Cwestiynau am gonsortiwm gwella addysg GwE

  • Cyhoeddwyd
GwEFfynhonnell y llun, GwE

Mae cwestiynau wedi codi am statws cyflogaeth a chostau teithio gweithwyr corff sydd yn ceisio codi safonau addysg ysgolion yn y gogledd.

Mae consortiwm GwE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru - yn gweithio gydag awdurdodau lleol y rhanbarth "i ddatblygu ysgolion rhagorol" yn ôl eu gwefan.

Fe wnaeth archwiliad o gostau teithio GwE yn gynharach eleni ddod i'r casgliad nad oedd y rhan helaeth o gostau teithio staff yn cael eu gwirio gan reolwyr, ac mai "lefel cyfyngedig" o sicrwydd oedd yn bodoli ynghylch y trefniadau.

Daeth archwiliad arall gan y cyngor y llynedd i'r casgliad fod "nifer o weithwyr yn derbyn tâl drwy ddarparu anfonebau eu hunain neu eu cwmnïau" er eu bod yn cyflawni'r un rôl â nifer o aelodau staff GwE oedd yn cael eu cyflog drwy ddulliau arferol.

Dywed GwE eu bod "yn ymateb yn llawn i gasgliadau unrhyw archwiliad neu arolwg mewnol neu allanol".

Archwiliad cyflogaeth

Cyngor Gwynedd yw cyflogwr cyfreithiol y corff, ac mae gweithwyr GwE yn dod o dan delerau cyflogaeth y cyngor o ddydd i ddydd.

Bwriad archwiliad y cyngor y llynedd oedd sicrhau bod y cyngor yn talu unigolion yn gywir, yn seiliedig ar eu statws cyflogaeth, "gan ei fod yn effeithio ar daliadau treth a chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwr".

"Gall statws cyflogaeth anghywir arwain at gam-drafod ariannol yn ogystal â chosbau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi," meddai'r archwilwyr.

Dywedodd eu hadroddiad fod gwariant sylweddol ar 'Staff Asiantaeth' yn GwE yn ystod 2018/19: "Gwelwyd sawl enghraifft lle'r oedd gweithwyr yn bodoli ar y system swyddi fel 'Ymgynghorydd Her', ond yn cael eu talu drwy ddarparu anfonebau i GwE.

"Gwelwyd fod rhai o'r gweithwyr a delir drwy anfonebau yn gyfrifol am gyllidebau o fewn GwE ac yn ardystio nifer o daliadau. Nid yw rhoi rheolaeth o gyllideb GwE i unigolyn sydd ddim yn aelod o staff yn ymarfer da."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys consortiwm GwE yn yr adeilad yma ym Mae Colwyn. Mae'r corff yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn " i ddatblygu ysgolion rhagorol ar hyd a lled y rhanbarth"

Dywed yr adroddiad hefyd fod sawl enghraifft "o weithwyr sy'n anfonebu GwE yn gwneud hawliadau am ad-daliad am fynychu hyfforddiant a chynadleddau."

"Nid oes disgwyl i'r cleient ariannu hyfforddiant unigolion sydd ddim yn gyflogedig gyda hwy, gan fod disgwyliad eu bod eisoes yn gymwys i wneud y gwaith."

Roedd GwE wedi adnabod wyth unigolyn lle'r oedd eu statws cyflogaeth angen ei newid yn dilyn yr archwiliad.

Costau teithio

Yn ôl adroddiad archwiliad mewnol arall gan Gyngor Gwynedd i gostau teithio GwE am 2019/2020, nid oedd y rhan fwyaf o gostau teithio staff yn cael eu gwirio gan reolwyr.

Cyn i bolisi newydd ddod i rym gan y cyngor ym mis Gorffennaf 2018, roedd mwyafrif staff GwE yn hawlio milltiroedd llawn rhwng eu cartrefi a'r ysgol neu leoliad busnes GwE ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau.

O dan y polisi newydd nid oedd modd hawlio'r costau teithio hyn bellach - ac fe gafodd wyth o ganolfannau gwaith eu cadarnhau fel lleoliadau gwaith swyddogol ar draws y gogledd.

Dywed yr archwiliad mewnol fod nifer o'r staff "wedi dymuno newid lleoliad gwaith, a hynny i'r swyddfeydd sydd agosaf i'w cartrefi".

"Nid oes modd diystyru'r ffaith gall hyn fod wedi digwydd mewn ymateb i'r newid yn y Polisi a'r effaith caiff hyn ar gostau teithio'r swyddogion, yn hytrach nag am resymau ymarferol i GwE."

Ychwanegodd yr archwilwyr: "Wrth wirio hawliadau costau teithio'r swyddogion, ymddengys bod y rhai sydd wedi newid lleoliad gwaith swyddogol wedi cael budd ariannol, boed drwy hawlio am y teithiau maent yn gwneud i'w lleoliadau gwaith arferol, neu drwy leihau'r golled sydd ynghlwm â'r pellter rhwng y cartref a'r man gwaith swyddogol - neu gyfuniad o'r ddau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gofynnodd BBC Cymru Fyw i GwE faint o staff oedd y consortiwm yn ei gyflogi a sawl swyddog oedd wedi ei dalu drwy ei gwmni ei hun neu gydag anfoneb yn y gorffennol, a pha fantais oedd i'r swyddogion hawlio cyflogau drwy eu cwmnïau eu hunain neu drwy anfonebau personol?

Hefyd fe ofynnwyd pam nad oedd y rhan helaeth o gostau teithio staff wedi cael eu gwirio, a faint o sicrwydd all GwE ei roi fod y trefniadau cywir mewn lle bellach.

Ymateb y consortiwm

Mewn ymateb dywedodd GwE: "Cyngor Gwynedd yw awdurdod lletyol GwE a'r Cyngor yw cyflogwr cyfreithiol staff GwE. Mae GwE yn derbyn gwasanaethau cyllidol ac adnoddau dynol gan y Cyngor, sydd wedi cael ei adnabod i weithredu'r gwasanaethau yma ar ei rhan yn rhanbarthol.

"O safbwynt materion personél a chyllid, mae gweithdrefnau GwE yr un rhai a Chyngor Gwynedd, ac mae staff GwE yn ddarostyngedig i delerau ac amodau cyflogaeth Cyngor Gwynedd. Ers ei sefydlu yn 2013, mae GwE yn dilyn arweiniad personél a chyllid y Cyngor yn ofalus, yn enwedig pan mae canllawiau newydd yn cael eu cyflwyno neu deddfwriaeth cenedlaethol yn newid.

"Mae GwE, fel adrannau Cyngor Gwynedd, yn ymateb yn llawn i gasgliadau unrhyw archwiliad neu arolwg mewnol neu allanol.

"Cyflwynwyd yr adroddiad Archwilio Mewnol diweddaraf i Gyd-bwyllgor GwE ar 15 Medi 2020, lle derbyniwyd cadarnhad fod GwE yn dilyn polisi Cyngor Gwynedd ers mis Gorffennaf 2018, ac yn cefnogi'r gofyn i reolwyr GwE adolygu hawliadau treuliau teithio."

'Cryfhau trefniadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Cyflwynwyd adroddiad i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 am hawliadau treulio teithio staff GwE. Nodwyd rhai camau roedd dan sylw ar y pryd i gryfhau trefniadau.

"Ers hynny, mae adroddiad pellach wedi ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor GwE sy'n cadarnhau fod staff y gwasanaeth effeithiolrwydd ysgolion yn cydymffurfio gyda'r polisïau treuliau teithio perthnasol.

"Cyhoeddodd Llywodraeth y DG newidiadau i drethiant contractwyr yng Nghyllideb Hydref y Canghellor 2018. Fel sawl cyflogwr, yn sgil y newidiadau yma i reolau "IR35", rhoddodd GwE sylw priodol ar y pryd i faterion statws cyflogaeth amlygwyd mewn archwiliad yn 2018/19."