Ateb y Galw: Y cerddor Robat Arwyn
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Robat Arwyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Dylan Cernyw yr wythnos diwethaf.
Arwyn yw cyfansoddwr nifer o'n caneuon mwyaf cyfarwydd, fel Brenin y Sêr, Benedictus ac Anfonaf Angel. Cyfansoddodd y gerddoriaeth i Hwn yw Fy Mrawd - cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio Mam yn darllen stori, ac yn y llyfr roedd yna ferch fach o'r enw Sioned. Felly pan aned fy chwaer, a finna'n dair ers 'chydig o fisoedd, ro'n i'n daer fod hithau, hefyd, yn cael yr un enw. A dyna fu!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Diana Rigg - hi oedd Emma Peel yn rhaglen deledu The Avengers yn ystod y 60au. Roedd ganddi wallt hir tywyll, dillad siapus, ac o ni'n meddwl bod hi'n ddel ac yn smart, yn brydferth ac yn beryg.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Baglu ar lwyfan Theatr Clwyd wrth gamu drwy'r llenni i ganu hefo Trisgell yn y 90au. Roedd y llifoleuadau ymlaen arnon ni'n tri, ond y gynulleidfa a phob man arall mewn tywyllwch. Ges i fy nallu, a wnes i ddim gweld y step.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Nes i grïo a chwerthin 'mond 'chydig wythnosau'n ôl wrth ddarllen Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds, nofel sy'n delio â galar a chlirio tŷ rôl colli rhiant. Ro'n i'n gallu uniaethu hefo popeth yn y llyfr.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yfed gormod o goffi du, a defnyddio gormod o chillis wrth wneud swper.
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
10 mlynedd union yn ôl, fi oedd llun mis Hydref mewn calendr noethlymun.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar wahan i'r ardd, lle dwi'n hoff iawn o eistedd i ddarllen (ond nid i arddio na thorri'r glaswellt), dwi'n meddwl mai fy hoff le erbyn hyn ydi Neuadd Pwllglas. Dwi 'di bod yn edrych 'mlaen at fynd yno bob nos Iau ers blynyddoedd i ymarfer hefo Côr Rhuthun, ond gan 'mod i heb fod yno, nac wedi gweld y côr, ers canol Mawrth, ma'r neuadd bellach wedi mynd i frig y rhestr o fy hoff lefydd yng Nghymru.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm a pham?
Anodd dewis un llyfr, ond dwi'n meddwl y baswn i'n mynd am Wele'n Gwawrio gan Angharad Tomos, ac efallai Ynys Fadog gan Jerry Hunter, a hynny am 'mod i'n cofio cael cymaint o wefr wrth ddarllen y stori a blasu dychymyg yr awdur.
Ond o ran ffilm mi faswn i'n dewis Cinema Paradiso, yn benna am mai Ennio Morricone sgwennodd y gerddoriaeth!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Goodbye Yellow Brick Road gan Elton John. Alaw anhygoel, geiria diddorol a chordiau braf. Cofio prynu'r albwm ddwbl yn 1973 ac mae'n dal gen i.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Bodlon, hapus, lwcus.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Hefo Robert G Roberts, fy nhaid ar ochor fy mam. Farwodd o pan o'n i'n dair, ond dwi'n teimlo ei fod o wedi bod hefo fi ar hyd fy siwrna' ers hynny. Mi fasa'n braf ei holi fo am ei blentyndod, be' oedd y dylanwadau arno fo, a sut y cafodd o'r amser a'r egni i farddoni, i ddysgu Groeg, i sgwennu tonau, ac i ddarllen ac ysgrifennu llaw-fer yn Gymraeg, a hynny rôl diwrnod o waith yn y chwarel. Yn ôl be' ddwedodd Mam, roedd o'n llwyr ymwrthodwr, felly paned fasa ni'n gael, nid peint.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae sawl cyngerdd, eisteddfod a pharti gyda Chôr Rhuthun yn dod i'r cof, ond efallai mai'r noson ar ôl perfformiad cyntaf o Atgof O'r Sêr (gyda Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 sydd yn sefyll allan. Roedd ymateb y gynulleidfa yn anhygoel, ac mi gawson ni chwip o barti i ddilyn!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Yn y p'nawn mi faswn i'n cael sesiwn o ganu hefo Côr Rhuthun, côr sydd wedi bod yn deulu a ffrindia' i mi am bron i 40 o flynyddoedd. Ac yn yr hwyr mi faswn i'n paratoi gwledd i'r teulu a'r côr, er mwyn treulio'r noson yn bwyta, yfed gwin, hel atgofion, chwerthin a dweud diolch wrth bawb.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Yn lle cwrs cynta' a'r ail, faswn i'n mynd am Tapas, hefo dewis o gig, pysgod a llysiau wedi eu gweini â digonedd o chillis, sinsir, coriander a leim. Ac yn lle pwdin, caws glas a glasied o port.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Mi fasa'n dda bod yn 'sgidia Johann Sebastian Bach am ddiwrnod. Dwi 'di gwrando ar ei gyfansoddiadau fo ers blynyddoedd, a dwi'n rhyfeddu mwy a mwy bob dydd ar ei allu cerddorol a'i ddychymyg di-bendraw. Rhaid fod o'n gwneud yn fawr o bob munud a phob awr yn y dydd, a fynta 'di llwyddo i gyfansoddi 'mhell dros fil o ddarna' o gerddoriaeth, ac ar ben hynny wedi bod yn cynnal y teulu fel cyfarwyddwr cerdd, organydd ac athro. Dipyn o foi!
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Ifor ap Glyn