Pump yn rhagor o farwolaethau a 1,104 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Lab testsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod pump yn rhagor o farwolaethau wedi'u cofnodi yng Nghymru yn ystod y 24 awr ddiwethaf.

Mae nifer yr achosion newydd sydd wedi'u cadarnhau yn 1,104 gan ddod â'r cyfanswm i 42,681.

Mae nifer y rhai a gredir o fod wedi marw o ganlyniad i Covid-19 bellach wedi codi i 1,777.O'r achosion newydd roedd 178 yn Rhondda Cynon Taf, 154 yng Nghaerdydd, 94 yn Abertawe, 73 yng Nghastellnedd Port Talbot a 72 yng Nghaerffili.

Y ffigyrau ar eu huchaf yn ne Cymru

Yn ystod yr wythnos diwethaf mae nifer yr achosion i bob 100,000 fel a ganlyn:374.6 - Merthyr Tudful331.2 - Rhondda Cynon Taf303.1 - Caerdydd272.0 - Blaenau Gwent265.2 - Castell-nedd Port Talbot239.7 - Abertawe

Ddoe cofnodwyd y ffigyrau dyddiol uchaf ers mis Mai.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai a dim ond yn cynnwys achosion sydd wedi cael eu cadarnhau ar ôl prawf mewn labordy.

Dyw'r ffigyrau ddim yn cynnwys pobl o Bowys sydd yn cael triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr.