Hysbyseb am feddyg i Fotwnnog yn creu nyth cacwn
- Cyhoeddwyd
Mae geiriad hysbyseb sydd wedi ymddangos yng nghylchgrawn y BMJ i geisio denu meddyg teulu i Ben Llŷn wedi codi nyth cacwn.
Mae'r hysbyseb wedi ei hanelu at feddygon mewn ardaloedd dinesig, boed yng Nghymru neu Loegr, ac mae'n cynnwys y geiriau "speaking Welsh is not essential, as we also speak English" ond yn ôl un o bartneriaid Meddygfa Rhydbach ym Motwnnog, doedd dim bwriad i ddifrïo'r Gymraeg.
Ychwanegodd Dr Gwyn Morris nad oes yr un Cymro Cymraeg wedi ceisio am swydd yn y feddygfa yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf a bod angen meddyg ar frys.
Tri meddyg sydd yna ym meddygfa Rhydbach, ond ychydig flynyddoedd yn ôl roedd yna bum meddyg yn y practis. Ddechrau'r flwyddyn, fe fydd un o'r meddygon yn ymddeol, ac felly dim ond dau feddyg fydd ar ôl.
Pan hysbyswyd ddiwethaf am feddyg wnaeth neb ymgeisio. Y tro hwn y bwriad oedd taflu'r rhwyd yn ehangach gan obeithio denu meddyg o ardal drefol, ond mae geiriad yr hysbyseb wedi cythruddo pobl.
Dywedodd y cynghorydd lleol Gareth Williams ei fod yn hynod siomedig: "Be oedd yn fy nharo i gyntaf oedd bod yr hysbyseb yn uniaith Saesneg i feddygfa Rhydbach yma ym Motwnnog.
"Mae hynny yn hollol, hollol groes i bolisi y Bwrdd Iechyd wrth gwrs, a mae o yn rhoi yr argraff nad ydi'r iaith Gymraeg yn bwysig yma ym Mhen Llŷn, a fedar hynny ddim bod, mae'r iaith Gymraeg mor bwysig a pha obaith sydd gynnon ni i'w hachub hi os ydi petha felma yn mynd ymlaen?"
'Peidiwch ffonio'r feddygfa'
Dywedodd hefyd ei fod yn pryderu y bydd pobl yn ffonio'r feddygfa i gwyno ac apeliodd ar i bobl adael llonydd i staff y feddygfa sydd o dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd yn gofalu am gleifion.
Mae'r Aelod Seneddol lleol Liz Saville Roberts hefyd wedi ei chythruddo gan eiriad yr hysbyseb ac mae hi wedi cysylltu â'r feddygfa i fynegi ei hanfodlonrwydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd: "Mae darparu gwasanaeth ym maes iechyd neu ofal yn y Gymru sydd ohoni, heb sôn am Wynedd, heb sôn am Ben Llŷn, yn rhywle lle rydan ni'n ystyried fod cleifion yn medru mynegi eu hunain yn well yn eu hiaith gynta nhw.
"A dwi yn deall bod yna broblemau wrth ddod o hyd i feddygon teulu ym Motwnnog ond mae hyn yn wir yn bob man.
"A mi fyddwn i yn erfyn arnyn nhw, a dwi yn barod i gydweithio hefo nhw, sut i gyfleu gwasanaeth o'r fath i'r gymuned mewn ffordd lle mae pawb yn cydweithio hefo'i gilydd a derbyn bod gwasanaeth dwyieithog yn well."
'Affliw o neb yn ceisio am swydd'
Dywed Dr Gwyn Morris, sy'n un o bartneriaid y feddygfa ei fod gresynu fod geiriad yr hysbyseb wedi achosi loes i bobl ond mae o'n pwysleisio fod yna wir angen dod o hyd i feddyg arall ar fyrder gan y bydd hi'n argyfwng ddechrau'r flwyddyn os na allan nhw benodi rhywun.
"Yn sicr mae o yn anffodus, a hoffwn ymddiheuro ar ran y practis os ydan ni wedi brifo teimladau pobl ond mae yna gefndir i hyn.
"Dwi'n feddyg teulu ers 22 mlynedd ac yn y pum mlynedd dwytha 'dan ni wedi cael affliw o neb yn ymgeisio am swyddi yma, ac mewn 22 mlynedd dydan ni ddim wedi cael dim un Cymro yn ymgeisio.
"Dod i fyny hefo hysbyseb gwahanol ddaru ni, achos rydan ni yn ymwybodol fod petha wedi mynd yn ddrwg iawn hefo'r coronafeirws, a'r bwriad oedd trio denu rhai o'r trefydd achos mae nhw wedi cael llond bol ac angen newid trefn o fyw.
"Mae angen trafod hyn yn gall, mae yna 'wider issue' na'r iaith Gymraeg yn hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018