Dylan Morris o Bwllheli. Mae'r tad i dri o blant wedi troi at ganu ac wedi cael cryn lwyddiant yn gwneud hynny - drwy bostio fideos o'i hun yn perfformio yn ei gartref ar grŵp Facebook Côr-ona.

Ers dechrau'r cyfnod clo mae ei berfformiadau wedi denu dros 40,000 o wylwyr, gan arwain at Dylan yn rhyddhau ei CD cyntaf, Haul ar Fryn, ddydd Llun, 19 Hydref: "Mae 'di bod yn brofiad gwych - mae'n fyd hollol newydd i fi i gael bod mewn stiwdio recordio.

"'Dydy o ddim yn fyd dw i wedi arfer efo fo - dydw i ddim wedi canu mewn eisteddfodau, dydw i ddim wedi perfformio ar lwyfan. Mae o gyd yn hollol newydd i fi."

Mae Dylan yn diolch i'r gymuned Côr-ona, a sefydlwyd ar gychwyn y cyfnod clo er mwyn i aelodau côr a chantorion eraill i barhau i ganu a rhannu perfformiadau, am eu cefnogaeth: "'Da ni fel rhyw deulu bach ar Côr-ona, mae rhyw 46,000 yn dilyn y dudalen.

"Mae gymaint o bobl wedi cysylltu efo negeseuon ac wedi adio fi fel ffrind ar Facebook. Mi oedd 'na griw yn postio gyda'n gilydd a dw i wedi dod i adnabod rhai o rheiny. Mae 'di bod yn anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

"Dw i wedi cael negeseuon gan bobl yn diolch a'n dweud faint mae gwylio'r fideos wedi helpu nhw"

Cychwyn canu

Cyn y cyfnod clo roedd Dylan wedi perfformio mewn ambell i noson carioci neu meic agored lleol ond dim mwy na hynny. Dechreuodd ganu ar y grŵp Côr-ona er mwyn codi ei galon mewn cyfnod anodd: "'Oedd o'n ffordd o gael fy hun trwy'r locdown - 'oedd rhywun wedi rhannu'r dudalen gyda fi a gofyn i fi bostio.

"Doedd ffilmio fy hun a canu fel 'na ddim yn rhywbeth o'n i wedi gwneud o'r blaen. Doedd o ddim yn rhywbeth o'n i'n gyfforddus efo fo yn y dechrau.

"O'n i ddim yn gwybod be' fuasai pobl yn ddweud."

Dim cynulleidfa agos

Ar y cychwyn roedd Dylan yn nerfus am berfformio ac roedd y ffaith nad oedd cynulleidfa o'i flaen yn help iddo: "O'n i'n gallu chwarae gyda'r fideos tan bod fi'n meddwl bod fi'n swnio'n iawn.

"Bod 'na neb yn sefyll o'm mlaen i a bod yn fi fy hun.

"'Oedd y fideos cynta' nes i bostio yn ddu a gwyn am mod i ddim yn licio gweld fideo o fy hun, 'oedd o mor newydd ac o'n i'n nerfus. Roedd [fideo du a gwyn] fel rhyw fasg i allu cuddio dipyn bach.

"Oedd sbio ar y camera i ganu yn beth mawr i ddechrau. Y fideos cynta' o'n i'n troi i ffwrdd ond fel dw i'n magu hyder mae 'di datblygu fi fel perfformiwr."

Gwireddu breuddwyd

Mae'r llwyddiant sy' wedi deillio o'r fideos wedi bod yn syndod i Dylan, sy'n gweithio i gwmni o gyfrifwyr ym Mwllheli: "Doedd gen i ddim disgwyliadau o dim byd.

"Mae wedi bod yn syrpreis fod pobl wedi mwynhau gymaint.

"Dw i wedi bod mewn gigs fel Bryn Fôn ac wedi meddwl fuasa fo'n wych i neud rhywbeth fel 'na ond ddim wedi meddwl fod gen i'r talent i wneud.

"Mae hyn wedi agor fy llygaid i feddwl falle fod hyn yn gallu digwydd. Mae 'di bod yn freuddwyd ond d'on i ddim yn meddwl fydda fo erioed wedi digwydd."

Codi calon

Nid yn unig Dylan sy' wedi elwa o'i berfformiadau: "Dw i wedi cael negeseuon gan bobl yn diolch a'n dweud faint mae gwylio'r fideos wedi helpu nhw i gael drwy'r cyfnod clo. Mae hynny wedi bod yn sbeshal.

"Mae rhywun yn anghofio pan dw i'n eistedd fan yma mewn stafell ar ben fy hun yn canu, dw i ddim yn meddwl am yr effaith mae'n cael ar bobl a beth mae pobl yn mynd trwy.

"Mae pobl wedi colli ffrindiau a teulu oherwydd y feirws - ac mae 'na un gân wedi meddwl cymaint iddyn nhw.

"Ni'n gwybod faint mae'n feddwl i bobl a faint mae'n helpu pobl."

Ffynhonnell y llun, Dylan Morris

Be' mae'r plant yn feddwl?

Mae gan Dylan dri o blant - Cari, Aron a Tomos, sy' wedi mwynhau gweld llwyddiant eu tad: "Mae'n 'chydig bach o sioc achos mae gymaint 'di digwydd mewn chwe mis. Mae petha bach fel rhywun yn dod fyny i siarad sy' 'di gweld y fideos a dweud faint maen nhw 'di mwynhau.

"Mae'r plant yn ffeindio hynny'n reit ffyni a'n dweud - 'Dad, mae gen ti fans ym mhob man!'"

Ffynhonnell y llun, Dylan Morris
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Cari, sy' wedi mwynhau canu gyda'i thad ar grŵp Côr-ona

Haul ar fryn

Gobaith Dylan yw perfformio mwy pan fydd cyfyngiadau'r pandemig yn dod i ben: "Mae'n rhyfedd -'oedd rhywun yn deud 'mae'n bechod am y feirws 'ma bod chi ddim yn gallu neud dim' ond o'n i'n dweud - 'heblaw am y feirws fuaswn i ddim yn gneud hyn'.

"Heblaw am y cyfnod clo fydden i erioed wedi postio dim byd arlein a fuase neb wedi clywed amdana'i.

"Mewn rhyw ffordd rhyfedd mae rhywbeth i ddiolch amdani mewn adeg sy' mor dywyll."

Hefyd o ddiddordeb