Pledio'n euog i ddynladdiad dyn 88 oed gyda chyllell

  • Cyhoeddwyd
Zara Anne Radcliffe
Disgrifiad o’r llun,

Mae Zara Anne Radcliffe bellach dan ofal Ysbyty Rampton yn Sir Nottingham

Mae menyw wedi pledio'n euog i ladd dyn 88 oed gyda chyllell mewn archfarchnad yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mai eleni.

Bu farw John Rees o anafiadau a gafodd yn ystod yr ymosodiad ym Mhen-y-graig. Roedd ei wraig 87 oed yn disgwyl amdano mewn car y tu allan.

Cafodd tri pherson arall eu hanafu yn y digwyddiad - Lisa Way, Gaynor Saurin ac Andrew Price - yn siop y Co-op ar Ffordd Tylacelyn ar 5 Mai.

Roedd Zara Radcliffe, 30, yn ymddangos ar gyswllt fideo o garchar diogel Rampton ar gyfer gwrandawiad ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Michael Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Rees ei drywanu wrth i'w wraig Eunice aros yn y car amdano

Plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddio John Rees, ond yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Plediodd yn euog hefyd i geisio llofruddio Gaynor Saurin, Andrew Price a Lisa Way.

Dywedodd bargyfeithiwr yr erlyniad, Michael Jones QC, fod y Goron yn derbyn ei phle yn seiliedig ar "dystiolaeth ffeithiol a seiciatryddol".

Ychwanegodd bod y dystiolaeth yn dangos bod Zara Radcliffe yn diodde' o scitsoffrenia adeg y digwyddiad a bod ganddi "salwch meddwl difrifol". Mae hi'n dal i ddiodde' o scitsoffrenia.

Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Jefford y byddai dedfrydu yn digwydd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher.