Cyhoeddi enillwyr Seremoni BAFTA Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd Jonathan Pryce, Ruth Wilson a The Left Behind ymhlith enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru a gafodd eu cyhoeddi nos Sul.
Hon oedd 29ain seremoni Gwobrau BAFTA Cymru ac fe gafodd ei darlledu ar sianeli Facebook, Twitter a YouTube BAFTA oherwydd cyfyngiadau Covid.
Cafodd y noson ei harwain gan y cyflwynydd teledu, Alex Jones ac ymhlith y cyflwynwyr gwobrau oedd Catherine Zeta-Jones, Katherine Jenkins, Asif Kapadia, George Lucas a Tom Ellis - a hynny drwy gyswllt fideo.
Cafodd y seremoni ei chynnal fel sioe stiwdio gaeëdig lle y cedwir pellter cymdeithasol, ac fe gafodd yr enwebeion gyfle i dderbyn eu gwobrau'n rhithwir.
'Ar y rhestr fer am y tro cyntaf'
Roedd 20 o'r rhai sydd wedi eu henwebu ar gyfer BAFTA Cymru eleni wedi cyrraedd y rhestr fer am y tro cyntaf gan gynnwys Hanna Jarman a Mari Beard a'r actor ifanc Sion Daniel Young.
Y ddrama 'His Dark Materials' gafodd y mwyaf o enwebiadau y tro hwn, sef naw.
The Left Behind enillodd y wobr Drama Deledu, gan guro Keeping Faith/Un Bore Mercher, His Dark Materials ac In My Skin.
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd y gyfres boblogaidd i blant ar S4C, Deian a Loli - a hynny am yr eildro - Cyrn ar y Mississippi oedd y Rhaglen Adloniant Orau, ac enillwyd y wobr Cyfres Ffeithiol gan Ysgol Ni: Maesincla.
Eisoes cyhoeddwyd mai'r Cyfarwyddwr Celf a'r Dylunydd Cynhyrchu, Leslie (Les) Dilley, a anwyd yn y Rhondda, oedd derbynydd y 29ain Wobr am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu.
"Mae Les Dilley yn ysbrydoliaeth enfawr", meddai Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru. "Ef oedd un o'r bobl oedd yn gwthio y garreg fawr honno yn Raiders of the Lost Ark. "
"Roedd yn gyfrifol am R2D2 ar y set yn y ffilm Star Wars gyntaf a gweithiodd ar set cartref Luke yn Tunisia. Mae ganddo gymaint o straeon o'i bum degawd o waith ar fwy na 40 o wahanol brosiectau ffilm a theledu gyda'r enwau mwyaf yn y busnes - George Lucas, Ridley Scott, Steven Spielberg, John Landis, James Cameron a Mimi Leder. A dechreuodd y cyfan yng Nghymru."
Dywedodd Angharad Mair: "Rwy'n falch iawn o weld cynifer o ymarferwyr crefft benywaidd yn cael eu cydnabod eleni, yn ogystal â'r ganran uchel o'r rhai a dderbyniodd eu gwobr BAFTA gyntaf. Llongyfarchiadau i'r holl enwebeion ac enillwyr."
Wrth longyfarch yr enillwyr meddai Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Ry'n ni wrth ein bodd o ennill pum gwobr BAFTA Cymru heno. Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector.
"Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o'r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr."
ENILLWYR GWOBRAU BAFTA CYMRU 2020
CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU
LES DILLEY
ACTOR
ENILLYDD: JONATHAN PRYCE fel Cardinal Jorge Mario Bergoglio/Pope Francis YN The Two Popes
Hefyd wedi eu henwebu:
ANTHONY HOPKINS fel Pope Benedict XVI YN The Two Popes
ROB BRYDON fel Rob YN The Trip to Greece
SION DANIEL YOUNG fel Gethin YN The Left Behind
ACTORES
ENILLYDD: RUTH WILSON fel Mrs Coulter YN His Dark Materials
Hefyd wedi eu henwebu:
DAFNE KEEN fel Lyra Belacqua YN His Dark Materials
GABRIELLE CREEVY fel Bethan Gwyndaf YN In My Skin
SALLY HAWKINS fel Jane YN Eternal Beauty
DRAMA DELEDU
ENILLYDD: THE LEFT BEHIND
Hefyd wedi eu henwebu:
HIS DARK MATERIALS
IN MY SKIN
UN BORE MERCHER / KEEPING FAITH
TORRI TRWODD
ENILLYDD: LISA WALTERS ar gyfer On the Edge: Adulting
Hefyd wedi eu henwebu:
HANNA JARMAN a MARI BEARD ar gyfer Merched Parchus
MARTIN READ ar gyfer The Insomniacs
SEBASTIAN BRUNO a DAVID BARNES The Dynamic Duo
RHAGLEN BLANT
ENILLYDD: DEIAN A LOLI
Hefyd wedi eu henwebu:
CIC
PROJECT Z
DYLUNIO GWISGOEDD
ENILLYDD: SIAN JENKINS ar gyfer Eternal Beauty
Hefyd wedi eu henwebu:
CAROLINE MCCALL ar gyfer His Dark Materials
RAY HOLMAN ar gyfer Fleabag
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL
ENILLWYR: SIÔN AARON a TIMOTHY LYN ar gyfer Eirlys, Tim a Dementia
Hefyd wedi eu henwebu:
MARC EVANS ar gyfer The Prince and the Bomber
MEI WILLIAMS ar gyfer Tudur Owen: O Fôn i'r Lleuad
LAURA MARTIN ROBINSON ar gyfer Warriors: Our Homeless World Cup
CYFARWYDDWR: FFUGLEN
ENILLYDD: LUCY FORBES ar gyfer In My Skin
Hefyd wedi eu henwebu:
CRAIG ROBERTS ar gyfer Eternal Beauty
JOSEPH BULLMAN ar gyfer The Left Behind
LEE HAVEN JONES ar gyfer Doctor Who (Spyfall Part 2)
GOLYGU
ENILLYDD: REBECCA TROTMAN ar gyfer Doctor Who
Hefyd wedi eu henwebu:
GERAINT HUW REYNOLDS ar gyfer The Prince and the Bomber
NIVEN HOWIE a STEPHEN HAREN ar gyfer His Dark Materials
STEPHEN HAREN ar gyfer Eternal Beauty
RHAGLEN ADLONIANT
ENILLYDD: CYRN AR Y MISSISSIPPI
Hefyd wedi eu henwebu:
HENO
PRIODAS PUM MIL
THE TUCKERS
CYFRES FFEITHIOL
ENILLYDD:YSGOL NI: MAESINCLA
Hefyd wedi eu henwebu:
CORNWALL: THE FISHING LIFE
WALES: LAND OF THE WILD / CYMRU WYLLT
WARRIORS: OUR HOMELESS WORLD CUP
COLUR A GWALLT
ENILLYDD: MELANIE LENIHAN ar gyfer War of the Worlds
Hefyd wedi eu henwebu:
JILL CONWAY ar gyfer The Left Behind
PAMELA HADDOCK ar gyfer His Dark Materials
NEWYDDION A MATERION CYFOES
ENILLYDD: FLOODING STRIKES THE SOUTH WALES VALLEYS
Hefyd wedi eu henwebu:
WALES INVESTIGATES INSIDE THE UK'S PUPPY FARM CAPITAL
Y BYD AR BEDWAR
CERDDORIAETH WREIDDIOL
ENILLYDD: JONATHAN HILL ar gyfer The Long Song
Hefyd wedi eu henwebu:
MARK THOMAS ar gyfer Last Summer
JOHN HARDY MUSIC ar gyfer Steel Country
KARL JENKINS a JODY JENKINS ar gyfer Wales: Land of the Wild / Cymru Wyllt
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN
ENILLYDD:SUZIE LAVELLE ar gyfer His Dark Materials
Hefyd wedi eu henwebu:
BJORN BRATBERG FNF ar gyfer Bang
DAVID HIGGS ar gyfer His Dark Materials
DAVID WILLIAMSON ar gyfer War of the Worlds
CYFLWYNYDD
ENILLWYR: EMMA WALFORD a TRYSTAN ELLIS-MORRIS YN Prosiect Pum Mil
Hefyd wedi eu henwebu:
CARYS ELERI YN Carys Eleri'n Caru
ELIS JAMES YN Elis James - Funny Nation
HAYLEY PEARCE YN Hayley Goes…Sober
DYLUNIO CYNHYRCHU
ENILLYDD: JOEL COLLINS ar gyfer His Dark Materials
Hefyd wedi eu henwebu:
ARWEL WYN JONES ar gyfer Dracula
TIM DICKEL ar gyfer Eternal Beauty
FFILM FER
ENILLYDD: SALAM
Hefyd wedi eu henwebu:
THE ARBORIST
CREEPY PASTA SALAD
PALE SAINT
RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL
ENILLYDD: THE PRINCE AND THE BOMBER
Hefyd wedi eu henwebu:
GARETH THOMAS: HIV AND ME
THE MURDER OF JILL DANDO
TUDUR OWEN; O FÔN I'R LLEUAD
SAIN
ENILLYDD: Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Good Omens
Hefyd wedi eu henwebu:
ALEX ASHCROFT ar gyfer The Last Tree
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Sex Education
AWDUR
ENILLYDD:KAYLEIGH LLEWELLYN ar gyfer In My Skin
Hefyd wedi eu henwebu:
ALAN HARRIS ar gyfer The Left Behind
HANNA JARMAN a MARI BEARD ar gyfer Merched Parchus
RUSSELL T DAVIES ar gyfer Years and Years
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019